Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwyach

mwyach

Nid ystyrir y Gymraeg mwyach yn dramgwydd politicaidd.

Yna edrychwch ar Brifysgol Cymru gyda'i chwe choleg mwyach.

Nid oedd mwyach yn sefydliad byw, a chyfrifid hi fel rhyw gymdeithas hanner-dirgel gyda'i defodaeth arbennig, heb fod ganddi unrhyw hawl i aelodaeth gyffredinol, megis y Rechabiaid a'r Seiri Ryddion.

Nid oedd iddo ef ddim diddanwch mwyach ond ar ei ben eu hun.

Ac am nad oedd lle yn eu cynlluniau i'r teuluoedd yma nid oedd lle iddynt mwyach ar y mynydd-dir, eu cynefin, eu cartref.

Ond gwelai'n gliriach nac erioed mai'r iaith Gymraeg yw'r trysor hynaf a gwerthfawrocaf sy gennym ar wahan i'r Ffydd Gristnogol, a gwelai ei bod mwyach yn gyflym ddarfod o'r tir.

Yn wir, mae cred rhai Cymry ym mhosibliadau'r Gymuned mwyach yn anfesuradwy o optimyddol, ac yn ddigwestiwn.

Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.

Oherwydd newidiadau staffio nid oedd angen y gwasanaeth mwyach i gludo'r criw yn ôl i Fachynlleth.

Roedd rhai o'r hen bobl yn dechrau amau oedd hi werth byw mwyach.

El Hadad oedd ef mwyach roedd ganddo ei babell ei hun a hawl i'w siâr o unrhyw ffawd dda a ddigwyddai i'r llwyth, boed yn ganlyniad ffeirio neu ergyd lwcus at gase/ l.

Yn wir, yr wyf yn amau y medrech gael unrhyw un i actio mor naturiol a doniol a'r wraig honno a gwynai fod ei gwrcath clwyfus yn anghofio ei fod yn hen, ac nad oedd mwyach yn abl i gwffio am y fraint o gael bod yn dad!

Ni fyddai'r plant mwyach yn marw o'r dwymyn goch, ni fyddai coesau'n tyfu'n gam oherwydd diffyg y fitamin hwn neu'r llall?

Un diwrnod, yng nghanol y berw hwn, pwy a wnaeth eu hymddangosiad ond Bob, a Miss Evans gydag ef, nid yn Miss mwyach, ond yn Mrs!

Doedd dim bri mwyach ar addoli Duw.

Ond trawyd y byd hwnnw gan 'ddewin,' a mwyach aeth yr aderyn yn aderyn nos: 'Aderyn crwydr, unig gri,/A di-solas, di-sylwi.'

Daliant i wneud hyn er na phrynant eu barddoniaeth mwyach.

'Doedd sifiliaid hyd yn oed ddim yn ddiogel mwyach.

Bedair blynedd ar ôl iddi ddechrau portreadu Olwen dyw hi ddim yn cael llawer o gyfle i wneud y cabaret mwyach, ac mae ei bywyd wedi newid tipyn.

Nid oes braidd neb yn tramwyo'r hen lwybrau mwyach, ac ni cheir sgwrs wrth 'bistyll y llan'.

Yr oedd gwich Ms Wright yn un o ddau beth a ddigwyddodd yn ddiweddar i beri im cenhedlaeth i ymhyfrydu yn y ffaith nad ydyn nhw'n sgwennu caneuon fel yna mwyach.

Pa siawns sydd ganddo i fod yn wahanol mewn oes nad yw tawelwch yn ei geirfa mwyach?

(ii) Adroddiad y Prif Weithredwr bod y cyfle wedi ei roddi yn y cyfnod a fu pan ofynnwyd am sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ad-drefnu llywodraeth leol, ac nid oedd yn rhagweld llawer o gyfle i ddylanwadu ar hyn mwyach.

'Does dim mynyddoedd ffordd hyn.' 'O,' meddai'r plant i gyd, 'ry'n ni bob amser yn cael marc ychwanegol os rhown ni fynydd i mewn.' Faint sy'n cofio mwyach amdano yn nyddiau'r Coleg?

O ganlyniad i'r drafodaeth honno, lluniwyd y cynnig cyfaddawd, nad wyf mwyach yn cofio'i berwyl, mwy na'i fod yn gadael y ffordd yn rhydd i unrhyw aelod o'r Blaid arddel y syniadau economaidd a fynnai, er bod y Blaid yn datblygu polisi economaidd arbennig.

Does neb yn carrega bellach, ac mor wir yw englyn y diweddar Dafydd Williams, Bryn Hyfryd, Y Garn, Pentrefoelas, i'r chwalwr tail: Ni raid wrth deisi gwair ac ŷd mwyach, ac mae'r grefft o'u toi ymhlith y pethau a fu - un o'r crefftau hynny y byddai dyn yn ymhyfrydu ynddynt ar derfyn dydd.

Ni ddaw neb heibio mwyach heno.

Nid mwyach.

Rhagymadroddais yn ddigon talog gynnau drwy led awgrymu mai bardd eilradd ydoedd, a dyna rywsut y farn gytun mwyach, ac eto, mewn rhai o'r sonedau hyn (VI, VII, XVI, XXIV, XXXI, XLII, XLIII) y mae'n dweud rhywbeth o bwys mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ei ddweud yn gain synhwyrus ac yn fachog fyw.

Gwneir arbrofion ar sut i ffrwyno ynni llanw ac nid yw ffarmio pysgod yn rhywbeth newydd mwyach.