Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

morthwyl

morthwyl

Tra wrth y gwaith o dyllu i wneud lle i'r camogau, y morthwyl pren, dwy aing - un fach ac un fawr - oedd yr unig offer a ddefnyddid, gyda'r riwl holl-bwysig, wrth gwrs.

Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.

Roedd yr efail a'r morthwyl a'r cwdyn o farrau haearn ar gefn y camel olaf, druan.

Mi gymrodd dipyn o amser i'w gwneud rhwng hel bocsus o siopa'r pentre a bod amser y brawd oedd yn y chweched dosbarth yn yr 'ysgol ganolraddol' yn brin, a hefyd nad oedd yr arfau þ lli a morthwyl a spocshef a chþn coed ddim llawer iawn gwell na'r arfau oedd gan y Bardd Cocos yn gwneud trol þ lli a chryman a morthwyl oedd ganddo fo.

Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.

Ac y mae gennyf gof sicr am gangers lein-gangen Aberteifi yn cerdded ar hyd y lein â morthwyl hirgoes yn eu llaw i yrru'r allweddau disberod yn eu holau.