Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynwesol

mynwesol

Dyma Rafe (Ben Affleck) a Danny (Josh Hartnett) sydd, does dim rhaid dweud, yn tyfu'n ffrindiau mynwesol ac ymhlith awyrenwyr gorau yr Unol Daleithiau.

Ar y noson dangoswyd dwy allan o'r dros 400 o raglenni a wnaed gan Gwyn Erfyl yn ystod ei gyfnod gyda HTV, un yn darlunio ei gyfaill mynwesol, yr arlunydd Pietro Annigoni wrth ei waith yn Fflorens, yr Eidal, a'r llall, Ewscadi, yn darlunio bywyd yng Ngwlad y Basg ar y ffin a Ffrainc yng ngogledd Sbaen.

Dysgwn hefyd ei fod yntau, fel ei fam, wedi cael ysgol breifat, ac yn sgil hynny, sylwn fod ei gyfaill mynwesol, Gwdig 'wedi'i fagu mor gyffredin.