Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mhencampwriaeth

mhencampwriaeth

Enillodd Kelly Morgan o Donteg ger Caerdydd, ei gêm rownd gyntaf ym mhencampwriaeth Agored Siapan.

Mae Richard Vaughan o Lanbradach wedi cychwyn yn hyderus ym Mhencampwriaeth Badminton Lloegr.

Fe ddechreuodd y chwaraen brydlon am saith o'r gloch ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru ar gwrs y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd neithiwr - curodd Mark King Fergal O'Brian o ddeg ffrâm i wyth.

Mae Michael Schumacher (Ferrari) dipyn ar y blaen ym Mhencampwriaeth y Gyrrwyr ar ôl ennill Grand Prix Canada ym Montreal.

Mor belled ni ohiriwyd y gêm rhwng Cymru a Ffrainc ym Mhencampwriaeth Rygbi y Chwe Gwlad sydd i'w chwarae wythnos i ddydd Sadwrn.

Dim ond dau Gymro fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield eleni.

Un newid fydd yn nhîm Yr Alban ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Murrayfield brynhawn Sadwrn.

Mae helynt cyffuriau eisoes wedi codi ym Mhencampwriaeth Cwpan Rygbi Cynghrair y Byd.

Mae Ian Woosnam yn ail ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru.

Cafodd Ian Woosnam ail rownd o 70 sy'n golygu ei fod bum ergyd yn well na'r safon ym Mhencampwriaeth Agored Yr Eidal.

Stephen Dodd o'r Barri oedd y Cymro mwyaf llwyddiannus ym mhencampwriaeth Denmarc.

Mae Matthew Stevens dair ffrâm i ddwy ar ôl yn erbyn Gary Ponting yn gêm 16 ola ym Mhencampwriaeth Snwcer Prydain yn Plymouth.

Mae'r chwaraewr sboncen o Gymru, David Evans, yn amddiffyn ei deitl ym mhencampwriaeth agored Prydain sy'n dechrau heddiw.

Mae Kelly Morgan, yn annisgwyl, wedi colli ei gêm ail rownd ym mhencampwriaeth badminton y byd yn Seville.

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cychwyn ei gêm gynta ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Northampton heddiw.

Brwydr fawr Mark Taylor fydd bod yn holliach ar gyfer gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fydd yn dechrau fis Chwefror.

Bydd Phil Price o Bontypridd yn dechrau'i ail rownd ym Mhencampwriaeth Golff Ryngwladol Benson & Hedges, heddiw, bedair ergyd tu ôl i'r arweinwyr a dwy ergyd yn well na'r safon.

Martina Hingis yn erbyn Mary Pierce ac Arantcha Sanchez-Vicario yn erbyn Conchita Martinez fydd gemau rownd gyn-derfynol y merched ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Ffrainc ym Mharis.

Prynhawn Mercher ar faes Eisteddfod Llangollen - dyna'n sicr pryd y plannwyd yr hedyn i fynd i Mallorca i gystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd, er na wyddwn hynny ar y pryd.

Gustavo Kuerten o Brasil enillodd gystadleuaeth y dynion ym Mhencampwriaeth Tenis Agored Ffrainc ym Mharis.

Mae Mark Williams, y Pencampwr Byd, trwodd i rownd yr 16 ola ym Mhencampwriaeth Snwcer Prydain yn Bournemouth ar ôl curo Tony Drago, naw ffâm i un.

Mae'r Cymro Stephen Dodd chwe ergyd tu ôl i'r arweinydd Porraig Harrington ym Mhencampwriaeth Agored Singapore.

Ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield neithiwr enillodd Pencampwr 1997, Ken Doherty, ei gêm rownd gynta yn erbyn Nick Dyson o ddeg ffrâm i saith.

Ym mhencampwriaeth y rhai dan 18 oed - y minor final - Galway a drechodd Cork, ac yn y gêm dan 21 oed, Limerick oedd yr enillwyr.

Ym Mhencampwriaeth Tyllau'r Byd yn Wentworth mae Padraig Harrington un twll ar y blaen yn erbyn Bob May, Nick Faldo dri thwll ar y blaen i Darren Clarke ar ôl deunaw twll.

Cafodd Matthew Stevens, o Gaerfyrddin, sioc yn rownd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer Liverpool Victoria neithiwr.

Mae Colin Montgomerie bump ar y blaen i Padraig Harrington ym Mhencampwriaeth Tyllau'r Byd yn Wentworth.