Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mewnol

mewnol

mae'r gwledydd, y milwyr ar arfau yn newid, ond yr un yw'r clwyfau mewnol.

Er ein bod o ran y dyn allanol yn dadfeilio, o ran y dyn mewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd...

Gan mai Jungiad oedd yr awdur, teg disgwyl mai'r hyn a wêl yn bennaf mewn llenyddiaeth, yn enwedig chwedlau, ydyw delweddau sy'n cyfleu byd a bywyd mewnol, anymwybodol y seici neu'r enaid.

Nid oes yma fawr o ddadansoddi mewnol, na hyd yn oed o ddisgrifio teimladau.

asesu, cofnodi a chyflwyno adroddiadau - ei ddefnydd i godi safonau cyrhaeddiad ac i gynllunio gwaith newydd; ei gymedrolrwydd mewnol i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gosod yn gywir ar y lefel neu gyfnod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol y maent wedi'i gyrraedd; ac i ba raddau y mae system yr ysgol yn cynnig trefn asesu drwyadl, ddibynadwy a pharhaus ar gyfer pob disgybl ym mhob un o Dargedau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Roedd ei gloc mewnol wedi drysu'n lân.

Ni welwn fawr ddim diben mewn gwneud y Gymraeg yn brif gyfrwng addysg holl ysgolion Categori A y sir, oni ddaw'r Gymraeg wedyn yn brif iaith gweinyddiaeth gyhoeddus a mewnol ein prif sefydliadau.

Ar sail astudiaeth o'u llenyddiaeth, ceisir disgrifio'r gorffennol mewnol hwnnw y gellir ei enwi yn feddwl a dychymyg.

Gall goleuni deithio'n rhwydd o un pen i'r llall o'r ffibr, ond ni all ddianc drwy'r ochrau oherwydd fod adlewyrchiad mewnol ar y ffin rhwng y craidd a'r gorchudd.

(b) Terfynu Gwasanaeth oherwydd Gwaeledd - Swyddogion Mewnol ac Allanol

Yr oedd yn bosibl, wrth gwrs, fod y dyn dysgedig hefyd wedi cael profiad mewnol, ond yr oedd hyn yn annhebyg, gan fod yr offeiriadaeth yn bennaf yn broffesiwn - sef ffordd o ennill bywiolaeth - a ddenai bobl am y rhesymau anghywir, felly.

Roedd rhisgl mewnol y dderwen wedi ei sychu a'i droi'n bowdwr yn donig da.

Dyma'r weledigaeth Gristionogol cyn i'r meddwl seciwlar droi'r bydysawd yn "fyd natur" yn bod ac yn datblygu wrth ei ddeddfau mewnol ei hunan, a byd felly lle nad oedd angen Duw.

Yn anffodus, oherwydd y problemau mewnol sy ganddyn nhw yn Samoa maen nhw wedi dod a thîm sy'n ddierth i ni.

Rhaid bwyta bwyd maethlon hefyd, oherwydd treuliad bwyd sy'n creu'r ynni i ddatblygu'r gwres mewnol y buom yn sôn amdano.

Nid yw y llyfr heb ei hanes, y mae "profion tu mewnol" yn dangos iddo fod ar grwydr.

Mae i hyn oblygiadau ar ddatblygu economaidd, a cheir dadl gref dros fuddsoddi mewnol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, am ei fod yn dileu rhwystrau ffisegol pellter a all atal buddsoddi.

Ond ar y cyfan cyflawnodd y gyfundrefn wasanaeth mawr drwy roi sicrwydd i lefel prisiau allanol mewn byd lle yr oedd prisiau mewnol yn newid yn weddol raddol; ac yn ychwanegol fe orfodwyd ambell i drysorlys i gadw ei fantolen yn fwy gwastad.

yr amser y mae'r bom i fod i gael ei thanio; ble y gall y bom fod wedi'i gosod; oed, rhyw, acen ac unrhyw arwydd o gynnwrf, tensiwn neu fedd-dod yn y sawl sy'n galw; p'un a yw'r alwad wedi'i gwneud o flwch ffôn, wedi'i deialu i mewn neu yn dod o estyniad mewnol; p'un a oedd yr alwad yn swnio fel bod y sawl oedd yn galw yn darllen neges oedd wedi'i baratoi neu beidio.

