Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

methesda

methesda

"Fe hoffwn i weld trafodaeth yn digwydd ym Methesda ar y pwnc hwn," meddai Elinor Ellis Williams o Stryd Grey.

Roedd y Cyngor yn falch iawn o'r waith sydd eisoes wedi ei wneud ym Methesda, "fel y tai yn Gordon Terrace," meddai Mr Lewis.

Y 'Riot Act' yn cael ei darllen ym Methesda a milwyr yn cael eu symud i'r dref.

Beth yw eich barn chi am y cynllun adnewyddu hwn ym Methesda?

Yr oedd y Calfiniaid ymhlith y teilwriaid yn aelodau ym Methesda, capel gweithgar, bywiog a blaengar y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug.

Mae Enid a'r teulu wedi ymgartrefu ym Methesda bellach ac mae hi newydd dderbyn ei gradd yn y Coleg Normal.

Ond aeth yn ei flaen i Gaer ac i Wolverhampton i astudio a graddio mewn cylfyddyd gain, a threulio dwy flynedd a hanner wedyn yn gweithio fel arlunydd ym Methesda, yn peintio portreadau, ond yn fwyaf arbennig, y tirwedd mynyddig o'i gwmpas.

Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw.

O'r diwedd cysylltodd â'i feddyg ef ei hun ym Methesda, Doctor Mostyn Williams bryd hynny.

Ond, mynegodd rhai o drigolion Carneddi eu pryderon ynglŷn a'r cynllun wrth y Llais, gan ddweud eu bod nhw'n poeni y bydd y tai ym Methesda i gyd yn edrych yr un fath yn y dyfodol, ac y bydd nodweddion hanesyddol diddorol, fel ffenestri anghyffredin, wedi mynd ar goll.

Crydd oedd ei dad, fel ei daid, John Jones, gwr galluog ac adnabyddus ym Methesda.