Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

moesol

moesol

Y mae achos fel hyn yn ddigon naturiol yn codi cwestiynau moesol dwys iawn.

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Beirniadwyd yr ysgolion yn arbennig gan Symons yn yr Adroddiad ar Frycheiniog, Maesyfed a Cheredigion am eu diffyg sylw i hyfforddiant moesol a oedd, yn ei farn ef, mor hanfodol yng Nghymru.

meysydd cydnabyddedig hynny megis yr esthetig a chreadigol, mathemategol, corfforol, gwyddonol, ysbrydol a moesol, technolegol, liaith a llythrennedd, dynol a chymdeithasol a maes cartref a'r ysgol.

Cododd ei lyfr Civil Liberty achos rhyddid Trefedigaethau America i dir moesol uchel.

Yn wahanol i Lingen a Symons, nid yw Vaughan Johnson yn cynnig ei gasgliadau am gyflwr moesol gogledd Cymru.

Gellid gweld bod yna gysylltiad rhwng diffygion yr awyrgylch moesol a'r diffygion yn yr amgylchedd materol, a rhwng y rheini a'r gwasgu a oedd ar addysg i wneud iawn amdanynt, dyna arwain at un o'r themâu pwysicaf yn yr Adroddiadau.

Fel y dehonglid undod y teuly yn elfen bwysig yn fframwaith y gymdeithas pwysleisid hefyd gyfrifoldeb yr uniad priodasol dros faterion moesol ac i greu cytgord rhwng ceraint a theuluoedd a'i gilydd.

Y ddadl amlycaf ym meddwl y mwyafrif ymhlith y genhedlaeth gyntaf o arolygwyr oedd yr un foesol: wedi'r cwbl, roedd bron pob un ohonynt yn glerigwr mewn urddau a oedd wedi ei gymeradwyo gan awdurdodau'r Eglwys: ond ym meddwl y mwyafrif o'r beirniaid roedd yr hirben a'r moesol wedi'u cydgymysgu.

Roedd y cyfan yn adlewyrchu diffyg hyfforddiant moesol, - 'nid ydynt wedi eu dysgu yn iawn, ac ar hyn o bryd maent heb fawr o gyfle i wella'.

Er mwyn iechyd moesol Cymru ac er lles moesol a chorfforol ei phoblogaeth, rhaid yw dad-ddiwydiannu Deheudir Cymru.

Heb os roedd yna agweddau moesol i'r bwriadau hirben, ond fe bwysleisiwyd bod dyletswyddau gan berchnogion eiddo yn ogystal â hawliau, a pheth cywilyddus oedd esgeuluso lles y rheini oedd yn ddibynnol arnynt.

Yn gyffredinol, mae safonau moesol yn isel, ond anniweirdeb yw pechod mawr Cymru.

Disgwylid i'r cwrs addysg gynhyrchu to o fonedd a symbylid gan safonau moesol uchel.

I Kant y maent yn rhan o realiti er hynny oherwydd fod anghenion ein bywyd moesol yn ein gorfodi i gredu ynddynt.

Defnyddio'r genedl a wnânt i amcanion gwladwriaethol, tra bo cenedlaetholdeb yn ceisio datblygu adnoddau moesol a materol y gymdeithas genedlaethol.

Yn ei ffurfiau cynharaf mudiad yn galw am grefydd ddyfnach, am hunan-ddisgyblaeth llymach ac am fywyd moesol ar lefel uwch nag a welwyd yn y Brifysgol er dyddiau John Wesley ydoedd.

Bu erydu mawr ar safonau moesol.

Y mae hi hefyd yn teimlo ac yn ewyllysio; mae ganddi brofiadau esthetig a moesol; gwyr fod haenau economaidd a gwleidyddol i'w bodolaeth.

Cychwynnodd y ddadl ar dir y gwahaniaeth rhwng clasuraeth a rhamantiaeth ac ymledodd gydag amser i gwmpasu trafodaeth ar werthoedd moesol.

Craffer ar y rhannau hynny o'r rheolau sy'n ymwneud â materion moesol.

Felly, er cymaint pwyslais Williams ar hyd ei oes ar uniongrededd mewn athrawiaeth, yr oedd yn sensitif iawn i'r angen am ffydd fywiol yn y galon, y ffydd a oedd yn sicrhau cyfiawnder Duw fel mantell i guddio noethni moesol y pechadur.

Mewn cymhariaeth y mae'r pwyslais proffwydol ar gyfiawnder cymdeithasol a diwygiad moesol yn ymddangos yn fwy perthnasol i fywyd ysbrydol yr unigolyn a'i gymdeithas, ac y mae'r syniad proffwydol am bechod yn ymddangos ar y dechrau yn fwy derbyniol i'r deall.

Mewn gwirionedd, y mae Samuel a Phantycelyn yn dweud yr un peth - pobl dda'n llafurio a'r wlad er hynny mewn enbydrwydd moesol ac ysbrydol.

Roedd safonau moesol rhai o'r merched yma'n amheus iawn a rhai ohonynt wedi dechrau mynd i oed.

Mae'r ffaith yma yn ddigon i brofi diraddiad moesol y bobl cyffredin.

