Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

muriau

muriau

Wedi cyrraedd diogelwch y mur wrth gefn y ffynnon gwnaethant yn siŵr eu bod yn gwybod ym mhle'r oedd y tyllau yn y muriau fel y gallent wylio drwyddynt.

Mae Tre'r Ceiri, sydd ar safle o bum erw wedi'i hamgylchynu â muriau cedyrn o gerrig a phridd ar ffurf caer neu amddiffynfa.

Croesawai'r Eglwys gelfyddyd y paentiwr hefyd, a ymarferai â'i grefft ar y muriau gwyngalchog a darlunio golygfeydd Beiblaidd ac eglwysig yn lliwgar a byw; yn naturiol, fel yr âi tai'r ysgwi%eriaid yn fwy uchelgeisiol, câi'r paentiwr fynedfa iddynt hwythau'n ogystal.

Ni bu erioed gymaint o siarad o fewn muriau Cri'r Wylan ag a fu y bore hwnnw.

Dyma wlad o'r fath dlysaf - gwlad wedi bod unwaith, y mae yn amlwg dan driniaeth uchel; palasau a ffermdai mawrion ar bob llaw i mi, ond heb neb yn byw ynddynt - eu ffenestri yn yfflon, y muriau o'u cwmpas wedi syrthio, y perllanau mawrion a'r gerddi yr un ffordd â'r meysydd, a'r meysydd yn anialwch.

Drwy gyfrwng y dechnoleg lanwaith hon, mae muriau'r geudai yn cael eu cadw'n foel a diaddurn - ac anniddorol.

O'r diwedd, gallai weld pedrongl y ffenestr yn amlinelliad llwyd yn erbyn y muriau du.

'Vatilan,' meddai Nel un bore gwyn a hithau'n codi ar flaenau'i thraed ger y muriau mawr, 'dwi isio siarad hefo chdi.'

Cofiai sefyll ar y sylfaen, ugain mlynedd yn ôl, cyn i'r muriau gael eu codi, a cheisio meddwl be oedd yn eu haros yn y tþ newydd hardd.

Bellach rhaid fyddai ymddwyn yn iawn, neu gael fy ngyrru i fyw at y plant drwg eraill i'r adeilad mawr, annymunol, a'r muriau uchel yn ei amgylchynnu.

Gwir mai'r clwb lleol ple mae'r aelodau yn cyfarfod yn gyson o wythnos i wythnos yw pwerdy'r mudiad - yno y ceir y gyfathrach glos, yno y ceir y gwmni%aeth ddiddan, ond y perygl o gadw o fewn muriau'r clwb lleol yw i'r aelodaeth ddiflasu gan nad oes sialens ychwanegol iddynt.

Caniatâ inni adnewyddiad ysbrydol nerthol i'n deffro ni o'n cysgadrwydd ac i roi inni'r nerth i ailgodi'r muriau a ddrylliwyd ac i gau'r bylchau y rhuthrodd gelynion y Ffydd drwyddynt i anrheithio dy winllan.

Synnai ato ei hun yn y bore ac at ei lyfrdra yn ofni rhithiau disylwedd y nos a'r muriau symudol.

Neidiai ar ei draed a cheisiai wthio'r muriau yn eu hôl i'w lle, ond nis gallai.

Dyma gasgliad o ddoethinebau'r muriau hynny drwy law y perchennog ei hun:

Muriau clai a tho gwellt oedd iddynt hwy a dim ond twll yn y to i'r mwg ddianc trwyddo.

Tref ramantus yw Sorrento, cartref y bardd Eidalaidd enwog, Torquato Tasso, yn llawn o hen dai nodweddiadol o'r dalaith - porth mawr gyda chyntedd y tu mewn, a muriau uchel gyda ffenestri yn y mannau mwyaf annisgwyl.

Roedd golau gwan y lleuad yn help iddynt weld ei amlinell fel y safai am ennyd yn y fynedfa cyn camu i mewn rhwng y muriau.

