Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

myw

myw

Fedra i yn fy myw dy ddallt ti, Huw.

Wel, tebyg fy mod yn geidwadol, ond rhywsut ni fedraf yn fy myw fodloni ar y detholion 'ma; y mae'n rhaid i mi gael y Llyfr i gyd, yn Lefiticus ac yn Gronicl ac yn bopeth.

Er cymaint y mae rhywun yn edmygu clyfrwch y The Second Coming yna ni allaf yn fy myw beidio a chredu ei fod o hefyd yn amharchus o gred grefyddol miliynau o bobl.

Nid ffrwyth edrych ym myw llygaid cyfanrwydd y ffeithiau hanesyddol yw'r damcaniaethau hynny, ond gwneud gosodiadau cyffredinol ar sail ffeithiau a ddetholwyd yng ngoleuni rhagdybiau athronyddol digon hysbys.

Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.

"Y cyfan rydw i ei angen yn awr ydi cornel fach glyd i roi fy mhen i lawr." "Mae'na le yn y stabal," meddai'r tafarnwr yn gyndyn, ond heb feiddio edrych ym myw llygaid tywyll y cardotyn.

Ni symudodd y ferch as wedi eiliad o edrych ym myw llygad ei gilydd, ailgychwynnodd y creadur ar ei daith a diflannu dros y twyn.

Doedd dim eisiau perswadio'r criw i hel eu pac oddi yno, a dwy' ddim wedi gweld dyn camera yn symud mor gyflym yn fy myw!

Ella fod gan Mam biti drosto fo ond fedra i yn fy myw gymryd ato fo.

Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!

"Mae yna ddigon o le." Tro Alis oedd syllu ym myw llygad Emli.