Nis gwelir fel rhywbeth hanfodol gynhenid yn y ddynoliaeth, yn halogiad meidrol, ond fel rhywbeth a amlygid mewn troseddau moesol megis anghyfiawnder,anonestrwydd, gorthrwm, trais a chreulondeb.

Yr hyn a hawliai'r Blaid i Gymru mewn gwirionedd oedd sofraniaeth, sofraniaeth yn yr ystyr fod gan y genedl fel person moesol yr hawl i benderfynu a oedd hi am ryfela yn erbyn cenhedloedd a gwledydd eraill ai peidio, a bod ganddi yr hawl ar fywydau a chydwybodau ei meibion a'i merched yn y mater hwn.

Y mae i denant y boddhad moesol o wybod bod pob gwelliant a wna yn lles i rywun arall.

Ond yr oedd yna duedd yn y dehongliad hwn i ganolbwyntio ar droseddau defodol y gallai dyn eu cyflawni'n ddifeddwl neu'n anfwriadol, gan anwybyddu'r troseddau moesol dyfnach a ddibynnai fwy ar ewyllys dyn.

Mae carthu ymaith y gwyriadau athrawiaethol, y chwarae mig â safonau moesol, yr ysfa i droi Iesu Grist yn fasgot ein trachwantau ni, yn waith poenus.

Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu camdrin gartref neu'n dod o gartrefi lle mae tor-priodas neu broblemau moesol.

Cynhaliwyd dosbarthiadau yn rheolaidd yn Cairo a Phalesteina i Gymry yn y Lluoedd Arfog yn y Dwyrain Canol, lle trafodwyd problemau moesol, pynciau'r ffydd, a chymdeithaseg.

c) y pwyslais proffwydol ar y troseddau moesol yn hytrach na'r rhai defodol.

Ac eto, mae arwyddocâd moesol y nofel yn oblygedig yn y cynllun.

Synhwyrir mai'r hyn a olyga yw nad â chanonau moesol y dylid beirniadu darn o lenyddiaeth, er mae'n siwr yr honnai hefyd na ellir ysgaru llenyddiaeth yn llwyr oddi wrth adrannau eraill bywyd.

I'n cenhedlaeth ni yng Nghymru, sy'n rhoi bri ar ryddid pobl i wneud fel y mynnont mewn materion moesol, y mae bron y tu hwnt i ddirnadaeth sut y gallai corff o bobol fabwysiadu'n wirfoddol gyfundrefn sy'n ymddangos i ni'n orthrymus.

Tydi sy'n gallu rhoi iddynt y grymuster moesol i wrthsefyll temtasiynau anfoesoldeb, trachwant a hunanoldeb.

Fellym fel hyfforddwr, gweithredai o safbwynt gwleidyddol a moesol.

Dyma l'e/ tranger clasurol yr ugeinfed ganrif, y person modern sy'n gorfod ceisio gwneud synnwyr o fywyd heb gymorth na chanllaw moesol diogel na chysur ffydd na chymdeithas safadwy.

A thrwy hynny yn mynnu lluchio pob math o wenwyn i grochan moesol cymdeithas.

Hyn hefyd a greodd y rhwyg yn enaid y Cymro cyfoes, yr ysgariad rhwng y bersonoliaeth sy'n ymhyfrydu yn ei rhyddid, yn gwatwar hen safonau moesol a chonfensiynau cymdeithasol y gorffennol, ac eto'n byw mewn byd wedi ei reoli gan ddeddfau diwrthdro lle mae'n hawdd credu gyda'r astrolegwyr fod ein tynged yn dibynnu ar gylchdro'r sêr a chyfosodiad eu cysawdau ac nid ar ras Duw - Duw sydd bellach wedi ei garcharu yng nghelloedd cyfrin ein profiad preifat personol.

rhoi addysg bersonol a chymdeithasol dan bynciau fel gofal iechyd, cynllunio gyrfa, ymddygiad moesol, ymwybyddiaeth wleidyddol/ economaidd ayb.

Ceir ynddynt ddadleuon dirwestol, darnau hunangofiannol, marwnadau, ymddiddanion, hanes ei deithiau a mân draethodau 'ar destynau moesol ac adeiladol'.

Y gwir yw fod cyfeillach Northampton yn bygwth datblygu'n rhywbeth mwy na chylch trafod oherwydd ar ôl yr astudiaeth Feiblaidd âi'r brodyr ymlaen i ystyried unrhyw lithriadau moesol neu wendidau ysbrydol a geid ymhlith y clerigwyr.

Wrth ailadrodd y gair 'pechod' yn ei 'Lythyr' yr oedd Saunders Lewis yn dangos yn glir ei fod yn ymwrthod â rhyw foesoldeb cysetlyd, arwynebol, ond yn Žedu yng ngrym moesol llenyddiaeth yn ystyr ehangaf a dyfnaf y gair 'moesol': h.y., yn gwrthod llenyddiaeth foeswersol, ond yn derbyn llenyddiaeth yr oedd ei harwyddocâd sylfaenol yn foesol.

Ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Betsey, i ffwrdd ag ef ar daith garu ddiflino, bicare/ sg, a fyddai'n darllen fel dychan ar y nofel serch Victoraidd yng Nghymru oni bai am y protestio parhaus fod y cwbl er lles moesol ei gynulleidfa, yn enwedig y rheini a oedd yn tueddu at y fath ymddygiad.