Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

naturiolaidd

naturiolaidd

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Ni ddewisodd Kitchener drafod ei ddeunydd yn y dull naturiolaidd oherwydd ewyllysiodd afael yng nghymlethdod llawn y realiti sydd y tu hwnt i'r math o resymegu y mae'r dull naturiolaidd wedi'i seilio arno.

Fe ellid darganfod deunydd sawl drama naturiolaidd ynddi.

Gwêl y corws o wragedd cyffredin a glywir yn y ddrama hon, agweddau ar fywyd na allent fod yn ymwybodol ohonynt mewn drama naturiolaidd.

Yn debyg i'r rhain, aeth awdur Cwm Glo i deimlo fod i'r bywyd dynol ac i gymeriad dyn a dynes elfennau o gymhlethdod sydd y tu hwnt i afael yr awduron naturiolaidd.

Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!

Dywedodd Harol Pinter unwaith nad oedd ei ddramau'n ymddangos yn naturiolaidd er mai naturiolaeth oedd eu pwnc, a chredaf fod yr un peth yn wir am Gwenlyn Parry.

'Roedd hyn yn rhan bwysig o'i ymdrech i danseilio rhesymeg materyddol naturiolaidd a dangos y berthynas sydd rhwng dyn a'i amgylchfyd.

Dyma a ddigwyddodd i awduron mwyaf blaengar y mudiad naturiolaidd, sef Ibsen, Strindberg a Huysmans.