Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynegais

mynegais

Yn rhy hwyr y mynegais fy hun Juan Carlos!

Pwysleisiais fod yn rhaid darlledu'r adroddiad nos Lun, a mynegais gydymdeimlad â'r swyddog am fod ganddo waith mor anodd.

Mynegais hynny wrth Arthur, a gofyn iddo prun o'r ffyrdd hynny a'm tynnai tua Bangor.

At hynny, mynegais y farn mai anodd oedd i odid neb aros yn ddi-Gymraeg yn y sir ddwyieithog hon ar ol byw yma am rai blynyddoedd - ac eithrio'r rhodresgar, y meddyliol-anneallus, neu'r diog: yn enwedig unrhyw un mewn swydd gyhoeddus.

Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.