Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mlaen

mlaen

'Mae un ohonan ni'n mynd i fyny'r grisia cefn i'r hen stafell chwarae, reit, heb roi'r gola 'mlaen.

Oddi yno 'mlaen bydd rhyw ddwy filltir dda o gerdded dros wastatir uchel gwelltog a'r hen ffordd wedi'i sarnu yn o arw gan feiciau modur mewn mannau.

Dim angen ei ddenu erbyn hyn, rhuthrodd i mewn i'r fflat o 'mlaen a chwarae o gwmpas.

Ond 'does dim capel i'w goffa/ u bellach er bod yr Achos yn dal i rygnu 'mlaen am ryw hyd yn y festri .

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

'Rydyn ni'n teimlo bod ni'n symud 'mlaen fel clwb - rydyn ni'n broffesiynol iawn.

Dymuniad y gangen oedd cario 'mlaen yn annibynnol ar hyn o bryd.

'Bydd yna chwe mis reit galad o 'mlaen i rwan,' meddai.

Cynyddai'r cynnwrf a'r siom ynddi a chododd yn sydyn a gwisgo'i gwn werdd gynnes, anrheg pen blwydd ei thad iddi, a mynd allan i'r berllan gan gerdded yn gyffrous rhwng y coed, 'nôl a mlaen ar hyd ac o gwmpas y llyn pysgod am hanner awr gyfan gan fwmian iddi ei hun: 'Hannah ddim yn deall .

Daw Mona a'r newydd yng nghanol yr olygfa heintus hon fod Eli wedi ei daro'n wael - ond addawa'r creadur wneud ei orau glas i ddal 'mlaen cyhyd ag y gall, er mwyn Tref!

Creffais ar y dyn o 'mlaen yn mynd arni hi - safodd yn ei hymyl, herciodd y lifft a neidiodd y dyn ddwy lath i'r awyr - ac i fyny a fo!

Ar adegau eraill, does yna ddim amheuaeth fod y gwrthbleidiau wedi rhoi corcyn ym mlaen y baril wrth danio at weinidogion fel Peter Walker neu, am gyfnod, David Hunt.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

Rwy'n meddwl i'r trampolîn gyrraedd tua blwyddyn o mlaen i a byddai Syd yn ei addysgu ei hun ai fyfyrwyr yr un pryd.

'Esgusodwch fi,' meddai gŵr ifanc, gan sefyll o 'mlaen.

Difodiant sy o 'mlaen i.

"Un bora," meddai..., "ron i'n cerddad hyd y cae a dyma 'na sgwarnog yn codi o 'mlaen.

Bwrw 'mlaen i'r gogledd-ddwyrain dros Drum Nantygorlan i gyrraedd Nantyrhestr a dilyn honno i'w blaen.

Yn un o siopau llyfrau Chapters ar gyrion Toronto, Canada, y mae dynes o fy mlaen trosglwyddo cryn hanner dwsin o lyfrau i'r ferch tu ôl i'r cownter a derbyn bwndel o arian yn ôl.

Bwrw 'mlaen hyd oni ddêl corlannau defaid i'r golwg ar y chwith.

Mae gen ti'r boddhad o weld dy ddyfodol yn canghennu 'mlaen yn dy ddisgynyddion." "Ydi, mae hynny'n beth braf," cytunodd Gruff.

Doedd dim i'w wneud ond trio edrych yn eofn a doeth a gwneud yn union yr hyn a wnai Jan o Wrecsam a eisteddai ar y lifft o 'mlaen i.

Wrth lwc, mae llwybr y gyrrwr yn mynd heibio'r stryd arbennig hon ac yn bwrw 'mlaen â'r daith.

Mae am i ni droedio 'mlaen yn hyderus, gan ymddiried ynddo Ef.

Gobeithio nawr y galla i fynd mlaen a sgorio rhagor.

Dyna ddangos cyn lleied wyt ti'n ei w'bod am beth sy'n mynd 'mlaen yn y lle 'ma.' 'Byddet ti'n synnu faint dw i'n ei w'bod am bawb a phopeth.

Mae 'na rywbeth rhyfedd yn mynd 'mlaen.

Cofiaf un bore, a ninnau ar barêd yn cael ein harolygu gan ddau swyddog Siapaneaidd, i un ohonynt sefyll o fy mlaen i a gofyn, gyda help y cyfieithydd, "Beth dybiwch chi fydd eich tynged yn y diwedd?

