Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynaich

mynaich

Bu deall y darlun hwn yn dipyn o benbleth i'r esbonwyr, a'r duedd fu edrych arno fel enghraifft o barodrwydd y mynaich canoloesol i weu chwedlau er hyrwyddo eu buddiannau eu hunain.

Yn nhymor yr ŵyn gwelid mynaich lleyg Abaty Aberconwy yn yr hafotai hwnt ac yma, a draw tua Moel Fleiddiau a Moel Cibau yr oedd sŵn corn yr helwyr yn darogan fod rhyw newydd yn y tir.

Gwahaniaeth amlwg arall oedd y modd yr eilliai'r mynaich eu pennau.

Yn naturiol, yr oedd yn rhaid i'r cyfryw arweinydd gael adnoddau i gynnal ei fyddin, ac fe'u cafodd, i ryw fesur o leiaf, trwy ysbeilio'r Eglwys a'r mynaich o'u heiddo, ac yn arbennig o'u da.

O blith y mynaich traddodiadol, Urdd y Sistersiaid oedd bwysicaf yng Nghymru: hwy oedd piau mynachlogydd yr Hendy Gwyn ac Ystrad Fflur a Chymer, er enghraifft, a lleiandai Llanllyr a Llanliugan, er mai'r Premonstratensiaid oedd piau Abaty Talyllychau ac Urdd S.

A allai'r Frawddeg Annormal fod yn ganlyniad syml i arfer y mynaich o siarad Saesneg, rhyw fath o ddullwedd neu snobyddiaeth lenyddol?

Byddai arfer mynaich y de-ddwyrain o dreulio amser yn Lloegr yn esbonio pa mor rhwydd y daw Kent, yn hytrach na Chaint, i feddwl ein hawdur, er iddo ddefnyddio'r ffurfiau Cymraeg Henffordd a Rhydychen.

Y gwahaniaeth rhyngddynt oedd fod un garfan - y mynaich traddodiadol - wedi eu cyfyngu i fynachlogydd ac wedi cymryd fel eu prif orchwyl gynnal y cylch o wyth gwasanaeth canonaidd ddydd a nos; tra oedd y lleill - y Brodyr - yn cael gadael eu priordai er mwyn mynd ar hyd y wlad i bregethu, gan gardota am eu cynhaliaeth wrth fynd.