Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nas

nas

Gohiria Tref hwy'n hyf er mwyn rhoi cyfle i'r gweithlu wagio'r sinema a chludir y madarch nas casglwyd i'w cuddio yn yr hen waith glo.

Teimlaf wefr bob tro y deuaf o hyd i rywogaeth nas gwelais o'r blaen ond rhwng cloriau llyfr.

Dymunai gyfleu agwedd ar realiti nas gwelir ar wyneb pethau - agwedd sydd yn ddigon hawdd i ddyn ei chuddio rhagddo ef ei hun gan ei gwthio ymhell tu hwnt i gyrraedd meddwl.

Wyddech chwi mai ymgais rhywun i gyfieithu trifle yw, er nas gwelais erioed mewn print, treiffl yw ymgais dila y llyfryn Terman Coginio, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, a 'melusfwyd cymysg' yn Y Geiriadur Mawr.

'Roedd yn orfodol gweithredu prosesau gorfodi yn erbyn datblygu nas awdurdodwyd yn effeithiol ac ar fyrder er mwyn i reolaeth cynllunio fod yn effeithiol.

Mae'r darnau hynny o'r Fwlgat a adawyd allan gan Feibl Mathew am nas ceid yn yr Hebraeg a'r Groeg wedi eu hadfer, ond mewn teip mân a'r tu fewn i gromfachau.

Mae hon yn fforwm i'r sector wirfoddol drafod gyda chynllunwyr gwasanaethau.e.e.Mae Fforwm Plant a Theuluoedd Gwynedd yn mynd o nerth i nerth fel grwp lobio, ynghyd a cheisio clustnodi'r angen am wasanaethau a hyfforddiant nas darperir gan y sector statudol.

A dihunai ynddo ef ymateb nas deallai.

Yn ôl cyfraith gwlad yr oedd rhaid ei gladdu wedi machlud haul gan nas bedyddiwyd.

Nid unawd enaid yw emyn, ond rhan o gytgan cor nas gall neb ei rifo na'i weled gyda'i gilydd - ond Duw.

Yr wyf wedi son am ymweliadau Margaret Thatcher â Chymru fel y gwel pobl mai celwydd yw dweud nas gwyr hi ddim am Gymru.

Yn ôl un tyst nas enwir, roedd cysylltiad rhwng Anghydffurfiaeth ac anniweirdeb merched Cymru.

Fel hyn, bydd ysgolion yn cadw at ofynion y gyfraith ond hefyd yn datblygu mewn modd cadarnhaol, gan 'ddod rownd' un gofyniad statudol arall eto nas lluniwyd gydag ardaloedd gwledig mewn golwg.

Y tro hwn yr oedd yr ateb mor fyngus fel nas deallais yn iawn, a thybiais iddi ddweud ei bod yn meddwl am grefydd.

Yr oedd yn wr a'i fryd ar y pethau a gadawodd fwlch ar ei ôl nas llenwir yn rhwydd.

diddymu pob caniatâd Cynllunio sydd dros ddeg oed ac nas gweithredwyd arno.

Mae natur yr hanes yn wahanol, gan fod Duw yn defnyddio'r llygoden i gynorthwyo Cadog, ond fe welir y sant yn dal llygoden yn ei law ac yn ei rhwymo ê llinyn, elfennau nas ceir yn yr hanesion eraill.

Mae hanes y briodas yn digwydd ar lefel myth yn hytrach na nofel, sef fel patrwm o ddigwyddiadau ag iddynt ystyr symbolaidd nas gwireddwyd yn uniongyrchol drwy gysylltiadau ac amgylchiadau cymdeithasol y byd sydd ohoni.

Ymysg rhai o'i ddilynwyr parodd hyn ddifri%o ysgolheictod, a rhoi pris nas haeddai ar gyraeddiadau'r werin; clywir eco o hynny heddiw hyd yn oed.

Fe lyncai fywyd mewn rhyw fath o fodlonrwydd tawedog, a gwario golud ei eiriau ar fan bethau achlysurol nas canfyddir yn gyfferedin.

Gwnaf farn â thi yng ngŵydd y cenhedloedd; oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto.

Mae'r enw Pendaran, Pen Darian efallai, Prif Amddiffynnwr, Dyfed ac iddo atsain awdurdod a hynafiaeth nas ceir yn Pwyll, Pendefig Dyfed, sydd, o'i gymharu ê'r llall, yn enw tawel a modern.

Mae'r Bloc yn cynrychioli cyfran helaeth iawn o'r Que/ be/ cois mewn modd nas cafwyd o'r blaen.

Gŵr â'i olygon ar yr ugeinfed ganrif (er nas gwelodd) oedd y gŵr a ailgyflawnodd ei fawredd inni, sef, wrth gwrs, Thomas Edward Ellis, a ddechreuodd ei olygu union ganrif yn ôl.

Gwr arall y cydnebydd William Morgan ei gymorth ond nas enwir yn aml yw y Dr David Powel.

Felly y mae hyn yn agwedd ar ofal a thynerwch bugeiliol Duw nas ceir yn gyffredinol ymhlith y proffwydi.

Cyhoeddodd y bwrdd reolau er dyrannu'r llety a oedd ar gael ganddo, ond yn ymarferol byddai'n dyrannu tai yn ôl rheolau cwbl wahanol nas hysbysebwyd fel oedd yn ofynnol dan y gyfraith.

Cyhoeddwyd rhai ohonynt--stori'r 'Pysgodyn Mawr' ac eraill yn Canrif y Chwarelwr, ond y mae llawer eraill nas rhoddwyd ar bapur eto.

Heb ddim o'r holl bethau hyn, yr oedd bopeth ac yn afieithus fyw: y math o ddyn sydd yn ein gwthio, muled a fulo, i gredu fod yna rywbeth wedi'r cwbl nas trechir gan angau fyth, a hynny nid am ei fod a wnelo un dim â dogmâu crefyddol, ond am fod dyn yn ei briod berson yn annistrywadwy.

Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.

I'm syndod, fe ddeuthum i deimlo'n dadol iawn, a chymryd diddordeb ym manylion distadlaf helynt gwraig a phlentyn nas gwelswn erioed.

Cyn gadael tir, dichon bod y rhan fwyaf ohonynt wedi clywed am longau tebyg a adawodd Afon Lerpwl ar ben llanw, ac nas gwelwyd byth wedyn.

Wedi rhannu'r da-da a dweud hanes y baban Moses neu Joseph a'r siaced fraith (ac ychwanegu troeon i'r stori nas dychmygwyd erioed gan yr hen Rabbiniaid) codi ei choesau tew ar y fainc o'i blaen a dweud: 'Rŵan 'te, Dime am gosi'r goes chwith.

yr oedd gweld y dyfroedd yn ffromi tros glogwyni a arferai sefyll yn uchel ar ganol yr afon, a syllu ar gerrynt a throbyllau nas gwelsant o 'r blaen, yn ddigon.

Bydd dyn wrth ei fodd wedi cael pris da am fuwch dda nas hoffai.

Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.