Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nain

nain

'Ydi hi'n bell i dŷ Nain?' gofynnodd Owain wrth iddi blygu drosto i'w gau'n ddiogel yn ei sedd, a pharodd hynny i'w fam wneud un arall o'i phenderfyniadau sydyn.

Fydda Nain yn gallu rhoi rhywbeth mor syml â brechdan neu ŵy i ni efo mwy o haelioni, a byddem yn teimlo ein bod yn cael rhywbeth arbennig.

Yn sicr, ni fwriadai hi dreulio ei hoes mewn cragen o dŷ fel hwn yn syllu drwy'r ffenestr a magu ieir ur un fath â'i nain.

Wedyn 'roedd Ellis brawd fy Nain Crowrach, wedi priodi Catherine Brynawel ac 'roedd brawd Catherine, sef Thomas John Williams, yn ail fet ar long berthynol i Thomas Morel,Caerdydd, yr SS Llansannor.

Pan landiodd Begw ym Mhendre, doedd neb adra ond fy nain, a phan ddywedodd Begw fod Rondol wedi marw ac nad oedd ganddi'r un ddima i'w gladdu, ar ol paned o de, fe gafodd chweugain.

Yn y sefyllfa honno yr oedd Rondol yn yr hanes gan Pitar Wilias, ar wahan mai enwau dychmygol a ddefnyddiodd o yn ei ddarlith oherwydd i 'nhaid wrthod rhoi caniatad iddo ddefnyddio ei enw fo a Nain, ac am y tro cynta dyma gyfle i chi gael y stori fel yr oedd.

A thu ol iddi hithau y mae dwy genhedlaeth arall, mam a nain ei gwr.

Mewn dim amser mae Cassie wedi cael rhan helaeth o fusnesi'r Cwm i noddi tudalen yn y calendr er bod amheuon mawr gan Hywel a Steffan yn enwedig o glywed bod ei fam a'i nain yn bwriadu ymddangos yn y calendr.

"Meddwl mae o y bydd dy nain yn ei weld o," meddai ei fam wrth Joni.

Yr un fath â'i nain.

Nodiodd Nain gan sychu'i thrwyn drachefn a'r dagrau'n cronni yn ei llygaid hi ac yn cychwyn rowlio i lawr ei bochau hi wedyn.

Naill ai ni chlywodd Nain neu fe benderfynodd nad oedd hi eisiau clywed.

'Nain!

Rhyw ochri efo Byron Hayward ydw i yn hyn i gyd a dweud y dylid gadael i'r bobl yma chwarae i'r gwledydd lle cawson nhw eu geni ac nid lle gwelodd eu taid neu eu nain olau dydd.

Llongyfarchion a dymuniadau da i'r teulu bach ac i taid a nain.

Wrth syllu draw dros yr harbwr tua'r môr, teimlai yn ei gwaed mai yn y pellter glas yr oedd ei rhieni'n ei haros a hithau'n methu â mynd atynt, yn cael ei chadw fel gwylan gloff mewn honglad o hen dŷ ar astell y graig a hithau yn ysu am fynd ond yn methu â chodi ar ei haden, yn cael ei chlymu wrth ei thaid a'i nain am iddynt ei magu.

Yr oedd taid a nain arfben eu digon yn cael cwmni'r ddwy, ac mae hiraeth ar eu hol nawr y maent wedi dychwelyd adref.

"Mi wyddost am dy nain.

Nid gwaed ei nain a ffrydiau yn ei gwythiennau hi, ond gwaed ei mam, y fam honno na fynnai ei nain sôn amdani wrthi am mai un wyllt oedd hi.

"Dy nain," meddai ei thad, gan ddal i chwifio'i hosan fel coblyn.

Mae Martin yn frawd bach i Stephanie, sy'n gwneud Mr a Mrs Edwards yn daid a nain am yr eildro.

SIOE I NAIN A'I HWYRES - Gillian Medi

Tros yr iaith ac addysg, er enghraifft, mi ddangosodd Wyn Roberts yn glir sut y mae hynny'n gweithio - cân di bennill fwyn i'th nain ac, os enw'r nain honno yw Dafydd Elis Thomas, mi ganith hithau'n berlesmeiriol i tithau.

'Roedd yr aflonyddwch di-daw yn ei chorddi hithau, yn ei gwahodd ac nid yn ei phoeni, fel y poenai ei nain.

Doeddwn i erioed wedi cyfarfod fy nain, a doeddwn i ddim eisiau hynny, boed hi'n fyw neu'n farw.

Meddyliodd Heledd ar unwaith am Nain.

Cynghorion hefyd wrth gwrs gan Taid a Nain.

