Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mon

mon

Rhaglen deledu: C'mon Midffild ac unrhyw raglen goginio.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod William Jones wedi cadw fawr o gysylltiad a Mon nac a Chymru, ond yr oedd ganddo gryn ddiddordeb mewn materion Cymreig.

Cwmni gwyliau beicio yng Nghaernarfon yn cynnig gwyliau yn Eryri a Mon yn bennaf yn ogystal a gwyliau beicio hyd Lon Las Cymru - llwybr seiclo cenedlaethol Cymru rhwng Caerdydd a Chaergybi.

Noddwyd y Rali gan Gangen Mon o Undebau Amaethwyr Cymru a chwmni RMC, Bangor.

Efallai fod ei wybodaeth yn amlycach na'i ddysg, a'i ddamcaniaethu'n drech na'i ysgolheictod ar adegau, ond prin fod neb o'i flaen wedi ymchwilio'n ddycnach i holl agweddau hanes Mon na Henry Rowlands.

Ddydd Llun bydd Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn yn trafod mater yr oedd Mr Jones yn credu oedd wedi dod i ben bedair blynedd yn ôl pan gafwyd yr adolygiad o enwau lleoedd ar yr Ynys.

Fu yna erioed ddim byd tebyg o'r blaen ond gydag Eisteddfodau yr Urdd, Môn a Phontrhydfendigaid ddim yn cael eu cynnal - heb sôn am yr amheuon ynglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol - mae gwefan Annedd y Cynganeddwyr "wedi llamu i'r bwlch" a threfnu e-steddfod ar gyfer y beirdd.

“Fy nghof cynta pan yn blentyn oedd gweld fy nhad yn ei wisg llongwr,” meddai Hywel, a fagwyd ym Môn.

Senedd Ewrop yw'r un agosaf a chyn hir iawn mater pwysig etholiad cynghorwyr i'r Ynys Mon newydd.

Heddiw ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Môn, lansiwyd CD-Rom newydd o Sam Tân, y gyfres animeiddiedig boblogaidd i blant.

Roedd gynnon ni ddau dŷ yn C'mon Midffild - tŷ Wali a tŷ Picton."

Gwobr newydd a gafodd ei chyflwyno yn y Rali eleni oedd honno i Ysgolion Cynradd Mon.

I nifer 'roedd y bwriad i adeiladu gorsafoedd niwcliar yn Nhrawsfynydd a'r Wylfa ym Môn yn Benyberth arall.

Cafwyd tywydd braf a chystadlu da ar Safle Sioe Mon.

Y diciâu yn gyffredin yng Nghymru ac yn cael ei alw y 'Welsh disease'. Haerwyd fod amodau byw yn un i bentrefi Môn yn 'worse than (those of) the native quarters of Shanghai'. Amcangyfrifid fod 450,000 o bobl wedi gadael Cymru yn ystod 'blynyddoedd y locustiaid' ers 1921.

Llongyfarchiadau i'n Cadeirydd, Mrs Audrey Jones, ar gael ei hethol yn Gadeirydd Sir Sefydliad y Merched, Ynys Mon.

Brwydro Dygn am y Gwobrau Dyna fu hanes Ffermwyr Ieuanc Ynys Mon ddechrau mis dwytha.

S4C Digidol yn darlledu bron i 80 awr o deledu digidol o Eisteddfod Genedlaethol Môn yr wythnos nesaf.

Os yw ffigurau diweddar i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.

Cofiaf rai blynyddoedd yn ol, mewn cinio ym Mangor, wrando ar y gŵr gwadd sef Richard Lloyd, cyn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd ac yn ddiweddarach Durham, sydd yn awr wedi ymddeol ac yn byw ym Mhentraeth, Mon, yn cofio ei wyliau pan yn fachgen yn Llangairfechan ac yn mynd i un o ddatganiadau Ffrancon a hefyd yn cofio ei garedigrwydd drwy ganiatau iddo ymarfer ar organ wych Eglwys Crist.

Rhoddodd y cytundeb yr hawl i BBC Cymru ddarparu darllediadau teledu, radio ac arlein o wyl 1999 ar Ynys Môn ac yn 2000 yn Llanelli, gan sicrhau darllediadau llawn a chynhwysfawr ar y teledu ar radio.

Damweiniau awyr yn ac o amgylch Ynys Môn yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Gwelodd yno awgrym fod ambell enw lle yn y plwyf, megis Tre'r Dryw, Tre'r Beirdd, Maen y Dryw, Bod Owyr, yn dwyn tystiolaeth i ymwenud y Derwyddon a Mon ac a'r ardal hon yn arbennig, a chofiodd fel yr oedd Tacitus wedi son am eu safiad hwy yn erbyn y Rhufeiniaid yn y cyffiniau hyn.

Roedd gan ei pherchenogion hi, teulu Davies Porthaethwy, o leiaf deg llong, llongau mawr yn y cyfnod hwn, ar yr un fordaith, i gyd yn cludo cannoedd o deithwyr a nwyddau, ac ar draws y Fenai yng Nghaernarfon, roedd cartref John Owen, Ty Coch un o feibion teulu Rhuddgaer, Mon yntau'n berchennog ar longau a hwyliai i Ogledd America ac Awstralia.Ceir rhywfaint o'u hanes hwy yn y bennod nesaf.

Yn Llyfrgell y Sir, Llangefni; Archifdy Mon; Llyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor - lle cafwyd llawer o gymorth gan Tomos Roberts; Llyfrgell Ganolog Manceinion ac mewn hen rifynnau o'r "Guardian a'r Times".

