Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

morgais

morgais

Morgais i brynu tū yw'r enghraifft amlycaf yn hanes y rhan fwyaf ohonom, ond hawdd medru dychmygu fod sawl un wedi benthyca arian i brynu car, talu am wyliau neu anfon plant i'r coleg.

Dywedodd Mr Thapa a'i bartner Nicola Thapa fod raid iddyn nhw werthu'u tŷ gan na allen nhw dalu'r morgais.

Mae'r raddfa hon yn amrywio yn ôl graddfeydd llog morgais ar y pryd, yn cynyddu pan fydd cost benthyca yn cynyddu, ac i'r gwrthwyneb.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar y cynllun uchod oedd yn rhoddi hawl i denantiaid brynu eu tai drwy newid o dalu rhent i ad-dalu morgais.

Mae cael morgais yn ddigon o faen melin heb wahodd rhagor o fygythiad i ddiogelwch eich cartref.