Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mintai

mintai

Rhannodd Gideon ei filwyr yn dair mintai a rhoes utgorn a phiser yn llaw pob dyn.

Daeth mintai gymysg ohonynt i dueddau Caer ac ni wyddai'r Cymry druain sut yn y byd i'w hatal.

Mewm un cornel o'r stafell y tu ôl i un o'r pileri, roedd mintai fechan o ddynion wedi troi'u cefnau ar y dawnswyr ac yn crynhoi eu sylw ar y dis bach du a gwyn a daflwyd gan y naill ar ôl y llall ar y bwrdd.

Picton Philipps ar yr Uchgapten Stuart i ddanfon mintai fwy o filwyr i'r groesfan, ac felly dyma Gatrawd Caerwrangon yn brasgamu ymlaen a'u bidogau wedi eu gosod ar enau'r drylliau.

Mintai o longau wedi bwrw angor ger y porthladd.

Roedd mintai o'r tai yma ledled y wlad, wedi eu hadeiladu o laid a tho gwellt, er mwyn i aelodau'r llywodraeth allu aros ynddynt ar eu teithiau ynglŷn â'u gwaith.

Aeth Mr Rowlands a'i deulu ynghyd a mintai o ffyddloniaid eraill i addoli'r drws nesaf ym Mhenuel.

Ymroddai mintai fach y Blaid Genedlaethol i amddiffyn cymdeithas a thraddodiadau Cymru, a goleuwyd y ffurfafen dros dro gan wroldeb y Tân yn Llyn.