Yn bendant mae sail i'r peth, pa un ai fydd gêm a buddugoliaeth fel hon yn achosi iddyn nhw newid eu meddyliau ac aros 'mlaen am un tymor arall gawn ni weld.

Gyrru 'mlaen at y bont Wyddelig dros yr afon gerllaw i ffermdy gwag Llannerchirfon (Llannerch Yrfa ar y map OS).

Beth am drio nes 'mlaen?'

Y ddau, yn amlwg, y dod mlaen yn dda iawn.

cafodd griff tomos afael ar seth harris, ei gymydog, i ddod gyda nhw, a chyda gethin ym mlaen y car gyda 'r sarsiant cychwynasant am y ffordd a arweiniai i lawr y dyffryn ymron ochr yn ochr ag afon afon.

Bydd rhai yn darparu lle i'w chadw yn y cwpwrdd ym mlaen eu yng nghefn y garafan, ac eraill yn ei gosod oddi tani.

Copi mlaen llaw yn unig sydd wedin cyrraedd ni, ac mae gan y grwp gynllun pendant ynglyn â sut fydd yr EP yman cyrraedd y siopau.

Ond gan fod y gwesty hefyd yn fan cynhadledd Foslemaidd bwysig am gyfran o'r wythnos, trefnwyd i'r cyflenwad gael ei droi 'mlaen er cysur y mullahs a'u gwragedd a'u cynrychiolwyr.

Stryd o faw wedi cywasgu drwy aml deithio arni, yn bantiau ac yn dyllau i gyd, ac wrth i mi blygu lawr, baglais yn fy mlaen yn sydyn.

'Rwyn edrych 'mlaen i gwrdd â Muttiah Muralitharan.

Man cyfarfod tri chwm yw Funtauna mewn gwirionedd ac y mae gwastadedd cudd Val Funtauna ei hun yn ymestyn am filltir dda tua'r gorllewin, yn null yr Hengwm ym mlaen Cwm Cynllwyd, braidd.

Dychwelyd i'r car a gyrru 'mlaen i lawr i Gwm Elan a chymryd y fforch chwith yn y ffordd dros Bontarelan.

Roedd fy nhad wedi cael gwybod ddeuddydd o fy 'mlaen i 'mod i wedi ennill.

Ond gan fod cytundeb nawr ar y nifer y clybiau o leia fe allan nhw fwrw 'mlaen i gael y gemau a'r stwythur yn barod ar gyfer y tymor nesaf.

Y trampolinydd Randall Bevan oedd ddwy flynedd o fy mlaen yn y coleg ond a oedd bob amser yn barod ei gymorth ai gyngor i fyfyriwr newydd Cymraeg ei iaith.

'Ro'n i'n tynnu 'mlaen mewn dyddiau cyn dysgu nofio ac 'roedd hynny'n fwy o orchest na dim arall.

Cario 'mlaen am tua phum munud, i roi braw go-iawn iddi.

Ar ol pystachu stwffio drwy rhyw le cyfyng mae'r ogof yn agor allan ychydig ac mae dwr y mor yn llenwi'r gwaelod, 'n ol a mlaen ac yn lluchio'r trochion i fyny weithiau.

Mae rhywrai gerllaw yn siarad amdanat ti, ac fe alle fynd mlaen am beth amser, felly paid rhoi cyfle i bobol ddweud pethau cas amdanat ti.

Ond os na fydd hynny'n gweithio chwaith, yna fydd gen i ddim dewis ond eistedd yma wrth y bwrdd efo'r sgript o'm mlaen i a thrio ei wneud o felly.' Ac mae'n anodd dychmygu unrhyw artist yn methu â chael ysbrydoliaeth yng nghegin glyd y bwthyn Hans Christian Andersen-aidd hwn, gyda'r gath yn canu grwndi'n ddedwydd ar y silff ffenestr.

'Sut daethoch chi' mlaen, Francis?' gofynnodd un o'r dynion.

Os wyt ti wedi bod yn y caban o'r blaen, rwyt yn bwrw mlaen â'th daith.

Go brin mai'r Cadfridog ei hun ydoedd, er fy mod wedi clywed ei fod yn tynnu 'mlaen dipyn i fod yn dad i ddwy ferch a oedd yn dal yn eu hugeiniau peryglus.