Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

miliwn

miliwn

Mae'n ffaith bod yn Hong Kong heddiw nifer sylweddol, ymhlith y boblogaeth o bum miliwn a hanner, sydd heb allu siarad Saesneg; dyna gadarnhad o ffyniant yr agwedd herfeiddiol a barodd i'r llywodraethwr Robinson ganrif yn ôl awgrymu bod amharodrwydd Tseineaid Hong Kong i ymseisnigeiddio yn 'rhyfeddol, os nad gwaradwyddus'.

Amcangyfrifwyd bod hanner miliwn o fenywod y flwyddyn yn dioddef, ond deil y rhan fwyaf ohonynt yn debycach o geisio cymorth o ffynonellau eraill megis Cymorth i Ferched, cyfreithwyr, meddygon teulu ac ati.

Miliwn yn ddi-waith ym Mhrydain.

Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn.

Cafodd budd llawn y buddsoddiad ychwanegol o £6 miliwn a wnaed gan y BBC yng Nghymru, yng ngoleuni datganoli, ei weld a'i glywed ar draws pob un o'i wasanaethau.

O chwe miliwn o blant yn yr arolwg 'roedd angen triniaeth ddeintyddol ar eu hanner.

Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.

Mae'r Hen Dywodfaen Goch yn y rhan yma o'r wlad yn cynnwys amryfaen cwarts, sy'n graig galed iawn a ffurfiwyd ar ddiwedd y cyfnod Defonaidd tua phedwar can miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Cynnyrch glo yn cyrraedd uchafswm yn y De o 56.8 miliwn tunnell gan 233,000 o lowyr mewn 620 o lofeydd.

Mae e'n symud i Filbert Street mewn dêl sy'n werth £3 miliwn a wedi dewis ymuno â rheolwr dros-dro Lloegr yn hytrach na rheolwr Cymru.

Lladdodd yr un fwled honno dros ddeng miliwn o bobl.

Mae gwerthiant y cylchgronau hyn yn uchel iawn trwy Wledydd Prydain (bron pob un dros henner miliwn).

Roedd mudiadau dyngarol wedi bod yn rhybuddio ers misoedd fod y sefyllfa yn y wlad fechan yn dirwyio'n gyflym ac y byddai'r boblogaeth o saith miliwn yn wynebu newyn difa%ol os na fyddai'r gymuned ryngwladol yn estyn cymorth yn fuan.

Yn y gogledd cynhyrchwyd 3.5 miliwn tunnell gan 15,900 o lowyr mewn 34 pwll.

'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd.

Credir fod hyd at hanner miliwn o Eritreaid wedi ffoi o'u cartrefi yn ystod yr ymladd a bod 100,000 wedi croesi'r ffin i mewn i Sudan.

Mae Chelsea wedi talu £4 miliwn i Bolton am yr ymosodwr o Ynys yr Iâ, Eidar Gudjohnsen.

Ond fe ddylsai gwladwriaeth gyfoethog gyda rhyw 59 miliwn o boblogaeth wneud yn well na bod un safle yn is na Cuba ac un safle uwchben Romania yn nhabl y medalau.

Deng miliwn yw ei phoblogaeth.

Y Llywodraeth yn cychwyn y 'Valley Initiative' ar gost o wyth gan miliwn o bunnoedd.

Yma mae'r chwyddhad tua miliwn, ac mae pob smotyn gwyn yn cyfateb i atom.

Yn ystod deng mlynedd olaf yr hen ganrif a deng mlynedd cyntaf ein canrif ni fe werthwyd miliwn o lyfrau emynau Cymraeg, - miliwn o lyfrau emynau ymhlith poblogaeth o ddwy filiwn, a dim ond hanner y rheini'n medru Cymraeg.

Yn wir, yn ôl adroddiadau papur newydd mae Eriksson eisoes wedi derbyn y swydd ac wedi arwyddo cytundeb gwerth £1.8 miliwn.

Addawyd £3.8 miliwn allweddol ar gyfer gwaith yr undebau credyd yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Er enghraifft, cloddiwyd trigain miliwn tunnell o lo o'i daear yn y flwyddyn cyn dechrau'r rhyfel byd cyntaf heb fod gan Gymru odid ddim i'w ddangos mewn canlyniad.

