Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

molchi

molchi

Dro arall, pan yn aros yn Du/ lainn, mewn pabell, yr oedd yr hogia'n mynd bob bore i'r dref gyfagos Lios Du/ in Bhearna i 'molchi yn un o'r gwestai mawr sydd yno.

Dyma fi'n dechrau pryfocio'r ddau lanc 'ma o Lanfairfechan trwy ddweud nad oedden nhw ddim yn 'molchi na newid o'u dillad gwaith gyda'r nos nes iddyn nhw ein gweld ni, a'n bod ni'n ein teimlo'n hunain yn genhadon.

Llenwai'r planhigion y lle; roedd fforest ohonynt, gyda dail ffiaidd, cnawdol a choesau fel bysedd dynion marw newydd gael eu 'molchi.

Tyrd i 'molchi a bwyta dy frecwast,' meddai Pierre, 'mi gei fynd allan wedyn i weld y fferm.' Dilynodd yntau Pierre i lawr y grisiau i'r ystafell ymolchi.

Oes, mae ffôn, trydan, ystafell molchi, a dþr o'r tap, ond dyw'r ddau ddim wedi plygu llawer mwy na hylmy i'r drefn o lanw cartref gyda moethusrwydd dianghenrhaid diwedd yr ugeinfed ganrif.

Tapiau dwr oer tu allan - dim ystafell molchi o gwbl tu mewn.

Llyfai'r hen ŵr ei wefusau wrth fy ngwylio, drosodd a throsodd, gan dynnu un wefus yn araf ar draws y llall, wedi ymgolli'n alarus, fel trefnwr angladdau yn "molchi% ei ddwylo yn sych.

Ond roedden nhw'n methu'n lan a deall pam roedd y Romans clyfar yma yn molchi a mynd i byllau nofio mor aml a hithau mor wlyb bob dydd.

Felly hefyd os bydd y gath neu'r ci yn molchi dros eu clustiau.

Yna, neidiodd i fyny a mynd trwy ddrws i stafell 'molchi fach gyda'r ddelaf a welodd dyn erioed a honno i neb ond y fo.

Dim dwr na thrydan bore'ma felly molchi mewn powlen hefo dwr o fflasg (cadw fflasgiau dwr poeth yn barod - jyst rhag ofn!).