Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mwynhad

mwynhad

Mae'r Panel yn cydnabod fod lles economaidd a chymdeithasol cymuned y Parc yn bwysig er mwyn cadwraeth effeithiol a mwynhad o'r Parciau, ac na ddylid edrych ar ymwneud Awdurdodau'r Parciau yn y maes hwn fel prif swyddogaeth ond fel swyddogaeth gefnogol i asiantaethau eraill.

Cyn codi'r llyfr roeddwn i'n amau y buasai y fersiwn Saesneg yn tynnu fy sylw ac yn amharu ar fy mwynhad.

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

O fynd i oed mae tuedd mewn dyn i edrych yn ôl a byw ar atgofion sydd yn foddion cysur a mwynhad.

Yr ydw i yn un o'r rhai syn cael mwynhad mawr ohoni.

Go brin y byddai hynny'n gweithio yng Nghymru er fy mod i wedi prynu digonedd o lyfrau nad wyf wedi cael y mwynhad a ddisgwyliwn oddi wrthynt.

Gallai'r Uned feithrin cysylltiadau ag elusennau'r amgylchedd, megis yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, drwy ofyn yn rheolaidd iddynt nodi safleoedd sy'n werthfawr o ran bywyd gwyllt ond a allai ymelwa ar waith a fyddai'n ychwanegu at eu gwerth i'r amgylchedd neu'u diogelu er mwynhad y cyhoedd.

Cafwyd tymor llawn mwynhad o ddramaur diweddar Gwenlyn Parry hefyd.

Yn ffodus iawn, fe recordiais i rai o'r darlithoedd hynny, ac ambell hwyrnos gaeaf mi fyddaf yn rhoi'r tâp yn y peiriant, ac yn cael mwynhad o ailwrando, ac o all-greu hwyl y gwmn aeth felys honno ar ben yr odyn.

Dylai dyfarniadau ar ansawdd y dysgu mewn Cymraeg/Saesneg roi ystyriaeth i ymateb y disgyblion i dasgau o ran eu diddordeb, eu cyfranogiad a'u mwynhad; cyflymder eu gwaith; i ba raddau y maent yn amlygu cynnydd wrth ddefnyddio'r iaith lafar ac ysgrifenedig, ac yn datblygu annibyniaeth, llithrigrwydd ymadrodd a chywirdeb yn briodol i'w hoedran a chyfnod eu datblygiad.

Cafwyd tymor llawn mwynhad o ddramau'r diweddar Gwenlyn Parry hefyd.

Dafydd: Mwynhâd yw canu a gigio - does dim angen neges dim ond swn da.

Er mai cyfrol sy wedi ei hanelu at blant yw hon bydd pawb yn cael mwynhad o'i darllen.

Mi gês y teimlad bod hwn wedi safio 'mywyd i, ac roedd y mwynhad yn egstatig.

Llongyfarchwn Derec yn gynnes iawn a'i gyd-weithwyr gan ddiolch iddynt am gyfoethogi bywyd ein Ieuenctid, a rhoi mwynhad a bendith i eraill.

Taith dyn a werthodd ei enaid i'r Diafol i brofi eto ieuenctid a mwynhad bywyd o bleseraur byd sydd yma.