Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nadu

nadu

Cwn yn cyfarth, asynnod yn nadu a phobol yn rhedeg o dŷ i dŷ â'u hwynebau cyn wynned ^'r gwyngalch ar y waliau oedd yn disgleirio yn llygad yr haul.

Ond trwy gydol ambell noson clywai Wil nadu'r ci o wahanol gaeau, rhyw udo ymarhous a dolefus, ac yna cyfarthiadau caled ac afiach.

Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.

Gwasgai Carwyn, Morlais a Henedd eu hunain yn erbyn y graig wrth i'r gwynt nadu o'u cwmpas fel blaidd mewn cynddaredd.