Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mynyddig

mynyddig

Yn yr ardaloedd mynyddig ceir glawiad uchel, tymheredd isel ac ychydig o heulwen o'i gymharu a'r ardaloedd yn yr iseldir.

Ac yn awr dyma gyrraedd gwlad fwy mynyddig, yn llawn cymoedd cul a gelltydd trwchus, du.

Yn yr Engadin, megis ym mhob un o'r cymoedd ar gymoedd mynyddig sy'n creu'r Grisiwm, mae'n hawdd ymateb i eiriau Zarathustra, 'immer weinigere steigen mit mir euf immer hohere Berge, - ich bause ein Gebirge aus immer heiligeren Bergen.' (Llai a llai sy'n dringo gyda mi i fyny mynyddoedd uwch ac uwch, - adeiladaf ucheldir o fynyddoedd sancteiddiach a sancteiddiach).

Nid oes patrwm syml i ddosbarthiad yr ucheldir ac mae nodweddion yr ardaloedd mynyddig yn amrywio'n helaeth.

Tyf llawer o blanhigion eitha cyffredin yma ond yn doreithiog mewn cymhariaeth a phorfeydd mynyddig a thir amaethyddol llawr gwlad.

Fel arfer, mae'r anifeiliaid hyn yn rhai caled a chadarn sydd yn medru ffynnu ar diroedd gwael a mynyddig y wlad.

Ond aeth yn ei flaen i Gaer ac i Wolverhampton i astudio a graddio mewn cylfyddyd gain, a threulio dwy flynedd a hanner wedyn yn gweithio fel arlunydd ym Methesda, yn peintio portreadau, ond yn fwyaf arbennig, y tirwedd mynyddig o'i gwmpas.

Pan oedd personiaid, ar gyflogau isel, yn gofalu am blwyfi eang, mynyddig, yn aml am lawer o blwyfi, sut y gallent weithredu fel athrawon llwyddiannus yn ogystal?

.' Hoffai Ieuan Gwynedd hefyd ei ddisgrifio ei hun fel mab y bwthyn neu wladwr mynyddig, a thelynegai yn ei ysgrifau a'i gerddi am fryniau gwyllt Gwalia, am lili%au a rhosynnau coch, am wenyn yn suo, am furmur y nant, ac am blant bochgoch yn chwarae'n hapus ar feysydd gwyrddlas.

Tyddyn pymtheg erw o dir gwael mynyddig oedd y Ffridd Ucha, tyddyn rhy fach i gynnal teulu, hyd yn oed yn nechrau'r ganrif.

Priododd yntau; a disgynnodd ar unwaith yng nghanol trafferthion hollol newydd iddo - amaethu tyddyn mynyddig, digon drud, a magu tyaid o blant, ymwneud â masnach ansefydlog a phorthmyn celwyddog.

Bu Môn yn ddibynnol ar amaethyddiaeth erioed ac, yn yr hen amser, roedd yn darparu grawn ac anifeiliaid ar gyfer rhannau mynyddig y tir mawr.

Gwelir fod y ganran o dir pori da yn lleihau mewn siroedd megis Gwynedd a Phowys, lle ceir cyfran uchel o dir mynyddig o radd isel.