Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

miwsig

miwsig

Aeth y miwsig a'r goleuadau a'r rhialtwch i'w phen fel gwin.

Byddai'n ddigon hawdd llunio beriniadaeth weddol arwynebol ar y ffilm hon a'i gadael hi ar hynny: miwsig nostalgaidd Michael Storey; actio gafaelgar Iola Gregory a Dafydd Hywel; adeiledd carcus-dynn y ffilm a delweddau canolog y madarch a'r rhosod; y garreg fedd glyfar ar ddiwedd y ffilm ar ddelw sgrin sinema a'r geiriau THE END yn cloi'r llun yn daclus thematig...

Bydd miwsig Calypso i lonni ei feddwl drwy gydol y dydd, o dan y palmwydd, ar y traeth, yn y pwll nofio, yn wir, lle bynnag y bo.

Gostynger lefel y miwsig.) Fwynheis i'r tsiat fach yne.

Ar ddydd golau, yn sŵn traffig a phobl a rhuthr fedrech chi mo'i chlywed, ond yn y tawelwch, roedd miwsig yr afon yn llithro dros y cerrig i'w glywed yn glir.

(Y miwsig yn ergydio drwy'r pared.) Mewn gwirionedd, y rheswm rw'i'n cadw'r lle'n daclus ydi am fod fy ffrind gore fi, Sara, hefyd yn hoffi pethe'n daclus.

Yr ateb syml ydyw bod y golygydd wedi gofyn imi ddweud rhywbeth am ddylanwad miwsig arnaf fel bardd.

Fel bardd rhoes fiwsig i'w fynegiant; fel pregethwr rhoes ergyd yn y miwsig; fel digrifwr rhoes wên yn yr ergyd; ac fel dyn rhoes ddeigryn yn y wên.

Mae'n wir nad oes yma ddawns a miwsig Siwan neu 'Gymerwch Chi Sigaret?

Wrth gwrs, mae yna feddwi a thrais ar y stryd gyda'r nos a sŵn miwsig rêf yn atseinio o glybiau nos yn oriau mân y bore - yn enwedig adeg gemau rygbi cartre' - ond, yn ôl pobol leol, mae pethau yn waeth yn Abertawe a Llanelli.

Y miwsig metal trwm yn codi i lefel fyddarol.

Poenau a phleserau serch oedd byrdwn yr udo a'r cwafrio a swniai'n rhyfedd iawn i glustiau anghyfarwydd Hadad, er i'r miwsig dynnu ambell Alaah cymeradwyol o enau rhai o'r Senwsi.

Yr oedd miwsig yn y teulu ar ochr fy nhad, ac er na wyddwn i ddim byd am dechneg honno, 'roeddwn wedi etifeddu digon o chwaeth fel y medrwn fwynhau miwsig o safon.

Miwsig sy'n mynd â'i fryd yn ystod ei amser hamdden yn hytrach nag actio.

Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.

A chorfforwyd y brotest yn y Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth, celfyddyd a miwsig.

Un o bryddestau gorau'r Eisteddfod Genedlaethol, pryddest gyfareddol ei rhithm a'i miwsig.

Rhoi tâp i fynd; mae cathod yn hoffi miwsig.

Mae'n arwyddocaol fod Ankst eu hunain yn awyddus i'w cymharu eu hunain â charfan o gwmni%au annibynnol Lloegr sydd yn y maes heddiw - cwmni%au fel Too Pure, ClawFirst a Rough Neck, sy'n rhyddhau 'miwsig blaengar' ac sy'n driw i'r ethos annibynnol.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!

Tawelwch natur a'i synau arbennig ydyw fy miwsig i.