Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mlwydd

mlwydd

Ar ôl cyfnod o ddala, aeth Phil i weithio ffwrnais pan oedd tuag un ar bymtheg mlwydd oed, a dyna'r gwaith caletaf yn y felin bryd hynny.

Ces sioc o weld heidiau o fechgyn bychain croenddu, rhai mor ifanc â saith mlwydd oed, yn byw ar y strydoedd, yn cardota, a deifio ar y sgraps diangen oedd yn cael eu taflu allan gan y gwerthwyr ffrwythau.

Syfrdanwyd y gyrrwr unwaith eto, gan fod y ddynes hon yn siŵr o fod dros ei saithdeg mlwydd oed, a'r ferch ifanc yn y llun heb fod yn hþn nag un ar bymtheg!

Beth bynnag eu henillion, p'un a oedd y rhieni'n gymharol gyfforddus neu'n dlawd, dodid y plant allan i weithio pan fyddent yn saith neu wyth mlwydd oed, yn ferched a bechgyn fel ei gilydd.

Ei olynydd oedd ei fab, Edward VI, llanc naw mlwydd oed.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Dilynodd The Man Who Jumped to Earth yr anturiaethwr 61 mlwydd oed Eric Jones o Dremadog i Venezuela wrth iddo wireddu breuddwyd oes i neidio o Raeadrau Angel sy'n 3,212tr o uchder.

Cafodd Nicola Smith, merch ysgol un ar ddeg mlwydd oed o Hornchurch yn Essex, ei gwobr am resymau gwahanol iawn.

Yng nghwmni ei ewythr Owen yr aeth Watcyn Wyn i'r pwll glo i ennill ei damaid am y tro cyntaf, ac yntau'n grwt wyth mlwydd oed.

`Peidiwch â phoeni,' gwaeddodd Gunnar, `fe fyddwn ni'n cael ein hachub gyda hyn.' Gwenodd ar ei wraig a'i ferch un ar ddeg mlwydd oed.

Mae'n sicr ei fod yn chwe mlwydd.

Effeithiodd y ddau ragrithiol hynny yn fawr ar feddwl y bachgen chwe mlwydd oed, fel nad ysgydwodd yn llwyr byth oddi wrth yr argraff roisant arno.

Er bod y dalwr yn osgoi gwres mwyaf y felin gyda'r gwaith hwn, yr oedd serch hynny'n waith caled iawn i grotyn pedair ar ddeg mlwydd oed.

Mae hi yn 27 mlwydd oed ac yn meddu ar radd mewn gwleidyddiaeth.

The Century Speaks oedd project mwyaf uchelgeisiol y flwyddyn, wrth i gynhyrchwyr deithio i bob cwr o Gymru i gasglu tystiolaethau cannoedd o bobl gyffredin o naw mlwydd oed i gant oed.

Roedd hi'n wyrth ei fod e'n medru cerdded o gwbl oherwydd pan oedd e'n dri deg naw mlwydd oed collodd Mr Croucher ei ddwy goes mewn damwain ar y rheilffordd.

Lewis y glynn i dat ai kant.' Mae pum mlwydd yn oedran amwys, wedi gadael babandod ac eto heb ddechrau datblygu'n oedolyn cyfrifol (ystyrid mai saith oedd yr oed pan fyddai plentyn yn dechrau meddwl ac ymddwyn fel oedolyn).

Yn ôl y sôn, yr oedd John Edmunds â'i fryd ar ddod â thipyn o fywyd i Borth Iestyn ac am, ddechrau gwneud hynny trwy ddathlu hanner can mlwydd o ryw lun o hunan-lywodraeth ym mywyd yr harbwr.

Un noson ym mis Gorffennaf roedd Debbie a'i brawd Darren yn ymweld â'u mam-gu, Mrs Mary Regan, a oedd yn saith deg pedwar mlwydd oed.

Er mai dim ond wyth mlwydd oed oedd ef, ymunodd Dean â Brigâd Ambiwlans Sant Ioan ac yn ei flwyddyn gyntaf rhoes gant chwe deg pum awr o'i amser ei hun i'w helpu.

Gallaf weld darlun ohono yn fy meddwl pan oedd yn ugain mlwydd oed, yn ddyn ifanc talgryf, cymesur, a'i wddf praff nid fel llinyn rhwng y corff a'r pen, ond yn estyniad cadarn o'r corff.

Rhaglen i wella llythrennedd mewn plant 7-8 mlwydd oed.

Serch hynny, nid hynny oedd ei hymffrost yn ei hen ddyddiau ond ei bod wedi adrodd pennod o'r Beibl i Mr Charles o'r Bala, pan oedd hi'n ddeuddeng mlwydd oed, a thrachefn pan oedd yn bedair ar ddeg.

Clywir amdano ym Mhrydain yn y Canol Oesoedd ac yn yr ail ganrif ar bymtheg roedd yn achos marwolaeth i wyth o bob deg o blant dan bum mlwydd oed mewn llawer cymdogaeth.

Wedyn dyna Kevin Jones, bachgen pymtheng mlwydd oed o Surrey, a gafodd ei anafu mewn damwain trên ond a anwybyddodd ei boen ei hun er mwy helpu a chysuro eraill.

Dyma, er enghraifft, benillion a gyfansoddwyd gan lanc cyn iddo gyrraedd ei ddeuddeng mlwydd oed, bachgen o'r enw T. G. Jones o Bontypridd,

Dwi'n dri deg tri mlwydd oed; mi fum i mewn coleg ar un adeg a dwi'n dal i fedru siarad Saesneg os oes 'na alw am hynny.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.

Saith mlwydd oed oedd yr unig ferch ddibriod yn y cwmni, creadures fach â llygaid duon, cudynnau o wallt gludiog, pigog, a'i thrwyn fel rheol heb ei sychu.Ac fel rheol cariai ar ei braich fachgen bach oedd yn ddigon pwysig i wisgo ffe\s coch tywyll.

Dangosodd y llwyddiant ym maes rhaglenni dogfen ffeithiol y cysylltiad rhwng rhaglenni rhwydwaith a'r rhai a gomisiynwyd yng Nghymru i Gymru; rhaglenni megis The Man Who Jumped to Earth - stori anhygoel Eric Jones o Dremadog ac yntau'n 61 mlwydd oed a chanddo'r freuddwyd o neidio oddi ar Raeadrau Angel yn Venezuela sy'n 3,212tr o uchder.

Fodd bynnag, pan oedd Phil tua deunaw mlwydd oed, gwirfoddolodd i ymuno â'r Llynges adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Pan neidiodd e roedd Archie MacFarlane yn wyth deg naw mlwydd oed, un deg pedair mlynedd yn hŷn na'r person hynaf i neidiodd mewn parasiwt o'i flaen.

Pe bai wedi cael mynd ymlaen i'r Ysgol Sir gallasai gael gyrfa academaidd, ond nid oedd amgylchiadau teuluol yn caniata/ u hynny, a daeth allan o'r ysgol yn dair ar ddeg mlwydd oed i weithio yn y gwaith tun.

Yr oedd angladd i mi yn yr oedran hwnnw, tua phum mlwydd oed, yn beth i'w ofni.