Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mrawd

mrawd

Chlywodd Robat John, fy mrawd, na fi erioed Dad a Mam yn ffraeo gymaint.

Cwestiynau fel 'Gan bwy, wrth bwy, ac o dan ba amgylchiadau y llefarwyd y geiriau a ganlyn - "Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear?" "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?" "Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar?" neu - 'Ysgrifennwch nodiadau ar Feibion y Proffwydi, Jehofa Jire, Salome, Cleopas.'

Mynd i'r Brifysgol yng Nghaeredin fu fy hanes y flwyddyn ddilynol a chan fod Dafydd Wyn, fy mrawd hynaf, newydd raddio o'r Royal (Dick) Veterinary College yno, yn y mis Gorffennaf cynt, roeddwn innau'n medru camu i'r gymdeithas Gymraeg yr oedd ef yn gybyddus â hi.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Os gwrandwch chi yn astud mi ellwch jest glywed, yn y pellter, swn y Gorila Gwyllt, sef 'y mrawd mawr, hynod o siaradus, Gari.

Buasai un baban benywaidd yn farwanedig; ac fel y crybwyllwyd ni lwyddasai fy mrawd bach i fyw ond am ddiwrnod neu ddau.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

Nid oes gan fy mrawd grefft.

'Glywist ti?' 'Be?' 'Mae o wedi boddi.' 'Pwy?' 'Ne' wedi marw.' 'Ond pwy, Leusa?' 'Y Captan 'te...Captan Timothy.' ''Rioed?.' 'Cyn wiried â'r efengyl i ti.' 'Pwy oedd yn deud?.' 'Sydna, y forwyn fawr, hi ddeudodd, gynna, pan o'n i yn mynd â'r lludw allan.' 'Raid i mi bicio i'r stabla rwan, i ddeud wrth Robert 'y mrawd.

'Dwi'n cofio unwaith mam wedi gwneud cwstad wy, a thrwy rhyw anffawd disgynnodd matsian i'r cwstad, heb i mam sylwi, fe gyrhaeddodd y fatsian ar blât 'y nhad, ac yntau'n troi at Glyn, fy mrawd, a deud 'Gymi di hanner y fatsian 'ma efo fi Glyn?' Os bydda ni'n digwydd mynd i rywle i gael bwyd wedyn, tŷ ffrindia' neu gaffi, ac os bydda rhywun yn cynnig cwstard, mi fydda ni i gyd fel un yn dweud, "Oes 'na fatsian yno fo?" 'Roedd nhad yn ddoniol pan oedd o wedi gwylltio hyd yn oed, dyma ddwy enghraifft sy'n dod i'r cof.

Soniai am y ganmoliaeth a gafodd gan y meddyg lleol ar ôl ymarfer cymorth cyntaf pan dorrodd fy mrawd hynaf ei fraich wrth gwympo ar y 'patshyn'.

'Gad lonydd i 'mrawd bach i, y bwli hyll!' gwaeddodd Elen.

Pan ddywedodd John Morgan (Rambler) wrth Ddaniel Owen na chlywsai neb gwell nag ef am adrodd straeon, ateb Daniel oedd, 'Twt, beth pe clywech chi Dafydd fy mrawd?

Nid oedd f'ymateb y tro hwn lawn mor frwd a phan ddarllenais y llyfr gyntaf dros hanner can mlynedd yn ol, ac eto mae'r stoi'n dal yn un afaelgar, yr hanes am fab i grydd o bentref bach Llangernyw yn gadael ysgol yn ddeuddeg oed ac yn llwyddo i gyrraedd prifysgolion Glasgow a Rhydychen: Ar ol peth trafferth medrodd fy mrawd John a minnau berswadio Mam i adael inni gysgu yn y gwely ym mhen tywyll y gweithdy.

Un noson rhuthrodd Gordon, fy mrawd, i mewn i'r gegin ar ganol amser yr ymarferiad i ddweud bod un o'r bugeiliaid wedi tynnu'n ôl a'i fod ef wedi awgrymu i JH y cymerwn ei le.

Ganwyd fy mrawd yn y Cymer, Porth, Cwm Rhondda.

Pan glywodd fy mrawd-yng-nghyfraith y newydd am ei farwolaeth ar y teledu dywedodd wrth ei wraig fod "y dyn 'na a arferai gadw gôl i Amlwch wedi marw." Dyna'n union y math o stori y byddai BLJ wrth ei fodd yn ei chlywed, ac wrth ei fodd wedyn yn ei hailadrodd.

Pwysleisiai fod Mam yn disgwyl iddo ef ddod adre i fynd â ni i'r Cwrdd am y tro cyntaf a soniai am fy mrawd lleia a waeddodd mâs cyn i'r offeiriad gyhoeddi'r emyn olaf "Sdim fod siarad yn y Cwrdd" nes peri i'r gynulleidfa niferus (yr adeg honno) droi i edrych i gyfeiriad y cyhoeddwr dewr!

Cofiaf yn dda Wmffra, fy mrawd, yn hogyn tua deg oed, yn trechu pawb, hen ac ifanc, hefo'i stori fer.

'Mam yn gwrthod yn bendant cymryd ci o dan draed yn tŷ,' meddai fy mrawd, cyn ychwanegu.

Cyn imi anghofio, gadewais fy llyfr gyda Richard fy mrawd.