Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

morwrol

morwrol

Nid oes amheuaeth mai'r gwragedd oedd yn cynnal y cymunedau morwrol i raddau helaeth, oherwydd bod y gwŷr oddi cartref mor aml.

Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

Fe ddrylliwyd y llong, nid gan storm, ond ynghanol gormod o draffig morwrol.

Wrth gwrs, nid yn y ddeunawfed ganrif y dechreuodd y traddodiad morwrol yng Ngwynedd.

Pam, felly, o ystyried ei bwysigrwydd a'i ddylanwad ar y gymdeithas, yr anwybyddir y traddodiad morwrol i raddau helaeth.

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.