Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nabod

nabod

'Dwi'n saith deg un, ac yn ddigon hen i nabod sŵn y gwynt pan glywa i o.

Ar ôl mis, serch hynny, mae llawer o blant VIC yn ein nabod ni ac yn ein croesawu wrth i ni gyrraedd.

I, ddim yn nabod neb a dieithrwch gwlad newydd i gyd yn ein rhwystro rhag parhau â'r gwaith.

Er mi fyddai'n biti petaen nhw'n cael angau a nhwythau ond prin nabod ei gilydd.

Angharad wedi dod, ac mae hi yn rhan o Cymdogion arbennig hefyd, ar draws yr Ynys, pawb bron yn 'nabod ei gilydd, anhygoel, a phawb yn gytun, a'r mor a'r mynydd...

'Rwyt ti'n fy 'nabod, felly.' Gwenodd Mathew.

Rhydd argraff gref iawn ei fod yn nabod y llenorion y mae'n eu trafod, yn eu gweld yn fyw yn eu cyd-destun cymdeithasol, ond hefyd yn ymuniaethu â hwy fel unigolion (e.e., wrth gyfeirio at Forgan Llwyd y gŵr swil, neu wrth ddweud yn ei erthygl ar 'Weledigaeth Angeu': 'Mae'n anodd heddiw ddarllen unrhyw awdur na wynebodd wallgofrwydd'.

Ond er fod darnau o gymaint o bobol oeddem ni yn nabod yng nghymeriadau Nedw, yr oedd pawb ohonyn nhw yn bobl go iawn yn eu nerth eu hunain hefyd, ac ambell dro mi fyddai pobol y pentra yn troi yn ddarnau o gymeriadau Nedw.

Doedd hi'n nabod neb yno ond Tom, ac roedd o wedi addo peidio'i gadael.

Yn wir, gellid nabod pregethwyr yr amser hwnnw oddi wrth y 'bag bach', pe na bai dim arall i wahaniaethu rhyngddynt a gweddill meidrolion daear.

Bu bron i Ifor â dianc oherwydd roedd o'n 'nabod y car.

Ond Ysgol Eglwys o'dd y ddwy, ac mi ro'dd mam yn nabod sgwlyn Llangoedmor, ac oblegid hynny, rodd hi'n haws ganddo faddau i mam a minnau am y mynych ddyddiau a gollwn o'i ysgol.

Fe gymerwn ein hymweliad fel gwyliau cyffredin - amser i ddod i nabod ein gilyd yn well.

Ond prin bod Meic yn nabod y cwm.

Ddeudist ti dy fod ti'n ei nabod hi, fod Mrs bach a chditha fel gwac a mew, yn dallt eich gilydd i'r dim, yn benna ffrindiau.

O'u nabod, rhoddodd ochenaid o foddhad.

'Ydach chi'n 'nabod rhywun yma?' 'Nac ydw, wir.'

a fedra' fo ddim 'nabod cynghanedd i achub 'i fywyd .

'Rwyn nabod llawer o'u chwaraewyr nhw,' meddai 'Ron i'n arfer chwarae i Wrecsam pan oeddwn i tua 12 oed.

Mi glywais y lleisiau a glywais yng Ngherrig Duon sawl tro wedyn mewn drama neu stori ar y radio a'r teledu, a theimlo mod i'n 'nabod cymeriadau Carreg Boeth (Hufen a Moch Bach) cystal â'r Parch.

'Bron colli nabod arnoch chi.

"Pwy sydd isio rhyw sloban o hen fuwch fel Emli Preis?" "Ydw i'n ych nabod chi?" gofynnodd Emli Preis wedi cyrraedd ataf.

Mae o'n ein 'nabod mor dda.

'Mae'r Beibl yn deud, 'Trwy eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt', ond trwy eu motos yr ydw i wedi 'nabod rhan fwya', meddai.

''Dach chi'n meddwl ei fod o wedi'ch nabod chi?' holodd Geraint 'Wn i ddim.

Fydd pawb yn nabod rhywun mewn swydd bwysig, fe fydd llawer yn perthyn iddyn nhw -- fe fydd yn rhaid bod yn barod i wynebu, nid y di-wyneb, ond y wynebau cyfarwydd sy'n anodd eu pechu.

'O, mae'n wir ddrwg gen i, Mr Gorbachev,' atebodd hwnnw, 'ond, ŷch chi'n gweld, doedd neb fan'ma wedi'ch nabod chi.

Mae Ben yn ffan mawr o'r straeon a chyda phob stori newydd mae na gymeriad newydd i ddod i'w nabod a'r hen ffefrynnau fel y Dewin Dwl, Rwdlan a'r Llipryn Llwyd i'w cyfarfod unwaith eto.

