Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

modfedd

modfedd

Mae pob modfedd o'r lle yn byrlymu bywyd.

Yr oedd wedi disgyn hanner modfedd.

Y mae ei hudlath yn dair modfedd ar ddeg ac mewn llathenni a throedfeddi y mae'n mesur ei fyd.

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

Mae'r lens ar flaen y telesgop (y lens sy'n casglu'r goleuni) yn ddeugain modfedd ar draws, y lens mwyaf yn y byd.

Mae e'n gwlffyn o fachan, chwe troedfedd a chwe modfedd a thros ddeunaw stôn.

Dilynwyd gorchest OBrien gan Awstraliad arall, Erica Roe a ddadorchuddiodd ei bronnau 41 modfedd i'r byd yn Ionawr 1984 yn ystod gêm rhwng Awstralia a Lloegr yn Nhwickenham eto.

pump ar hugain o blant yn 'ista ar bob modfedd o'r llawr, i weld 'Lone Ranger'.

Hyd pob cyrbyn oedd tua phedair modfedd ar hugain.

Dyma ddechrau arni o ddifrif rwan gan eu bod wedi colli llawer o amser tra oedd y creigwyr yn llnau'r graig; wedi rhoi rhyw saith modfedd o dwll ym mhob carreg a'i phowdro, rhaid disgwyl yn awr am i'r biwgl ganu eto, a dyma'r un drefn ag o'r blaen.

Mae India'n llawn o bobl, pob modfedd ohoni.

Dylid sicrhau bod y deunydd organig, megis tail fferm pydredig neu fawn, tua naw modfedd islaw wyneb y pridd.

Hefyd, gellir teneuo planhigion tomatos drwy eu plannu'n unigol mewn potiau tair modfedd cyn eu caledu.

Ni all y CDs hyn ond atgoffa rhywun o'r senglau feinyl 7 modfedd a oedd mor boblogaidd flynyddoedd yn ôl ond sydd erbyn hyn yn gymharol brin.

Fe ddylai'r lobelia, ffwsia, Begonia semperflorens a mynawyd y bugail fod yn tyfu'n dda yn eu potiau tair modfedd.

Gellir gadael y gweddill, sydd i'w plannu maes o law yn yr ardd agored, yn y potiau tair modfedd a'u caledu.

Un o weddillion pres tecaf Ceredigion yw'r darian gron, wyth modfedd ar hugain ar ei thraws, sydd yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Y dewis cyntaf fyddai casglu dail derw a ffawydd ar ôl idddynt ddisgyn, eu storio am ddwy neu dair blynedd ac yna eu gogrwn (rhidyllu) trwy ogr (rhidyll) gyda thyllau chwarter modfedd, a byddai yn barod i'w ddefnyddio.

Symud," meddwn, nid wyf yn symud modfedd.

Ni feiddiai Mathew symud modfedd rhag ofn na fyddai'r hen ŵr yn gorffen ei stori.

Disgynnodd Mr Parker, a oedd yn chwe throedfedd tair modfedd o daldra ac yn pwyso pymtheg stôn ar ben pentwr o wŷr, gwragedd a phlant.

Gyda hyn bydd pob modfedd o'r Penrhyn Balcanaidd yn ei dwylo neu dan ei dylanwad.

Plygodd y doctor i godi'r offer, sefyll o'r tu ôl imi a dechrau cornio'r cefn fesul modfedd.

Dim ond i led o hanner modfedd y dylid tynnu'r rhisgl, hyd at y pren caled ac ni ddylid ei dynnu oddi amgylch yr holl goes neu fe leddir y pren.

Wrth ei gwisgo, roedd o'n ennill modfedd neu ddwy reit dda ac yn bwysicach fyth, nid fel Willie-llnau-ffordd y teimlai ynddi ond fel William Solomon, neu hyd yn oed Mr William Solomon.

Erbyn wyth o'r gloch fore trannoeth safai Menem, yn ei lawn daldra o bum troedfedd a phedair modfedd, wrth fynedfa Ty'r Llywodraeth, y Casa Rosada (y Ty Pinc).

Dydy'r bachyn ddim ond modfedd neu ddwy o'r golwg.

Torri dau gylch o risgl, hanner modfedd oddi wrth ei gilydd, yw'r ffordd briodol o wneud y gwaith.

Ond edrychai Modryb yn fodlon braf, ac ar ôl gweu dwy neu dair modfedd, aeth i glwydo'n gynnar.

Dim ond rhyw naw modfedd pob ffordd roddaf rhyngddynt, yn rhy agos i'w priddo ond trwy'r dull hwn y caf y cyfanswm mwyaf o gnwd o'r maintioli sydd fwyaf derbyniol yn ein tū ni.

Yr oedd yn weithiwr tun bob modfedd ohono, gyda'i ddillad a'i lestri bwyd yn lân ac yn ddestlus bob amser.