A'i nain wedyn, yr oedd honno yr un mor gyndyn i ollwng ei gafael, ac yn ôl pob golwg, hyd yn oed yn gwrthryfela yn ei henaint, yn codi ei llais gynnau, yn erbyn pwy tybed?

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Ond beth am y ffaith fod y fam ei hunan wedi dod o Lyn yn y nofel, yn ogystal a'r hen nain?

A gorfod i mi dalu i'r cythral am y dwr yn y diwadd.' 'Trochodd Nain Nyrs flaen ei bys yn un o'r pwcedi a dweud yn sarrug,' 'Tydi hwn yn oer fel rhew gynnoch chi.'

Cysgai hwnnw yr un mor dawel â'i nain ond ni chynigiai llonyddwch trwm y naill na'r llall rithyn o gysur iddi.

Y cof nesaf yw fy mod wedi aros gartref yn y Gaiman ddydd Nadolig, efo Anti, tra'r oedd Mama wedi mynd i Drelew gyda'r plant lleiaf i basio'r W^yl efo Nain.

'I ddod i weld eich nain.' Llifodd y geiriau allan yn un bwrlwm nerfus, ac roedd o fel pe bai'n falch o gael gwared ohonyn nhw.

Er bod ei nain ar goll, doedd o ddim yn poeni gormod amdani.

Mewn ymateb i'w ymdrech i'w fynegi ei hun, bydd y siaradwr aeddfetach yn cynnig adborth iddo, adborth o fath unigryw sy'n ystyr ganolog ac sydd hefyd yn amddifad o unrhyw elfen fygythiol ee Plentyn Ifanc: "pan" ethin Plentyn Hŷn: Ia, cwpan Gethin ydi honna ynte neu Plentyn: "nath fi myn i Wrecsam efo nain fi Dydd Sadwrn" Athro: "Mi es ti i Wrecsam hefo dy nain Dydd Sadwrn.

Cais llawn - addasu ac ymestyn modurdy preifat yn sylweddol i greu fflat nain Rheswm: Gohiriwyd ar gais asiant yr ymgeisydd.

Byddai fy mam yn dweud wrthyf fel y pwyswyd ar fy nain i fynd i'r Eidal i gael ei hyfforddi yno, ond nid oedd ei rhieni'n fodlon.

Newydd roi'r llefrith ar y Coco Pops ac ar fin codi'r llwy i ddechrau bwyta fy mrecwast roeddwn i pan sgubodd Nain Ffred i mewn i'r gegin a golwg wyllt arni.

Ond yr un oedd cadw dyn â chadw ieir i'w nain, gofalu am ei fwyd a'i gysur a hynny'n ei iawn bryd.

Yn y nofel, nain Ifan Gruffydd o du ei dad a ddaeth o Lyn yn bedair oed.

Yn wir, pan fyddai morladron yn goresgyn llongau Sbaen un o'r pethau cynta fydda nhw'n i wneud, ar ôl lladd a mwrdro'r dynion a gwenu'n hyll ar dywysoges efo'u cyllyll yn eu cegau a hen hedsgraff eu nain am eu pennau, fyddai taflu'r sacheidia Cacao dros y bwrdd i'r eigion.

Eisteddodd Nain i lawr gan ochneidio'n drwm a dechrau beichio crio.

Yna, mewn eiliadau, fe fydden ni'n gallu gweld golau egwan ei lantern a chlywed sŵn siffrwd ei gwisg laes ar y palmant ac oglau fel arogldarth Capel Pab yn gymysg â pheli gwyfyn fy nain.

Y mae rhywun yn cydymdeimlo â'r Tywysog William pan yw ef a'i dad a'i daid a'i nain yn erfyn am lonydd iddo fyw ei fywyd heb ymyrraeth newyddiadurwyr a thynwyr lluniau.

'Mi gawsom ni ddwy gwpan bach a oedd yn perthyn i'w thaid a'i nain, a oedd hefyd yn byw yma, yn rhodd ganddi pan symudom ni i mewn,' meddai Judith.

Yr oedd Nain Fawr yn eistedd mewn cadair freichiau ddofn, ac yr oedd Anti yn ei holi am yr amser gynt.

Fel Nain Rhoscefnhir ers talwm, rhen dlawd, mae gen innau ffydd mawr mewn siocled.

Chwaer i fy nain i oedd yn briod i Twm Evans, prifathro Ysgol Uwchradd Llanelwy, Pennaeth Coleg y Bala, ac gennyn nhw y clywais i fod yna Gymraeg adeg hynny.

