Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nanconwy

nanconwy

Wrth drafod y 'fortune and force of necessitie' yn ei gronicl gwelodd Syr John ei gyfle i ychwanegu rhyw gymaint o fri a gwrthydri at yrfa Maredudd yn y modd y bu iddo gryfhau ei afael ar Nanconwy yn fwy parhaol.

Heb os nac onibai, prif arwr yr History i Syr John, os gellir synied am arwr o gwbl ynddo, oedd ei hen daid Maredudd ab Ifan ap Robert, sylfaenydd y teulu yn Nanconwy yn ail hanner y bymthegfed ganrif.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Rhoddir gwybodaeth am ei hynafiaid anniddig yn Eifionydd, y gymdogaeth y maged ef ynddi, a'i gysylltiad â Chrug yn Isgwyrfai a Dolwyddelan yng nghwmwd Nanconwy.