Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mhobman

mhobman

Bysedd a'i rhybuddai i fod yn llonydd ac i gofio bod llygaid y Gwylwyr ym mhobman.

Safent ym mhobman yr edrychai.

"Mae'n boeth iawn yma, yn 26 ar ei uchaf ac 18 ar ei isaf gyda gwaharddiadau tân ym mhobman," meddai.

'Wel,' meddent, 'pam na ddylai criw bach gael eu hiaith a'u diwylliant eu hunain; mae e'n digwydd ym mhobman yn yr India.' Doedden ni a'n hiaith ddim yn un o ffeithiau ysgytwol bywyd iddynt mae hynny yn sicr.

Tu fewn a thu fas i'r ffens mae camerâu teledu a bownsars ym mhobman.

Nodwedd arbennig y cyfarfodydd hyn, fel ym mhobman yng Nghymru ar y pryd, oedd fod pobl yn cymryd rhan yn ddigymell, llawer ohonynt yn bobl nad oeddent wedi cymryd rhan yn gyhoeddus erioed o'r blaen.

Gwelir hen adeiliadau, simneiau, a thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â'r gweithfeydd glo a haearn a'r chwareli ym mhobman ar hyd a lled y wlad; ond, yn amlach na pheidio, mae'r hen longau hwyliau wedi pydru ers blynyddoedd yn y dŵ'r hallt, neu wedi cael eu dinistrio neu eu symud er mwyn gwneud lle mewn porthladdoedd.

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Mae mor uchel nes y medrir ei chlywed hi ym mhobman, o ben draw Cernyw i bellafoedd yr Alban.

Roedd y siopau'n agored ym mhobman ond nid oedd arno angen dim.

Cafodd afael ar ei dors a phan droes y golau ymlaen gwelodd bod cobras gwenwynig o'i gwmpas ym mhobman.

Roedd o a Bedwyr yn sefyll yng nghanol ffair enfawr yn rhywle, a miloedd o bobl o'u cwmpas ym mhobman.

Sŵn, stŵr, drewdod ym mhobman.

Mae milwyr ym mhobman, yn paratoi i fynd ar fyrddau'r llongau hwyliau.

Roedd pobl ym mhobman.

'Mi fyddai plu Nico Bach hyd y caets ym mhobman.' 'Dyna fo.' Cododd Rhodri ddwy law gynnil.

Creigiau duon sydd ym mhobman wrth i'r gadwyn o ddringwyr ddilyn yr arweinydd i'r copa.

Ac er fod petha wedi gwella yng Nghymru fel ym mhobman, dydi tlodi ddim mor ddiarth i blant Cymru.

Ta beth, ar y stryd yng Nghaerfyrddin y clywais i lanc ifanc yn dweud gydag anghrediniaeth yn ei lais wrth un arall: Ma fen i wneud e ym mhobman.

Yma, fel ym mhobman arall drwy'r byd, mae popeth bron o blaid ymuno a'r mwyafrif: chwedl yr Americanwyr, 'If you can't lick 'em, join 'em'.

Ymhob gorsaf mae pobl, pobl, pobl ym mhobman.

Yr hyn a'm synnodd oedd i'r Dr Jamieson alw'r asgwrn bychan hwnnw yn 'helm y Galiad' a hynny o bosib ar y sail iddo fod wedi darllen fel y gelwid ein cyndadau ni - a oedd i'w cael ym mhobman yn y Gogledd - gan y Rhufeiniaid yn Gallii.

Wn i, na neb arall, o ble y daethon nhw; un diwrnod roedd popeth yn iawn, a'r diwrnod wedyn roedden nhw ym mhobman.

Cypyrddau wedi%u dymchwel, llestri wedi'u torri'n chwilfriw, ac roedd coesau'r mop a'r brwshys llawr fel matsys ym mhobman.

Gyda'r nosau, teithiai o amgylch y ddinas gan genhadu ym mhobman.