Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

myd

myd

Laserau tiwnadwy Un o'r datblygiadau mwyaf cynhyrfus ym myd y laser yn y blynyddoedd diwethaf yw'r laser tiwnadwy - laser lle gellir amrywio tonfedd y goleuni a ddaw ohono.

Daeth yn adnabyddus trwy Gymru gyfan ym myd llenyddiaeth.

Darllenid cofnodion y Cyngor gyda'u hatodiadau helaeth o adroddiadau ac ystadegau gan bobl ymhobman ym myd gwleidyddiaeth.

Er enghraifft, gwnaed darganfyddiadau ym myd amaethyddiaeth sydd wedi ysgafnhau gwaith pawb.

Brawddeg bwysica'r iaith ydyw o safbwynt cadw'r iaith fel iaith i'r dyfodol, o safbwynt ennill y tir a gollwyd yn ôl, o safbwynt buddugoliaeth ym myd dysgu.

Etifeddion oeddynt i'r deffroad ym myd dysg a diwylliant yn y ddeunawfed ganrif a gysylltwn ag enwau megis Lewis Morris ac Ieuan Fardd.

Gallwn aros yno am hydion yn berffaith fodlon ar fy myd.

I ddychwelyd at deitl yr erthygl, a'r dinosoriaid diflanedig, nid yw'r esblygu sy'n digwydd ym myd natur mor hawdd ei ddeall â'r amcanu syml a geir yn yr algorithm genetig.

Arbrawf ym myd ffantasi a ffansi fel Rhys Llwyd y Lleuad a Hcn Ffrindiau oedd Stori Sam fel y cydnebydd yr awdur ei hun.

Efallai wir fod y ffaith nad yw ein cymunedau Cymraeg wedi diflannu'n llwyr yn destun clod i ymgyrchwyr a aeth ati wedi 1984 i greu polisiau iaith newydd yn ein hysgolion, ym myd tai a chynllunio ac a greodd hyder newydd o ganlyniad i'r ymgyrchu.

Laserau ffibrau optegol Cafwyd datblygiadau gwreiddiol iawn ym myd y laser ym maes cyfathrebu optegol.

Roedd yn arbennigwr ym myd bridio defaid run fath ag y mae ei fab heddiw, y soniais amdano yn gynharach yn y llyfr yma.

Er gwaethaf y gofid ynghylch colli 73 o swyddi'r wythnos yn y byd amaethyddol a'r colledion pellach ym myd cynhyrchu, cafwyd arwyddion cadarnhaol.

Ym myd natur, atgenhedlu rhywiol yw'r dull pennaf o gael cyfuniadau newydd o'r wybodaeth enetig i'r genhedlaeth nesaf - fe etifeddir rhai unedau genetig o'r tad a rhai o'r fam.

A beth am y llu o ddarganfyddiadau bendithiol a wnaed ym myd meddygaeth?

Ond mae'n rhaid cadw mewn cof bod y mudiad rhamantaidd yng Nghymru yn ffynnu ar adeg o newid chwyldroadol yn y gymdeithas, o ddiwydiannu cyflym, a symud poblogaeth, hagru'r tir, o newidiadau ym myd crefydd ac iaith.

Mae'n bosibl y byddwch chi'n meddwl am bobl sy'n enwog ym myd chwaraeon, rhai sy'n gyrru ceir yn gyflym, pobl sy'n eithriadol o dal ...

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Cenhadaeth Coleg Ceredigion yw gwneud cyfraniad tuag at ddatblygiad addysgol, cymdeithasol ac economaidd y gymuned trwy ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd ym myd addysg a hyfforddiant.

Ni lyncwyd Alun Jones nac Aled Islwyn gan y cyfryngau, ac er bod William Owen Roberts yn ennill ei fara menyn ym myd y teledu, mae'n ymddangos fod y nofel yn gyfrwng a apeliodd yn arbennig ato am ei bod yn rhoi cyfle iddo fynegi'i weledigaeth mewn modd mwy myfyrdodus na'r teledu.

Wedi'r cwbl, roedd y deugeinfed arlywydd yn feistr ar ddarllen yr `autocue' - y peiriant hwnnw sydd wedi disodli'r cof ym myd y teledu.

A'r un modd, gwelir mewn llawer man ei ddiddordeb byw ym myd natur, fel yn ei erthygl, "Troed",

Ym myd yr anifeiliaid mae llawer o enghreifftiau lle mae silia yn cael eu defnyddio fel derbynyddion synhwyro.

Y gwrthwyne, fynychaf, sy'n wir ym myd celfyddyd," meddai.

Na - rwy'n hollol hyderus mai yn yr un modd yn union y trinir y ceisiadau am y swyddi hyn ym myd Iechyd.

Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.

Llew' drwy'r blynyddoedd ym myd llyfrau plant, o'r dyddiau cynnar hynny (ar ddechrau'r pumdegau) pan gâi cyrsiau i awduron eu cynnal yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, at ennill Gradd MA Prifysgol Cymru am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant.

