Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mur

mur

'P'run bynnag, rydyn ni'n gwybod y gyfrinach rŵan.' 'Ydyn,' meddai Iestyn, gan ddal i graffu rhwng y cerrig yn y mur fel pe bai yn disgwyl gweld y dyn yn dod yn ôl.

Wedi cyrraedd diogelwch y mur wrth gefn y ffynnon gwnaethant yn siŵr eu bod yn gwybod ym mhle'r oedd y tyllau yn y muriau fel y gallent wylio drwyddynt.

Yn awr, trwy'r ffenest, fe pe'n croesddweud popeth a ddywedais eisoes, dyma dŷ ar ei ben ei hun gyda mur o'i gwmpas - tŷ tua'r un maint a'n tŷ ni gartref.

Mae'r rhan fwyaf yn adnabod o leiaf un oedolyn arall sy wedi llwyddo i ddysgu'r Gymraeg yn rhugl, ac yn y modd hwn dymchwelwyd y mur seicolegol a oedd yn dal rhai yn ôl am na allent gredu ei bod yn bosibl iddynt hwy siarad a deall Cymraeg.

Cyfres o hanesion sydd yma am unigolion sy'n gwrthod derbyn bodolaeth mur Berlin fel ffin.

Codi mur Berlin.

Prysurodd y tri i'r guddfan a swatio yn erbyn y mur.

I'n hynafiaid, fodd bynnag, roedd gosod ysgol yn erbyn mur yn ffurfio triongl ac yn cynrychioli arwydd y Drindod.

Chdi wnaeth gur hyd y mur main, nid y fi.

casgliad hwn a roddodd i Schneider ei ddyfyniad enwocaf: 'Bydd gwaredu'r mur yn ein meddyliau yn cymryd llawer iawn yn hwy nag unrhyw ymdrech i chwalu'r mur gweladwy'.Calon y Dywysoges - H.

Adeilad pren oedd hwn, gyda mur pren yn ei wahanu oddi wrth y stablau a'r cutiau moch y drws nesaf.

Amheuaf ai Miles oedd yr enw arall, ond gwn fod cerdyn coffa am hen gyfaill iddi yn hongian ar y mur ar bwys y lle tan yn yr ystafell flaen ac mai enw ei chyfaill ymadawedig oedd Mary Miles Minter a gwn fod y cyfenwau Miles a Minter i'w cael yn weddol aml yn Ne Penfro.

Er hynny nid oedd un ohonynt nad oedd rhyw ias o ofn yn cerdded drwyddo fel y gwylient, a'u llygaid ar y tyllau yn y mur, am unrhyw arwydd fod yr ymwelydd wedi cyrraedd.

Mae'r cerrig yn cael eu defnyddio i godi mur o gwmpas y wlad.

Yna camodd ymlaen a fflachio'r golau ar y gilfach agosaf ato yn y mur.

Yn yr hanner cynta, roedd y sgrifen ar y mur o safbwynt tîm y ddinas, gan i Phil Bennett drosi tair cic gosb allan o dair, tra llwyddodd Caerdydd i ymateb gydag un gic adlam o droed Gareth Edwards.

Mae ei ddatblygiad a'i enw fel awdur wedi bod ynghlwm wrth fodolaeth y mur hwnnw o'r dechrau.

Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho.

Un o'r pethau cyntaf a ddenodd fy sylw pan ddechreuais fynd i'r capel oedd y darlun ar y mur yno, sef llun llong hwyliau mewn storm uwchben y geiriau 'Cofiwch y Morwyr'.

Yna cymer badell haearn a'i rhoi fel mur o haearn rhyngot ti a'r ddinas, a thro dy wyneb tuag ati; a bydd dan warchae, a thithau'n ymosod arni.

YNG NGHYSGOD Y MUR - Gwaith Peter Schneider

Rhyw focs o adeilad ydoedd, a llechen las wedi ei gosod yn y mur uwch ben y drws.

Yna aethant at gornel y mur i wylio.

Diolchent fod y tyllau yn y mur yn ddigon mawr iddynt allu gweld i mewn i'r adfail bron i gyd.