Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwg

mwg

Clywn lais patriarchaidd yn fy nghyfarch yn wresog o'r lle tân, ac o dipyn i beth ymffurfiodd Huw Huws, fel rhyw Fephistopheles diaconaidd a barfog, allan o'r mwg.

Ar ôl yr ymgyrch gyntaf honno ynglŷn â'r iaith, daeth o bob cythrwfl fel march rhyfel yr Ysgrythur, ond bod y mwg o'i ffroenau ef yn fwg baco ac yn fwg bygylaeth.

Bom mwg oedd ef, a chyn gynted ag y ffrwydrodd ef amgylchynwyd y golgeidwad gan fwg.

Trwy'r mwg, clywn sŵn papur o gyfeiriad y ddwy ferch a gwelwn hwy yn tynnu allan ddwy deisen.

Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .

Roedd Leah wedi hanner deffro ac yn dechrau tagu yng nghanol y mwg yn ei llofft hi.

Ond ers tri mis, bron, heb ddangos na digalondid ymosodol na dicter na phrudd-der ymwinglyd, fe eisteddai'n dawel yn ei gadair gornel fel hyn a myfyrio yng nghanol y mwg.

Gyda'r newyn yn y gell gosb daeth yr hiraeth am sigaret; hiraeth am glywed ei haroglau, am osod y tân wrth ei blaen melyn, gollwng y mwg glas allan rhwng ei wefusau a'i weled yn ymdorchi i'r awyr.

`Tyrd Leah, gafael yn fy llaw i!' Rhedodd y fam a'r ferch drwy'r mwg i'r gegin.

Y rhain oedd y mwg a ddihangodd o ffwrnais y diafol yn nyddiau hygoelus ei phlentyndod.

Muriau clai a tho gwellt oedd iddynt hwy a dim ond twll yn y to i'r mwg ddianc trwyddo.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis

Roedd y sosban tships ar dân, a honno'n chwydu mwg a fflame dros y lle i gyd.

Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.

Daw'r ymwelydd allan o'r siambr gydag arogl mwg a thamprwydd yn ei ffroenau, a sylwa hefyd ar y siapiau rhyfedd a naddwyd i mewn i'r cerrig.

Mae'r pren yn llosgi'n dda hyd yn oed pan fo'n wyrdd ac mae'r mwg yn llesol yn enwedig i fabanod.

Owen, a'i arian mân yn bentwr o'i flaen, a thrwch y mwg o'i getyn ac o'i geg yn amrywio yn ôl addewid y dominôs yn ei feddiant ar y pryd.

Ni fedrwn weled fawr ddim ar y cyntaf, gan dewed y mwg a lanwai'r ystafell.

Gellir cael darnau brasach ar gyfer cetyn ac rydym hyd yn oed yn gwerthu Twist sef y darnau o baco a gaiff eu naddu a'u torri gyda chyllell gan yr ysmygwr." O ystyried nad yw Eirlys Williams yn smocio ei hun mae'n gryn awdurdod ar gyfrinachau'r mwg.

Am roi coffi mewn mwg pridd yn lle mewn cwpan tsiena grand a .

A thra oedd Jock a minnau'n dygnu arni yng ngwres llethol y prynhawn, ac yn chwythu mwg fel dwy injian drên ni allem lai na dyfalu ar ba antur y bu 'Gwep Babi' trwy gydol y bore.

doedd bilbao ddim yn dref hardd ; roedd y dref yn llawn o ddiwydiant a mwg, ond roedd y bobl yn gyfeillgar ac roedd y mynyddoedd o gwmpas yn uchel ac urddasol.

A chwythu mwg o gylch ei feddyliau dwys.

Mwg ac ager yn chwyrl~o allan o ambell agen yn yr ochrau, a rhyw dawch brwmstanaidd yn gordoi'r holl, gan beri i mi grychu fy nhrwyn wrth anadlu.

Safai'r efail a bwthyn y perchennog ar ymyl yr heol a llonnwyd pawb o weld y mwg yn esgyn i'r awyr.

Onid ydi'r hogan benchwiban 'na sy'n darllen y Newyddion bob nos yn nith i chwaer yng nghyfraith c'nither Margiad Parry Ty Mwg a 'dydi pedigri hen ddynas Ty Mwg yn ddim i orfoleddu yn 'i gylch.

Gwell i fi egluro fan hyn 'mod i'n un o'r bois 'ma sy'n gwisgo dim amdana i yn y gwely!l Dyna lle'r o'n ni yn gorwedd yno, ryw hanner awr yn ddiweddarach, a finne'n cadw i ddweud 'mod i'n gwynto mwg, ac yn y diwedd yn penderfynu bod yn well codi i weld.