Cwmni yw Cynnal a sefydlwyd gan Gynghorau Sir Gwynedd ac Ynys Môn i ddarparu amrediad o wasanaethau addysgol.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ethol y ferch gyntaf yn Aelod Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol, sef Megan Lloyd George, Aelod Rhyddfrydol newydd Môn.

Agor gorsaf niwcliar Wylfa ar Ynys Môn.

Daliai'r diweddar John Arthur Price fod peth o'r ysbryd hwnnw yn yr achos cyfreithiol a ddug wardeiniaid Trefdraeth ym Môn yn 1773 yn erbyn penodi Sais uniaith yn berson y plwy.

Tenor ardderchog oedd Ivor Thomas, ac rwy'n cofio ei glywed yn canu mewn cyngerdd a arferai fod yn rhan o Eisteddfod Mon, gyda Madam Rosina Buckman (a gafodd ei chladdu yn Sir Fon, lle mae Atomfa'r Wylfa, a lle y buont yn deud i rywrai clywed canu).

Bydd y Gymdeithas hefyd yn manteisio ar y cyfle i lansio adloniant steddfod Ynys Môn Mae'n well ar y Chwith.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Waeth beth arall ddigwyddith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yr wythnos nesaf, fe ellir dweud i sicrwydd y bydd hi'n Eisteddfod hanesyddol, oherwydd fe fydd gan S4C Digidol y ddarpariaeth deledu fwyaf cynhwysfawr a fu erioed o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'n ffasiwn gan ffermwyr Sir Gaernarfon ddal tir ar Ynys Mon a rhwydd iawn yw symud defaid o un lle i'r llall, a phawb a'i gludiant ei hun.

Diolch i Mr a Mrs Bob Williams am eu caredigrwydd (Bob Cefn Maes Gafar i ni ym Mon).

Ysgol gynradd sirol yw Ysgol Gymuned Pentraeth, sydd wedi ei lleoli ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru.

Efo Audrey wrth y llyw yn theatr Fach ac yn cadw trefn ar y "Merched" mae dyfodol y "pethe% reit saff ar Ynys Mon.

Un arall o lwyddiannau y flwyddyn yn ddios fu tyfiant a datblygiad Cwmni Halal o'r Gaerwen, Ynys Mon.

Rhoddodd y cytundeb yr hawl i BBC Cymru ddarparu darllediadau teledu, radio ac arlein o wyl 1999 ar Ynys Môn ac yn 2000 yn Llanelli, gan sicrhau darllediadau llawn a chynhwysfawr ar y teledu a'r radio.

Cemais I mi, pentref glan mor ar arfordir gogleddol Mon yw Cemais, ond y mae'r enw hwn hefyd yn digwydd mewn nifer o fannau eraill yng Nghymru ar yr arfordir ac ar lawr gwlad o Feirionydd i Drefaldwyn ac o Benfro i Fynwy.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Ynys Môn yn ffactor.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod yr ymchwil gan Social & Market Strategic Research yn rhybudd clir a phendant fod dyfodol y Gymraeg ym Môn yn simsan iawn.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.

Dyma yn sicr yw ystyr yr enw ym Mon ac ym Mhenfro.

Roedd C'mon City yn edrych ar stori ysbrydoledig Clwb Caerdydd a sefydlwyd ym 1899 gan Bart Wilson, artist lithograffeg anabl o Fryste.

Trearddur yn unig sydd ar gofrestr y Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae'r bobl gyffredin yn lecio'r 'Sect Fach', (fel y galwyd hi ar un adeg), yn well arbyn hyn achos bod rhyw ddarlithwyr coleg ers tro byd, wedi dechrau siarad Urmyceg yn fler a di-hid 'run fath a phawb arall, yn lle 'run fath a llyfr neu bobl capermwyr Ieuanc Ynys Mon ddechrau mis dwytha.

Dydd Iau Annwyl Lludd, Mon Dieu!

Y mae'r ddwy wledd a gawsom gan Gwmni Ieuenctid Mon yn aros yn fyw iawn yn y cof.

Ethol y ferch gyntaf yn Aelod Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol, sef Megan Lloyd George, Aelod Rhyddfrydol newydd Môn.

Prynodd lyfrau a llawysgrifau'r ysgolhaig Cymraeg Moses Williams ar ol marw'r gŵr hwnnw, a threfnodd i Richard Morris - un o Forisiaid Mon - wneud rhestr ohonynt a'u gosod mewn trefn.

Ddechrau'r wythnos cafodd cannoedd o alwyni o gemegyn wedi gollwng i'r môr o Atomfa'r Wylfa ar Ynys Môn.

A chan mai yma yr oedd cysegrle pennaf y Derwyddon, onid arwyddocad yr ymadrodd Mon Mam Cymru oedd mai hi oedd mam eglwys Cymru oll?

Bu llawer o ddalgylch Papur Menai yn llwyddiannus yn Rali Ffermwyr Ieuainc Ynys Mon.

Roedd gan BBC Radio Cymru hefyd bresenoldeb amlwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn ac yn y Sioe Frenhinol.

Os yw ffigurau diweddar Social & Market Strategic Research i'w credu yna gallwn ragweld mai Llangefni a Bodffordd fydd yr unig gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl ym Môn gyda dros 75% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg pan gyhoeddir canlyniadau y cyfrifiad nesaf sydd i'w gynnal yn 2001.

Ond bnawn Llun mi ddywedodd Adran Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Môn nad oedd neb wedi dweud wrthyn nhw am y digwyddiad.

Drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1999.

Hyd yn oed os ydy aelodau Pwyllgor Gwaith Môn yn dweud nad oes agen y bae mi fydd yna rai enwau llefydd ar yr ynys yn aros waeth pa mor od ydy nhw - City Dulas, er enghraifft.