Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

meseia

meseia

Ni hawliai Iesu, y mae'n ddiogel gennyf, unrhyw swydd neu deitl o urddas gwleidyddol neu eschatolegol iddo ei hun, ond y mae'n sicr fod llawer yn ei oes yn meddwl amdano fel un a gyflawnai'r addewid am y Meseia, fel un a fyddai'n rhyddhau ac adfer Israel.

Yn ystod yr wythnos olaf honno yn Jerwsalem yr oedd y ddinas yn llawn o'r disgwyliad am fuddugoliaeth y Meseia.

Y mae hyd yn oed hen bagan fel fi wedi cael llond bol ar y busnes yma o gyfeirio at Graham Henry fel y Meseia.

Buasai unrhyw ddyn felly wedi cael ei gyfarch fel Meseia gan y bobl, ond Fidel yn unig a feddai ar y rhinweddau angenrheidiol.

Ar y sail yma bu H. W. Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.

Montefiore yn adeiladu damcaniaeth fod ymgais i godi gwrthryfel yn yr anialwch a gorfodi Iesu i ymgymryd â swyddogaeth meseia milwrol.