Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nawdegau

nawdegau

Ni all y Blaid ddibynnu ar frwdfrydedd torfeydd canfaswyr if anc fel yn y chwedegau i ennill etholiadau'r nawdegau.

Er mai prif lyfr John Addington Symonds ydoedd The History of the Italian Renaissance, ac er bod y llyfr hwnnw ar ryw ystyr yn hollol nodweddiadol o nawdegau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o ddechrau'r ugeinfed, ei lyfr mwyaf poblogaidd ydoedd Wine, Women and Song: Mediaeval Latin Students', llyfr a dynnodd y llen oddi ar gerddi'r Ysgolheigion Crwydrad, ac, fel y cawn weld, yr oedd eraill wrthi'n dadlennu byd cerddi'r Trwbadwriaid.

Diffygiodd ei gorff yn araf yn y nawdegau, ond ni wanychwyd ei bersonoliaeth serchog.

Yn dilyn blynyddoedd o sylwadau chwerthinllyd a sbeit diddiwedd, fe brofodd diwedd y nawdegau fod cerddoriaeth y Cymry o'r safon uchaf.

Bellach yn tynnu am ei nawdegau, roedd hi'n rhan o symudiad penodol mewn celfyddyd theatr, yr English Stage Company, a ffurfiwyd yn Sadlers Wells ar ôl y rhyfel; yna, ymlaen drwy'r Birmingham Rep.

Felly ar ddechrau'r nawdegau, bydd rhaid ailysgrifennu'r llyfrau gwyddonol a'r gwyddoniaduron i gywiro'r hen wybodaeth mai dim ond dwy ffurf grisialog sydd i garbon - y ffurf galed lachar, a llawn rhamant sef diemwnt, a ffurf lai rhamantus y powdwr du - graffit sydd hefyd yn fasnachol ddefnyddiol fel dargludydd trydan a gwres.

Gwynfryn: Sefydlwyd label Gwynfryn ganol y nawdegau - ond tua diwedd y degawd ehangodd y cwmni gan ddechrau denu nifer o grwpiau ifanc fel Maharishi, Epitaff a Caban.

Gyda'r newidiadau yn nhrefniadaeth, strwythur a phwrpas HMS ar ddechrau'r nawdegau, perthnasol yw gofyn a fydd athrawon yn cael y cyfle i ystyried ymchwil sy'n berthnasol i'w dysgu?

Byd fin de siecle ydyw, er fod rhai o'r straeon wedi eu sgrifennu ymhell cyn y nawdegau; byd blinedig, byd lle mae'r unigolyn yn ei chael yn anodd i ddirnad ei le a'i bwrpas.

Dyna'r syniad oedd hefyd y tu ôl i un o ddarganfyddiadau mwyaf cyffrous byd cemeg yr wythdegau, ac sy'n parhau yn achos cyffro mawr yn y nawdegau yn ogystal.

Abraham yn ei hen ddyddiau, yn planu coed, nid blodau....., Abraham yn planu coed, ac yn eu gadael i ofal Duw.' Dyna bennau'r pregeth: pregeth haws ei llunio yn awyrgylch nawdegau'r ganrif ddiwethaf nag yn nawdegau'r ganrif hon.