Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

miliynau

miliynau

Beth am y miliynau nad oes llyfrgell addas o fewn eu cyrraedd?

Yn ystod Haf byr a ddaw i ardaloedd oer gogleddol y byd, mae'r eira a'r rhew yn diflannu a miliynau o blanhigion, blodau a phryfed yn ymddangos.

Ond os yw rhai pobl fel petaent yn chwilio am fwch dihangol, mae miliynau o rai eraill yn chwilio am waredwr.

Ar wahan i'r adar cyfarwydd fel y gog a'r wennol fydd yn cyrraedd yma yn y Gwanwyn, mae miliynau o adar eraill yn cyrraedd yr un pryd, e.e.

Pan holwyd ef sut y gallai hawlio llefaru o blaid y miliynau mudion yn India, ei ateb oedd, "Drwy hawl gwasanaeth".

Sylweddolodd mai un enghraifft ymysg miliynau oedd ei thrallod hi.

Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.

Darganfuwyd galaethau nad oedd neb yn gwybod amdaynt o'r blaen - pob un yn cynnwys miliynau o ser.

Yn y cyfamser, fel y bu ers degawd a mwy, roedd miliynau o hil y caethweision yn marw o newyn ar wastadeddau sychion Eritrea a Somalia.

Ymbiliwn arnat godi to newydd o genhadon i ddwyn tystiolaeth i'th ras i'r miliynau hynny yn ein dyddiau ni.

Ac mae lle i gredu eu bod nhw mor dwp a hynny achos yn y wlad honno maen nhw'n heidio i'r sinemâu i weld Pearl Harbour gan fomio Bay a Bruckheimer a'u doleri wrth eu miliynau.

O dan yr holl hwyl roedd pwrpas i'r diwrnod, codi miliynau o bunnoedd i elusennau trwy Gymru a gweddill Prydain fel y gallai miloedd o blant elwa.

Pan syrthiasant i'r ddaear fe'u gorchuddiwyd, cyn iddynt fedru pydru, codwyd y tir gan ymchwydd daearegol, ac wedi miliynau o flynyddoedd o wynt a glaw, daeth y coed i'r golwg.

Mi fydd hyn yn costio miliynau o bunnau i gwmni BNFL Magnox.

Nid yw'r miliynau milltiroedd sydd rhwng y sêr a'i gilydd ond megis diddim i Ti.

Ac mewn llawer gwlad yn Affrica ac India, lawer tro dioddefodd miliynau hirlwm oedd yn ymestyn trwy'r hafau i'r hydref di-gynhaeaf.

Lerpwl oedd y man cychwyn mordeithiau rhai miliynau o ymfudwyr yn y ganrif ddiwethaf - dros naw miliwn rhwng tridegau'r ganrif diwethaf a'r ganrif hon.

Maen nhw'n disgwyl cwsmeriaid wrth y miliynau i'r Harry Potter diweddaraf.

'Rydym ni yng Nghymru yn lwcus iawn gan ein bod yn cael cwmpeini y miliynau o adar a ddaw yma yn y Gwanwyn, a hefyd yn cael haid arall yn yr Hydref i liwio tipyn ar y Gaeaf i ni.

Datgelwyd yr wythnos hon y bydd dwyy ffilm gwerth miliynau lawer yr un, yn cael ei gwneud ym Mhen Llŷn a Meirionnydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bu i'r gwres o'u crombil doddi'r Twndra a chynhyrchu miliynau o gilomedrau ciwbig o ddŵr a ymwthiodd trwy'r wyneb i ffurfio'r all-sianelau mawrion.

Er hynny, gan fod miliynau heddiw na chlywsant y neges, y mae gwaith mawr yn aros i'w wneud.

Cyn dyfodiad y clwy Myxomatosis yr oedd y wlad yn gyffredinol wedi ei goresgyn ganddynt ac yr oedd miliynau yn cael eu dal a'u gwerthu - eu trapio a'u maglu lawer ohonynt, ac oherwydd hynny yr oedd eu gelynion naturiol megis bronwennod, gwenci%od, ffwlbartiaid, cathod a chŵn hwythau yn cael eu dal.

Y mae Afon Conwy yn trosglwyddo miliynau o litrau o ddŵr i Fôr Iwerddon bob dydd.

Bendithia ymdrechion Cymorth Cristionogol a'r eglwysi a miliynau o Gristionogion i gynorthwyo'r anghenus a bwydo'r newynog.