Ym myd natur, nid yw'r holl DNA yn cael ei fesur er mwyn datrys rhyw broblem benodol.

Bariton, Banciwr, Beirniad Yn ogystal â bod yn ganwr galluog mae arbenigwyr ym myd y gân fel JOHN STODDART a T GWYNN JONES yn pwysleisio bod Towyn hefyd yn feirniad praff.

Aeth y Gymdeithas yn ei blaen i geisio lle teilwng i'r Gymraeg ar y teledu ac ym myd addysg.

Dau bartnar ym myd a potsio.

Beth yw'r sefyllfa ym myd gwyddoniaeth go-iawn heddiw?

Chwaraeodd y Sarnau ran bwysig ym myd y ddrama ac roedd Mrs Nancy Pritchard yn ysgrifennu dramâu rhagorol ar gyfer yr aelodau.

Yma y dechreuodd Joe ar ei yrfa ddisglair ym myd draffts, yn aelod o'r tim a chwaraeai yng Nghyngrair Draffts Swydd Caer.

Ond a'n gwaredo ni, ym myd theatr plant, rhag gwthio ein diwylliant, rhag dyrchafu ein credoau a'n hargyhoeddiadau fel y rhai gorau a'r rhai mwyaf gwaraidd, ar draul rhai eraill.

Penderfynodd hefyd daclo un arall o glefydau Ariannin, sef llygredd a llwgrwobrwyo ym myd gwleidyddiaeth a busnes.

Ym myd rasio milgwn mae'n gred yng nghymoedd y de fod anifail â marc gwyn ar ei dalcen yn siŵr o fod yn anifail lwcus iawn i'w berchennog.

Sefydlwyd Tribiwnlys Flood i archwilio cambriodoli arian ym myd cynllunio a datblygu, yn Nulyn yn bennaf.

Yn ogystal â'i brofiad helaeth ym myd darlledu mae hefyd yn wr o amryfal ddiddordeb allanol.

Ym myd natur ceir enghreifftiau syfrdanol o greaduriaid sydd wedi llwyddo i ymaddasu i'w hamgylchedd yn ogystal ag olion y rhai a fethodd, megis y dinosoriaid diflanedig.

Dosbarth Tryfan: Y mae'r plant wedi llwyr ymgolli ym myd y Deinasoriaid ac maent yn edrych ymlaen yn eiddgar am ÜBarti'r Deinasoriaid'.

Ond yr oedd fy myd i'n troi fel pe bawn mewn roced ffair, a phrofiadau'n stribedu trwy f'ymennydd fel moch wedi rhusio ar draws ei gilydd: 'O!

Gwelwyd ar yr un pryd chwyldro ym myd ffermio.

Dros y misoedd diwethaf, fodd bynnag, mae yna newidiadau mawr wedi bod ym myd y Gwacs, wrth i wahanol aelodau fynd a dod.

Yr oedd gennyf gymaint o feddwl o Ioan Brothen fel gūr diwylliedig nes imi ddweud ar ddarlith i fyfyrwyr Bangor un tro : "O ran ei ddiwylliant mi dynnwn fy het i Ioan Brothen na chafodd ond chwech wythnos o ysgol o flaen eich hanner chi% Ym myd hynafiaethau bu Ioan Brothen yn fwy o help imi na neb.

Hyd yn oed eleni yn myd addysg, maes ag iddo hir draddodiad o ddatganoli, ac mewn perthynas â gwasanaeth arolygu'r ysgolion, gwasanaeth o fowldiwyd gan neb llai nag Owen M.

Nid ym myd y Gyfraith yn unig y mae diffyg statws i'r iaith, wrth gwrs.

Cred mewn rhagarwyddion neu argoelion, cred fod rhai pethau, yn arbennig ym myd natur, megis adar ac anifeiliaid, yn gyfrwng i ragfynegi'r dyfodol ac i ddateglu gwybodaeth am gyflwr dyn ei hun, boed lwyddiant neu aflwyddiant, lwc neu anlwc.

Un agwedd y tueddir i'w anwybyddu yw'r rhan a gymerodd ysweiniaid Gwedir ym myd diwylliant yn gyffredinol.

Mae'r strategaeth felly yn symbol o'r consensws newydd sy'n bodoli ym myd busnes a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn Ewrop ac sy'n anwybyddu'r hen wrthgyferbyniad rhwng y 'Wladwriaeth' a'r 'Farchnad' a lywiodd gymaint o'r trafod yn yr wythdegau, a hynny trwy osod nod strategol sy'n ymgais i gyfuno buddiannau pawb yn y gymdeithas ar lefel ranbarthol.

Roedd Elis Owen a'i feibion hefyd yn gryn arbenigwyr ym myd y cneifio.