Mae nifer o stori%au Aled Islwyn yndarlunio ymdrech yr unigolyn i ddal ati ac hyd yn oed i geisio cynnal gwerthoedd yn wyneb diffyg strwythur a diffyg raison d'être y gymdeithas sydd ohoni, yn wyneb yr unigedd mewnol anochel sy'n rhan o brofiad cynifer.

Bu cynnydd hefyd yn yr oriau hyfforddiant mewnol gyda dyfodiad staff prosiectau newydd ynghyd a staff craidd.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dþr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Safwn yn un o encilfannau coridor yr athrawon yn edrych ar haul y pnawn yn taro ar yr adeiladau o amgylch y cwad mewnol.

(Fe wnaeth - - y pwynt mai Angharad Garlick yw cynhyrchydd y slotiau mewnol).

Archwiliais wynebau allanol llabedau mewnol ymylon mantell yn y microsgop electron sganio gan obeithio gweld derbynyddion synhwyro eraill.

Os yw'r awdur yn gallu creu darlun digon cryf o ofnau mewnol dyn, yna mae hi'n bosibl dehongli'r myth hwnnw yn berthnasol i bob cenhedlaeth.

O dipyn i beth gorseddwyd yr argyhoeddiad deublyg fod Natur yn gyfundrefn fecanyddol yn gweithio yn ôl ei deddfau mewnol ei hunan a bod y bersonoliaeth ddynol, trwy ymarfer ei gallu i ddadansoddi ac ymresymu, yn gallu olrhain ac esbonio'r deddfau hynny a'u defnyddio i reoli byd Natur.

Mae angen pwysleisio'r ffaith y gallwn osgoi Hypothermia drwy gadw gwres mewnol y corff yn foddhaol.

Yr unig gymhwyster a fynnai Eglwys Lloegr gan ei phregethwyr oedd gradd mewn prifysgol - sef dysg, ac nid duwioldeb, a allai ddod gyda phrofiad mewnol yn unig.

Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan

Gyda'r fath chwyddiant a chwalfa masnachol, nod offer plymars a beiro a ffilm sy'n amhosibl o brin ond teiars i lori%au ac awyrennau, fel y tystia moelni brawychus olwynion mewnol y deuawdau rwber sy'n hwylio'r tarmac.

Gadewch inni gyfoethogi byd mewnol y plant ond nid fel hyn.

Yr oedd ei fywyd mewnol mor fyw fel na allai beidio a'i fynegi ei hun mewn gweithredoedd yn ei ymateb i amgylchiadau.

Yn y frawddeg gyntaf, heb dorri ar symudiad yr adroddiad, rhydd argraff glir o gyflwr mewnol Robin.

Mae'r ymennydd bob amser yn ymdrechu i gadw gwres mewnol y corff y tu mewn i derfynau cyfyng drwy agor neu gau capilari%au'r croen fel y bo angen.

Gwelir hwy mewn clytiau dyrchafedig ac fe'u dosberthir dros adrannau distal wynebau allanol y llabedau mewnol.

Dau achwyniad arbennig yn erbyn y drefn yma oedd ei bod yn gwneud yr economi mewnol yn israddol i gyflwr y fantolen allanol a lefel y gyfradd ac, yn ail, fod unrhyw gyfundrefn sefydlog yn debyg o fagu rhyw grynofa afiach o hapfasnachu yn y farchnad gyfnewid dramor.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dŵr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Bellach i'r naill awdur fel y llall, os mewn dulliau gwahanol i'w gilydd, y mae seiliau'r gymdeithas yn gwegian, ac mae'r pwyslais wedi symud oddi wrth natur yr hen gymdeithas at broblemau'r unigolyn o fewn y gymdeithas mewydd symudol ac ansicr, ac oddi wrth ddigwyddiadau allanol dwys neu ddigri at gymhellion mewnol unigolion yn ceisio ymdopi â bywyd.

"Wedi fy nghyffroi i waelod fy mod, aeth y goleuni allanol yn oleuni mewnol.

A'r noson hon hefyd yr oedd rhyw wrthwynebu mewnol yn boen iddo.