Cychwyn S4C. Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr. Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn. Roy Jenkins yn ennill is-etholiad Hillhead, llwyddiant seneddol cyntaf yr SDP.

'Dyna John,' meddai'r wraig; 'weithiodd o'r un hog o gwmpas y lle yma pan oedd o'n fyw ac mi benderfynais i na chai o ddim segura o hyn ymlaen!' Wrth gwrs, byddai un llwchyn o John yn cynnwys sawl miliwn o ronynnau egni, ac felly nid yw ergyd y stori yn un gwbwl ddiogel!

Yn y drydedd adran rhaid rhestru cenhedloedd llai, a chanddynt rhwng pedwar can mil a miliwn a hanner o siaradwyr - y Cymry, y Llydawiaid a'r Basgiaid yn y Gorllewin; y Slofeniaid, y cenhedloedd Baltig a'r Albaniaid yn y Dwyrain.

Diweithdra yn codi'n uwch na miliwn Y Llywodraeth yn troi'r wythnos waith yn dri diwrnod oherwydd streic y glowyr.

Yn y gogledd cynhyrchwyd 3.5 miliwn tunnell gan 15,900 o lowyr mewn 34 pwll.

Mae Newcastle United wedi arwyddo ymosodwr Wimbledon Carl Cort am £7 miliwn.

Lerpwl oedd y man cychwyn mordeithiau rhai miliynau o ymfudwyr yn y ganrif ddiwethaf - dros naw miliwn rhwng tridegau'r ganrif diwethaf a'r ganrif hon.

O'r holl leiafrifoedd Cymreig yr un rhan o bump o'r genedl, yr hanner miliwn hwn, yw'r mwyaf gwydn, y mwyaf poignant, y mwyaf diddorol, a'r mwyaf anghysurus.

Chwarter miliwn o boblogaeth yw'r rhif a ystyrir yn angenrheidiol gogyfer â chyngor sirol.

Dyna obaith y miliwn o Gubaniaid alltud yn Florida oedd yn paratoi'n frwdfrydig ar gyfer diwedd teyrnasiaeth Castro.

Bydd gwerth y gystadleuaeth i Gymru tua £100 miliwn.

Mae Chelsea wedi cytuno i dalu £11 miliwn i West Ham am y chwaraewr canol-cae rhyngwladol.

Mae prawf meddygol gafodd Van Nistelrooy ym Manceinion dros y Sul wedi profi ei fod wedi gwella'n llwyr o'r anaf i'w benglîn a'i rhwystrodd rhag ymuno â Manchester United am £18.5 miliwn y llynedd.

Plygwyd y creigiau yn ystod yr oes Armorigaidd tua tri chan miliwn flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y chwarter miliwn o ffoaduriaid eu rhannu mewn ffordd glinigol i Hartisheik A a Hartisheik B.

Cafodd budd llawn y buddsoddiad ychwanegol o £6 miliwn a wnaed gan y BBC yng Nghymru, yng ngoleuni datganoli, ei weld ai glywed ar draws pob un o'i wasanaethau.

Cafodd tirlun Bro Gþyr ei lyfnhau gan yr un môr a orchuddiodd Ynys Môn yn ystod y cyfnod Mesosoig, tua dau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Bydd chwaraewr canol cae Croatia, Mario Stanic, yn ymuno â Chelsea o Parma am £5 miliwn.

Erbyn hyn fe wyddom iddo gasglu a phentyrru 8.6 miliwn o bunnau.

Roedd miliwn o Kurdiaid eisoes wedi cael mynediad i'r wlad ac yn derbyn gofal mewn gwersylloedd a godwyd yn arbennig ar eu cyfer.

Yr un pryd mae'n briodol gofyn oni fyddai gan Lywydd Cynulliad Cymru ac yntau'n llefaru yn enw tair miliwn o Gymry gryn ddylanwad yn Llundain ac ym Mrwsel?

Un ffarmwr, Oliver Walston, wedi agor cronfa o dan y teitl 'Send a Tonne to Africa', i gasglu miliwn o bunnau i ymladd y newyn cynyddol sy'n y Trydydd Byd.

Mae nifer yr oriau a gomisiynwyd wedi cynyddu o 37 i 70, sy'n werth £16.03 miliwn o incwm y rhwydwaith.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.