Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

naddo

naddo

'Naddo, wyddoch chi,' meddai'r siopwr Gemp oedd yn digwydd gwthio'i feic ar draws y stryd tuag atyn nhw ar y pryd.

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

'Naddo, ond mi driodd ei orau.'

"Naddo," atebodd y ffarmwr yn araf, "ond pan fyddwch chi'n dwad y ffordd yma eto caewch y blwmin giat 'na ar ych ôl.

'Heb frifo, 'naddo?' gofynnodd y perchennog yn dawel.

'Henaint ni ddaw ei hunan', w'sti." "Rwyt ti'n ffodus." "Ydw wir; mae Megan gen i o hyd a'r plant i gyd o fewn cyrradd." "Ac yn Gymry i'r carn." "O, rydw i'n cyfri 'mendithion, raid i ti ddim gofalu ond chefais i ddim bywyd mor foethus â chdi cofia." "Ddim yn faterol, naddo.

'Laddodd o mo hwnnw, yn naddo?'

"Chymrodd o fawr o sylw ohonoch chi'ch dau.' 'Naddo, 'ddaru o ddim.' 'Oes 'na reswm?' 'Mae'n siwr bod.' Cododd Rhodri.

Naddo, wrth gwrs.

"Ddaru 'Nhad ddim sôn wrthat ti am y cynlluniau ar gyfer y blanhigfa?' Naddo.

'Wnes i mo'r niwed lleia' iddo fo, naddo wir.

'Welsoch chi hi eich hun...ydy hi'n marw?' 'Wel, naddo...ond...' 'Yna, mi fetia i nad ydy hi'n marw.

"Dwn i ddim lle ar y ddaear yr aeth hi." "Welsoch chi ddim golwg ohoni, naddo?" gofynnodd eu mam.

Wrth gwrs dydan ni ddim wedi rhoi'r gorau ar lafar i'r enw Sir Fon, yn naddo?

'Rşan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Do neu naddo?' 'Y .

Mi fuo yno am flynyddoedd, y pwll tar, a phan oedd hi'n boeth, roedd yna gannoedd o swigod ar ei wynab o, ac mi fyddan ni'n eu clecian nhw hefo piga drain." "Ffendiodd rhywun pwy wnaeth?" "Naddo.

Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.

'Welaist ti'r Gwyliwr heddiw?' 'Naddo, wir.' 'Yr ydw i wedi gwneud i hyd yn oed bobol Caerfenai 'ma chwerthin,' meddai'r Golygydd, gan agor y papur a'i blygu a'i gyflwyno i Dan.

'Naddo?' Ffugiodd PC Llong syndod mawr.

Hyd yn oed os mai naddo oedd yr ateb i'r ddau gwestiwn, y mae'n debyg eich bod yn gwybod bod y ffordd y mae pobl yn byw yn amrywio yn fawr o un rhan i Brydain i'r llall.

'Naddo.' cytunodd Ifor.

Naddo meddai ei gofiannydd, William Pierce.

'Naddo, byddai hynny wedi ei wneud yn wahanol i'r gweddill,' meddai'r dyn dieithr.

'Naddo', ebe yntau, 'roeddynt yn mynd yn uchel', gan dywallt cynnwys y sach ar yr aelwyd - hen lyfrau Groeg, Lladin, Hebraeg, etc.

'Dydan ni'm 'di gweld y Ddynas Seffti 'na ers tro byd rwan, naddo...'

naddo.' 'Dan ba arwydd y cest ti dy eni - Virgo?' Chwarddodd y lleill a cheisiodd Dei chwerthin hefyd er nad oedd o'n deall y jôc.

Fedri di ddim câl dy gacan a'i byta hi ş ond fedraist ti rioed wynebu'r gwirionadd hwnnw naddo?" A chyn i mi gael cyfle i gydnabod fy ngwendid byrlymodd ymlaen.

'Naddo wir, bobol annwyl, naddo erioed.

'Naddo,' atebodd Dilys heb geisio ymhelaethu.