Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwriad

mwriad

Fy mwriad yw sicrhau bod BBC Cymru yn cadw ei safle amlwg fel y darlledwr cenedlaethol yng Nghymru.

Dwi wedi datgan fy mwriad i roi'r gorau iddi yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gwanwyn nesa.

Ond fy mwriad yw nid codi crachod ond mynegi gwerthfawrogiad am gasgliad o ysgrifau sydd wedi ein gosod unwaith eto mewn dyled i'r Athro Glanmor Williams.

Yn y ddwy adran gyntaf o'r llith hon fy mwriad yw chwilio ym mha ystyr yr oedd y gair yn gymwys.

Roedd ym mwriad HR Jones i wahodd De Valera yn ogystal, ond gwrthododd Saunders Lewis y syniad hwn yn bendant; roedd wedi cyfarfod De Valera, ac ni hoffai ei syniadau, a sut bynnag, buasai ei wahodd yn anghwrtais ­ O'Sheil.

Mewn athrawiaeth Gristionogol felly gall y gair "iawn" olygu natur yr aberth a wnaed gan Grist, neu'r broses gyfan ym mwriad Duw ar gyfer achub dyn.