Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mhrif

mhrif

Ar ddydd Mercher y cyhoeddir y Gwyliwr, ac am ddeuddydd cynta'r wythnos fy mhrif broblem i fel golygydd yw dod o hyd i stori ddiddorol ar gyfer tudalen blaen y papur.

Ar ryw ystyr felly y mae ysgolheictod diweddar yn ailgydio (ond gyda llawer mwy o wybodaeth a manyldra hanesyddol) ym mhrif linellau dehongliad cychwynnydd yr ymchwil fodern am yr Iesu hanesyddol, sef Reimarus, gŵr o ddaliadau deistaidd yn y ddeunawfed ganrif a geisiai wrthwynebu'r Gristnogaeth draddodiadol.

Maen nhw'n derbyn eu haddysg mewn sefyllfaoedd tra gwahanol ac o dan amodau gwahanol, gyda gwahaniaethau yn ardaloedd a maint yr ysgol, ym mhrif iaith a nifer y plant, ac amrywiaeth yn yr amser maen nhw'n treulio yn yr ysgol bob wythnos.

Ei ddadl yw fod y "dilyniant" cyfeiriadau'n ffurfio "is-destun" (ei air am "sub- text") i gyfleu mewn ffordd anuniongyrchol neges nad yw'n amlwg ym mhrif destun y Llyfr.

Os caiff Penybont un fuddugoliaeth yn eu tair gêm ola fe fyddan nhw ym mhrif gystadleuaeth Ewrop am y tro cynta erioed.

Bydd enillwyr y cynghrair arfaethedig - a phencampwyr Cymru felly - yn gymwys i gynrychioli ein gwlad ym mhrif gystadleuaeth pêl-droed y cyfandir, sef Cwpan Ewrop.

Y noson honno, roedd llawer o'r un pwysigion yn ôl ym mhrif westy'r ddinas yn bwyta danteithion a sipian siampên.

Nid yw'r farchnad rydd a'r sector preifat wedi sicrhau fod adnoddau electronig yn bodoli yn y Gymraeg yn yr un ffordd ag y maent i'w cael ym mhrif ieithoedd Ewrop.

Dyna fy mhrif reswm dros beidio â chyfansoddi cerddi Cymraeg.