Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

metel

metel

Daeth un o'r garfan o hyd i ddalwasg bach mewn cerbyd Eidalaidd a adawyd yn yr anialwch ac, yn ogystal, gydaid o bethau metel amrywiol oedd yn ddirgelwch iddo fe, ond a alluogodd Hadad i wneud sawl jobyn cywrain.

Yn gyntaf, ymddengys smotyn bach ar y metel, a hwnnw wedyn yn tyfu ac yn disgyn i ffwrdd yn ddarnau man, gan adael arwynebedd bontydd haearn yn gwanhau ac yn dymchwel o achos rhwd, a peth cyffredin yw gweld darnau o rwd ar hen geir.

Pan welodd ddau rwystr metel uwch ei ben sylweddolodd pe bai ef yn ymestyn ei gorff rhyngddyn nhw buasai'n gallu bod yn `bont' y gallai pobl gropian drosti i ddiogelwch.

Sylwer ar y mwrthwl-fwyell o Fwlchyddwyallt, erfyn sy'n edrych fel copi, mewn carreg, o fwrthwl-fwyeill metel Oes y Pres.

"Er mai coesau metel sy ganddo, mae o yn gallu dinistrio ein hawyrennau ni yn well na neb bron!" "Rhaid wir," gwylltiodd Almaenwr arall.

Gan iddi basio'n syth drwodd, doedd 'na ddim posib astudio'r fwled ond fe gawson ni hyd i ddarnau bychain o'r metel ar y siaced.'

Gellir amddiffyn metel rhag ymosodiadau rhwd trwy ei orchuddio a phaent, olew, neu rai metalau nad ydynt yn rhydu.

Taflodd gipolwg dros ei ysgwydd a gweld metel yn fflachio yn y golau egwan.

Nid yw'r metel cromiwm yn rhydu, ac y mae haen o gromiwm yn amddiffyn bwmperi ceir a'u prif oleuadau, yn ogystal a'n celfi yn yr ystafell ymolchi.

Credai'r prifathro i'r fellten ddigyn i'r ddaear yn ymyl yr ysgol ac i dipyn o'i grym fynd i waith metel y rheiddiaduron gan beri iddo neidio ar ei draed yn bur sydyn mewn sioc.

"Dyden ni ddim am wneud yr un camgymeriad eto," chwarddodd pennaeth y gwersyll yma gan gymryd coesau metel oddi arno.

Gosodwch wahanol fwydydd ar gaeadau metel wedi eu rhoi'n sownd mewn darn o bren ar ben postyn.

Enghraifft o laser felly yw'r un Nd:YAG, sy'n seiliedig ar grisial o yttriwm alwminiwm garnet (YAG) - deunydd digon tebyg i saffir - gydag atomau o'r metel prin neodymiwm (Nd) yn chwarae rhan y cromiwm.

Coesau Metel

Ar ôl un plwc sydyn arall, syrthiodd darn metel ei goes dde i ffwrdd a disgyn i waelod y cocpit.

Weithiau credai ei fod yn clywed sŵn metel yn taro yn erbyn metel.

Daliodd pawb eu gwynt coesau iawn yn gwneud hyn, heb sôn am beilot hefo coesau metel!

Am ran o eiliad, safai'r dwblwr a'r senglen gyferbyn â'i gilydd, yn frwydr rhwng nerth corff a metel poeth.

Fe ddigwydd pan fo metel ac ocsigen yn cyfuno.