Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

morwynion

morwynion

Cysga'r gweision yn y tai allan (outbuildings), gan fyned i'w gwelyau pan fynnont; gofyn y morwynion am ganiatâd i fyned allan yn y nos ac yna cyferfydd y dynion â hwynt yn y tafarndai; yn y ffordd hon ceir llawer o anfoesoldeb.

Y morwynion oedd Diane Roberts, ffrind y briodferch a Linze ac Alison, cyfneitherod.

Cymerodd un o'r morwynion y papuryn i'w meistres.

Crwydrai'r gweision dibriod dros y wlad yn y nos ac y mae'n ffaith gydnabyddedig fod y morwynion yn eu derbyn i'r tai.

Un o'r peryglon pennaf a wynebai'r morwynion alltud oedd 'dyfod i gyffyrddiad a llyfrau o duedd lygredig a drygionus, a ffug-chwedlau, o'r rhai hyn, mae llenyddiaeth y Saeson yn llawn, yn fwyaf nodedig y rhan (sic) a fwriedir i'r merched."ø Sôn am nofelwyr Saesneg y mae 'G' yn yr erthygl ddifrifddwys hon.

Cefais y drafferth fwyaf i rwystro fy morwynion fy hunan rhag ei arfer.

Y mae'r pechod yn gyffredinol ymysg morwynion hefyd.

Dyfynnwyd tystiolaeth nifer gan gynnwys y Parchedig Edward Williams, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfair-ym-Muallt a gyfeiriodd at blant anghyfreithlon ym Mrycheiniog a chyfathrach rywiol ymhlith gweision a morwynion ffermydd.

Tystiai Capten Napier, Goruchwyliwr yr Heddlu ym Morgannwg, y gwyddai am weision a morwynion yn cysgu yn yr un ystafell.

Ni wyddai Hadad chwaith am arfer gwragedd gwerddon Cwffra o deithio i fyny i Bengasi i elwa ar eu cyrff trwy buteinio'n agored, neu gudd, fel morwynion, efallai, i Americanwr neu Brydeiniwr oedd yn byw am ysbaid heb ei wraig ac yn hoff o gwmni yn y gwely.