Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

mysg

mysg

Ar y naill law nid oedd tristwch ymhell gan fod bechgyn yn cael eu gwysio i'r lluoedd arfog ac yn diflannu o'n mysg - rhai ohonynt am byth.

Urdd oedd hon a roes sylw arbennig i addysg grefyddol ymhlith lleygwyr er mwyn cryfhau defosiwn a phietistiaeth yn eu mysg yn ôl dulliau y devotio moderna (defosiwn modern) fel y'i gelwid.

Roedd amheuon, fel y dywed yr hen air, 'nid oes ond un sicrwydd', ac mae'r graig honno'n llawer cadarnach na'r haenau y gorwedd y glo yn eu mysg.

Gwenent wrth ei gyfarfod a dysgodd hyd yn oed eu plant mai da yn wir, oedd Duw, i anfon dyn tebyg i'w mysg.

Cododd awydd ym mysg y deallusion i amddiffyn yr etifeddiaeth o harddwch, tawelwch ac o lecynnau ysbrydoliedig.

Ymwneud â'r masg anorfod a wisga dyn, y diffyg cyfathrebu sy'n bodoli yn ein mysg, osgoi a methu wynebu realiti, twyllo a dweud celwyddau, a'r dirgelwch sy'n bodoli ynglŷn â dyn.

Deuthum i Tel-abib at y caethgludion oedd wedi ymsefydlu wrth afon Chebar, ac aros lle'r oeddent hwy yn byw; arhosais yno yn eu mysg wedi fy syfrdanu am saith diwrnod.

Pob parch i bawb sy'n cael Cerddi'r Gaeaf at eu chwaeth (ac 'rwyf innau yn eu mysg) ond yr un parch i'r rhai y mae eu barn yn amau'r clod a roir i 'Awdl yr Haf' ('rwyf ymysg y rheini hefyd).

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

Er hynny, mae'r holl amrywiaeth bywyd ar y Ddaear heddiw, a phobl yn ei mysg, yn ddisgynyddion i'r creaduriaid hynny oedd yn fwy llwyddiannus wrth ddatrys 'problemau bywyd' na'u cyd-greaduriaid yn y gorffennol.

Byom ar ein hennill o'u cael yn ein mysg ac yn ein heglwysi, a bydd ardal Llanilar yn siwr o elwa am yr un rhesymau.

Yn eu mysg gwelodd Jabas Dr Braithwaite a Sharon yn eistedd ar stoliau uchel wrth y bar.

Mae'n debyg mai oherwydd ei hamlygrwydd fel cennad tymor y tyfiant yr enwyd cynifer o blanhigion ar ei hol, rhai sy'n blodeuo tua'r un pryd ag yr ymddengys hithau'n lledrithiol yn ein mysg.

Trwy wneud hyn, wrth gwrs, roeddynt yn mentro i fyd o eira a rhewfryniau, ac yn nyddiaduron teithwyr y cyfnod cawn lu o gyfeiriadau at y cyffro ofnadwy yn eu mysg wrth edrych allan a gweld eu llongau yng nghanol cylch oi rewfryniau uchel.

Heblaw unigolion a theuluoedd fe ddaeth newydd-ddyfodiaid eraill i'n mysg yn ail chwarter y ganrif hon, sef y mudiadau newydd fel Sefydliad y Merched a Chlybiau'r Ffermwyr Ifainc, Cymdeithas y Capel, Dosbarth Allanol y Coleg a llawer o weithgareddau eraill a alluogodd y plwyf i ennill y lle blaenaf mewn cystadleuaeth sirol ar weithgarwch ardal wledig.

Yr oeddynt mor anhepgor yn eu golwg hwy â'r nyrsus eu hunain gan mai eu pwrpas oedd cadw'r milwyr rhag cyfathrachu â'r merched brodorol yr oedd clefydau gwenerol mor gyffredin yn eu mysg.

Cymry'n bennaf oedd yn yr ail garfan a dyna felly oedd iaith y grŵp hwnnw, gyda'r ychydig Saeson yn eu mysg yn straffaglu i'w siarad orau y gallent.

Rhestrid yn eu mysg athrawon mor ddisglair â Hegius a disgyblion llachar megis Rudolf Agricola a'r enwocaf oll, Erasmus.

At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, Prun bynnag a wrandawant ai peidio -- oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt -- fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg.

Mi fyddai'r lle'n orlawn, nid yn unig o'r ffyddlon, ond hefyd o'r rhai eraill, dim ond i ymfalchio fod yr hen ŵr wedi bod yn eu mysg.

Chafon ni ddim hyd yn oed recordio swn y mân siarad yn eu mysg tra'r oedd lluniau yn cael eu tynnu.

Yn eu mysg mae tair baner a gynhyrchwyd yng Nghymru.