Bryd arall, yr oedd muriau'r gell yn nesu ato, yn cau amdano ac yn bygwth ei wasgu i faarwolaeth.

Cyn leinio muriau a nenfwd y twnnel â briciau, byddai rhywun yn cerdded drwy'r twnnel cyn i bob trên chwyrnellu drwyddo, i'r diben o wneud yn siwr nad oedd talp o graig wedi disgyn ar y trac.

Erbyn hyn mae modd ymweld a'r eglwysi hynafol sy'n llechu oddi mewn i waliau'r Kremlin ei hun, ac yno gwelir lluniau hardd yn addurno'r muriau.

Safai chwe thþr cadam, gydag wyth ochr i bob un, yn onglau muriau'r ddwy ran gyntaf ac o doeau'r tyrau hyn ymwthiai tyredau bychain yn wirion, fel bys bawd ar ben eich troed pan fydd y bysedd eraill wedi cau'n dynn.

Pan ddôi'r bore, yr oedd yn llawen ganddo weled y goleuni cyntaf yn treiddio trwy farrau'r ffenestr gan yrru ar ffo yr holl ysbrydion dialgar a gosod y muriau yn ôl yn eu lle.

Dan arweiniad y chwilod, trodd y ffrindiau i'r dde a martsio heibio i waelod muriau llwydwyn a thyrau o resi llorweddol coch a brown.

Y mae gan Gwenlyn y gallu i greu triciau llwyfan sy'n rhan o'r themau ac mae codi muriau'r cwt ar lwyfan yn rhan o asio cyfeillgarwch Williams a Now yn weladwy.

Un o'r pethau a dynnodd fy sylw gyntaf wedi symud i'm cartref newydd oedd yr adeilad mawr - muriau uchel o'i gylch, a safai led dau gae oddi wrth ein tŷ ni.

Fe fu peiriant felly yn gweithio yn y Muriau yn nechrau'r tri degau, ond am gyfnod byr y bu hynny.

Chwys wyneb a llafur breichiau, a mêr esgyrn y nigger druan adeiladodd eich muriau, a weithiodd eich ystafelloedd, ac a osododd i fyny eich pinaclau; a'u dodrefnodd â dodrefn dymunol o goed y Walnut a'r Rosewood, y Curly Maple, y dderwen, a'r Spanish Mahogany.

Roedd y tir yn garedig, y terasau'n daclus ac roedd muriau cadarn yn gwarchod y trigolion.

Yr hen iaith arni weithion - sy'n parhau Er rhwystrau yr estron; Gwelydd wrthsaif bob galon i'r Gymraeg yw muriau hon.

Wedi mynd trwy'r glyn cul, yr oeddwn yn cerdded trwy goedwig am y tro cyntaf, ond y mae muriau Val Susauna bedair mil o droedfeddi uwch eich pen erbyn ichwi gyrraedd Alp Pignaint, a chreigiau gwylltach eto yn gwarchod mwynder y porfeydd.

Y clogwyn hyn yw muriau gwarchod y wlad.

Y mae am ffoi rhag 'dirfawr derfysg gorllewin fyd' (America wrth gwrs) i'r heddwch 'Rhwng muriau anghymarol / Hen dy fy nhad.

Yr oedd arno ofn gorwedd i lawr ar y gwely rhag i'r muriau gloi amdano.

Mae rhai pentrefi hefyd gyda muriau mwd sy'n amgylchu'r holl gymuned, ar wahan, wrth gwrs, i'r gwehilion.

Rhaid oedd pasio'r wyrcws i fynd i'r ysgol, ar hyd llwybr trwy'r cae agosaf at y muriau uchel nes cyrraedd y ffordd fawr.

Roedd y rhan gyntaf a'r fwyaf ar ffurf saith ochr, gydag un o'i muriau pellaf â phlyg tebyg i goes gefn milgi.

Edrychodd ar y muriau trwchus, y drws deuglo a'r barrau cedyrn y tu allan i'r ffenestr a gwelodd mor anobeithiol ydoedd.

Cerddai gydag ymyl y muriau drwy'r nos.