Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mhentref

mhentref

Becws bach oedd gan fy nhad ym mhentref Aberffraw yn Sir Fôn, ac yno y galwai pawb ar eu ffordd i'w gwaith.

Cafwyd ar ddeall fod gan y llywodraeth dai gorffwys ym mhentref Sipi a bu raid ysgrifennu ar frys i sicrhau lle.

Symudodd i Aberystwyth, yn teimlo ei fod angen newid, a thrwy weithio ar brosiect cymunedol ac aml-gyfrwng ym mhentref Cribyn, croesodd y bont rhwng byd celfyddyd gain a'r theatr, gan weithio am dair blynedd wedyn gyda Chwmni Cyfri Tri.

Flynyddoedd maith yn ôl, roedd saer maen tlawd o'r enw Bernez yn byw ym mhentref Plouvineg.

Mae 'na weithwyr da i'w cael ym mhentref Waunfawr, ger Caernarfon.

Dechreua'r hanesyn cyntaf yma gyda theulu mawr ym mhentref Tal-y-waun, sir Fynwy.

Sylwyd hefyd fod tri chwarter nifer y cartrefi ym mhentref Cefn Brith erbyn hyn yn eiddo i Saeson.

Yn ystod fy ieuenctid trigai oddeutu deg ar hugain o deuluoedd ym mhentref Cefn Brith, y cyfan bron a'u gwreiddiau yn yr ardal ar wahân i ddyfodiaid a ddaeth yno o ganlyniad i briodas.

Ym mhentref y Cefn, dros hanner milltir o'r Cae Gwyn, yr oedd yr ysgol.