Neu 'ieu+cs' yng ngeiria Nain Rhoscefnhir pan oedd hi'n hogan fach.

Fe roddai hi'r byd i gyd yn grwn am gael neidio i un ohonynt a mynd ar wib am y gorwel yn lle cael ei hangori fel hyn ddydd ar ôl dydd wrth wely ei nain.

Unwaith y mae Dad wedi penderfynu ar rywbeth, does dim troi arno, Un felly ydi o erioed, meddai Nain Ffred; yn benderfynol fel mul, rêl penci.

Tacsi o dy Nain a Taid yn Maes Barcer i Stesion Gaernarfon i ddal y trên i Fangor a newid ym Mangor i fynd i Heathrow i ddal yr awyren i Awstralia.

Daeth cysgod o wên ar wefusau Morwen wrth feddwl am ei nain yn gorfod dechrau dysgu byw gyda dyn ddydd a nos a hithau'n drigain oed.

Mae'n debyg ei bod wedi newid ei thaid yn nain yn y nofel oherwydd bod hen wragedd o'r math yna yn elfen o bwys yn ei chymdeithas (sylwer ar y pwyslais ar ei nain a'i hen fodryb yn Y Lon Wen), ac hefyd fel bod Jane Gruffydd yn gallu ymuniaethu a hi.

'Pryd y daw o'n ei ôl?' gofynnodd Nain yn wyllt pan ddywedais wrthi ble'r oedd Dad.

Wedyn dywedodd wrthyf fod Nain Fawr ddim yn cofio am bethau diweddar, dim ond am yr hyn a ddigwyddodd flynyddoedd yn gynt.

Nain Steffan a Mai.

Na, nid oedd ei nain wedi deffro; mwngial yn ei chwsg yr oedd hi.

Priod y diweddar Arthur Jones, mam annwyl Pat a'r diweddar John, a chwaer hoff Gladys a nain hoffus ei wyrion a'i wyresau.

Lwcus fod gan ei Nain o ddigon o fodd i fancio'i phensiwn bob wsos, neu yn ôl a blaen ar fws y bydda Malcym.

'Ond Nain, beth sy'n bod?' gofynnais wedyn.

Cyd-ddigwyddiad difyr yw fod ei nain wedi byw yn Y Faenol pan oedd hi'n blentyn bychan.

GENEDIGAETH: Llongyfarchiadau i John a Linda Duggan, Tafarn yr Union Garth, ar ddod yn daid a nain unwaith eto.

Roedd Nain a Taid yn byw ym Maes Barcer, Caernarfon, ac yn fodlon imi aros gyda nhw ond yn 12 oed doedd gen i ddim llais yn y peth a mynd efo fy Mam a Nhad i Awstralia fu raid.

Mi fydd disgwyl hefyd i Rod Richards gydweithio efo awdurdodau lleol - Ynys Môn, er enghraifft, sydd, yn ei farn gyhoeddus o, yn llawn llygredd; neu awdurdodau Llafur y De, wedyn, a fyddai, yn ôl ei awgrym o eto, yn fodlon gwerthu'u nain yn hytrach na chanu iddi.

Hyd yn oed cyfarfod fy nain.

Byddwn yn treulio llawer o amser yn nhy fy nain.Dywedodd hi rywbeth syfrdanol wrthyf flynyddoedd ynghynt wrth fy nghymell i fwyta 'Bwyta di ddigon y ngwas i' meddai 'i ti gael cefn cry; fydd dy dad ddim yn fyw yn hir iawn eto, ac mi fydd yn rhaid iti helpu dy fam' Cawsai fy Nhad lwch ar ei frest ac 'roedd yn ddifrifol o fyglyd.

Naint a hen nain garedig.

Yn ôl pob golwg, medd fy nghyfaill, roedd nain y sawl a oedd yn cadw'r llinell wedi ei eni yng Nghymru a bod y Celtiaid wedi twyllo eto.

Euthum gyda hi i Drelew i edrych am Nain (ei chwaer hi) a Nain Fawr, sef ei mam.

Roedd pobol ers meitin - hyd yn oed fwy ers meitin na nain Rhoscefnhir - yn dra chyfarwydd â'i rinwedda fo.

'Nain?' gofynnais wedi dychryn.

Bu Nain Nyrs yn un o sefydliadau plwy Llanengan am hanner canrif a mwy.

Doedd neb o gwmpas Gwalchmai 'radeg honno'n amau'r hanes a ganlyn.Roedd Rondol a Begw, ei wraig, yn byw yng Ngwalchmai'r un adeg ag yr oedd fy nhaid a nain, William a Sydna Roberts, yn byw ym Mhendre yn ur un ardal.