Cyfrannodd y dosbarth hwn yn hael at yr arweinyddiaeth leol ym myd busnes, diwylliant a llywodraeth leol.

Cyhoeddwyd yr adroddiad hir ddisgwyliedig i lygredd ym myd criced.

Mae Marks & Spencers a Spar a Tesco wedi rhoi lle i'r Gymraeg am y tro cyntaf ym myd masnach er bod llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes hwn eto.

Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.

Bydd y shed yn cynnig y cerddoriaeth mwyaf diweddar a'r gorau ym myd adloniant a cherddoriaeth.

ARLOESWR YM MYD DIWYDIANT Erbyn hyn aeth yn agos i ddau gan mlynedd heibio oddiar i ŵr bonheddig o'r enw George Bowser ddod i lawr o Lundain i ardal Penbre, yn yr hen Sir Gâr, gyda'r bwriad o gychwyn y diwydiant glo yno.

Awdl ragorol am y ddeuoliaeth ym myd natur, am y frwydr barhaus rhwng goleuni a thywyllwch.

Mae ei chwaer, Anne Brazier, yn gweithio yn America ym myd eiddo a mae hi'n filiwnydd.

Eto, nid dyna'r unig ffactor ar waith ym myd addysg ar ddechreuad ein cyfnod.

Ym myd chwaraeon, cafwyd egni ar y sgrîn a newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gan Geoff Collins, Laura Watts a Delyth Morgan, gan gynnwys cyfweliadau gyda Graham Henry a Vinnie Jones a darllediadau estynedig o gêmau byw na ellid eu cynnwys ar y sianeli analog.

Ac nid gorchwyl hawdd yw honno i bobl sydd yn gweihio ym myd cadwraeth, ac yn amddiffynol o unrhyw anifail wrth reddf.

Os ydym am ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol rugl yn y Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n rhwydd ym myd gwaith, bydd yn rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc dderbyn addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Fel llawer o bobl sy'n gweithio ym myd chwaraeon, mae'r dynion dewr sy'n rasio ceir yn ofergoelus iawn.

Ar ei hyd, taria wedyn Ar lawr glas Parlwr y Glyn; Yno mae hoen 'y mywyd, Ac yno mae, gwyn 'y myd, Ardal hyfryd Rhyd Lefrith A'r dydd ar y bronnydd brith.

Bellach prin yw'r sôn am sgubell ym myd coelion ac arferion gwerin, ac eithrio'r cyswllt annatod rhyngddi â gwrachod ar Nos Galangaeaf.

Edwards ym myd llyfrau plant gan egluro fel y bu i hwnnw ddweud wrtho'n chwaraeus un tro iddo'i achub rhag bod yn fardd i fod yn awdur llyfrau plant.

Fe wyddom am y modd y mae'r cylchedau micro a dyfeisiadau tebyg wedi dylanwadu ar ein ffordd o fyw yn yr ugain mlynedd diwethaf, ond mae'r datblygiadau presennol ym myd microbrosesyddion, celloedd solar ac electroneg optig, er enghraifft, yn awgrymu y bydd cymaint, os nad mwy, o newid yn yr ugain mlynedd nesaf.

Enghraifft syml o hyn yw catalogau sioeau amaethyddol, sy'n adlewyrchu newidiadau ym myd amaeth gyda chatalogau cynnar a dosbarthiadau niferus yn orlawn o geffylau gwedd tra bod catalogau diweddarach yn cynnwys mwy o ddosbarthiadau ar gyfer mnerlod bychain i'r plant.

(Gyda llaw, adleisiau o Iddew Malta a Dr Faustus a Tambourlaine (Marlowe).) 'Bei cawn i berfedd y ddaear im cist am coffr, mi gysgwn yn llonydd a gwyn fyddai fy myd'.

Dydyn nhw ddim yn fy myd i.

Ond, er gwell neu er gwaeth, ychydig iawn o dosturi a geir ym myd natur ac fe ŵyr y fam hynny gystal â neb; ymhen ychydig ddyddiau bydd yn chwalu'r tylwyth gan gario'r lefrod bychain i walau eraill yma ac acw, fel y bydd cath yn cario'i hepil yn ei cheg.

* edrychwch am gyfleoedd i drafod datblygiadau cyfredol ym myd addysg.

Roedd hwn yn gyfnod digon anodd ym myd llenyddiaeth Gymraeg i'r arddegau.

Yn sicr yr oedd distryw yr Ail Ryfel Byd yn fwy cyffredinol ac eithafol nag a gafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf - yn enwedig ym myd cyfalaf sefydlog, hynny yw, adeiladau a pheiriannau.

'Problemau bywyd' ym myd natur yw medru byw mewn amgylchedd arbennig, a medru atgenhedlu'r genhedlaeth nesaf.

Cyffredin iawn hefyd yw'r Mochyn Cymreig ym myd ffermwyr moch.