Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mohoni

mohoni

Ond fe ddaeth buddugoliaeth - ac os oedd hi'n annisgwyl, nid buddugoliaeth siawns mohoni.

Roedd hi ryw natur bagio oddi wrtha i, a bagio wnaeth hi nes y cymerodd hi wib yn y diwadd am y cefn, a welais i byth mohoni hi.

I ddechrau - er bod y nofel hon yn sicr o oleuo cyfnod yn ein hanes i lawer o bobl - nid nofel hanesyddol yn yr ystyr arferol mohoni.

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.

Nid un i fodloni ar fflach y munud mohoni ond perffeithydd hunan-feirniadol a disgybledig.

Nid sefydliad swyddogol na chyfreithiol na gweinyddol mohoni.

Ond nid y tu draw i'r Mynydd Du yr oeddwn yn gwrando ar Esther Pugh yn canu emyn; er gwaetha sūn Cymreig ei henw nid Cymraes mohoni.