Yn ystod y blynyddoedd dwaetha, fe fu pwysa' allanol i ehangu'r Brifysgol a'r canlyniad ydi nad ydw i ddim yn 'nabod fy myfyrwyr hanner cystal ag y byddwn i.

Roedd o'n nabod y siâp - Craig y Lleuadau.

Bechod na faswn i'n eu nabod i gyd.

Does neb erioed wedi gallu gwneud." Ond doedd hi ddim yn nabod Douglas Bader.

Wnaeth Jeroboam ddim nabod y proffwyd ar unwaith, oherwydd roedd yn gwisgo mantell newydd.

Roedd hi tua hanner canllath oddi wrth yr hogia ac yn rhy bell iddynt fedru nabod yr enw arni na chymryd ei rhif.

Ydach chi'n nabod Matthew Owen?" Amneidiodd Snowt, yn gwta.

O nabod Graham fel ydyn ni - mae fen gweithion galed nawr - tymor nesaf rwyn siwr bydd en gweithion fwy caled fyth.

'dydi o'n dda o beth ein bod ni'n 'i nabod o a'i siort?'

'Mi lwyddodd Iwan, a doedd hwnnw'n nabod neb'.

roedd debra wedi bod yn y clwb sawl gwaith gyda ffrindiau o sbaen, felly roedd hi'n nabod y gweinyddion oedd yn gweithio y tu ôl i'r bar ac yn yr ystafell fwyta.

'Tasa hi'n ola' dydd a finna' ar 'y nhraed, mi faswn i'n 'nabod Pen Cilan 'ma fel cefn fy llaw.' 'Wel diawl, gwaeddwch os gwelwch chi o yn rwla.' 'Mi 'na i, Ifan Ifans.' Oherwydd eu difyrrwch wrth weld hwch a'i pherchennog yn eistedd yn y sêt flaen bu'r teithwyr yn hir cyn sylweddoli bod y Paraffîn wedi cymryd tac gwahanol a'u bod bellach yn pellhau oddi wrth y pictiwrs yn hytrach na dynesu ato.

A tasat ti'n mudo i le fel Bangor, dywad, dwyt ti'n nabod neb bron yn fan'no.

'A dim eiliad yn rhy fuan,' meddai Meic, neu yn hytrach rhyw lais y tu mewn iddio nad oedd yn ei nabod fel ei lais o'i hun.

Roedd rhywbeth yn pigo meddwl Gethin: roedd yn sicr y dylai nabod y lle.

'Dydi'n dda o beth 'n bod ni'n 'i 'nabod o a'i siort .

Yn fuan daeth i nabod y pedwar arall a oedd yn gwmni iddi.

Ddaru Anti Nel nabod cwch Uncle Danial ar unwaith - "Pluan Wen" ydi 'i enw o - a dyna lle roedd o wrthi'n dadlwytho pysgod, a'r cap doniol 'na sgynno fo yn gam ar ei ben.

'Ia ia, a finna'n nabod neb'.

Mae'n debyg ei fod yn ddieithr i'r ardal ac heb nabod y planhigion.

Maen nhw'n hogia iawn at 'i gilydd wedi ti 'u nabod nhw." Ac felly y bu.

Meddai Mam "Nabod dy Dad, mae wedi rhoi siwt eto i ryw gymeriad anffortunus fu'n disgwyl amdano wrth gatiau'r Doc yn un o borthladdoedd De Cymru." (Hynny ar ôl i hwnnw ddarllen colofn Movements of Local Vessels yn y Western Mail.) Byddai wrth ei fodd yn teithio gyda ni yn y Mini bach, y wlad, fel y môr, yn ysbrydiaeth iddo.

Ar y Post Cyntaf dwedodd golwr Abertawe, Jason Jones, 'Da ni wedi bod yn gweithio'n galed yn ystod yr wythnos, a da ni wedi dod i nabod ein gilydd yn well, ac yn gwybod pa fath chwaraewyr yda ni.

Dyma'r nod, dyna'r ddelfryd - dod i 'nabod yr Iesu, agosa/ u ato a thryw hynny ddod yn un ynddo Ef.

Wrth fynd i VIC I bob diwrnod daeth y plant i'n nabod.

Roedd yr ardalwyr yn ei nabod yn dda.

"Wyt ti'n nabod Mr Francis, Aled?" gofynnodd Rees.

Nid bod hynny'n syndod chwaith canys pobol yn 'nabod ein gilydd ydym ni a chanmol a datgan gwerthfawrogiad yn beth mor anodd, ac olrhain acha' ac edliw teulu yn beth mor hawdd.

Roedd o'n 'nabod 'stumia buchod cyflo i'r dim.

"'Wyt ti'n ei 'nabod hi% gofynnodd yn ffyrnig.