Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nef

nef

Gruffydd Parry yn codi tua'r nef fel trwyn baedd yn ei rywiolaf wae.

Mae'r gofod - dyna yw'r 'nef' yn y fan hyn - yn gwbl fud am nad oes awyr yno i gludo tonfeddi sain.

Oddiwrth y meirw cododd ef, Ac esgyn wnaeth i nef y nef, Er achub rhai mor wael â ni, A'n codi i'r uchelder fry.

Fodd bynnag, er y cyfan a allwn ddweud amdano sy'n gadarnhaol, mae'n parhau yn bechadur - pechadur a gyfiawnhawyd gerbron y nef - ond un sy'n llawn amherffeithrwydd.

Yn mhlith holl ryfeddodau'r nef Hwn yw y mwyaf un, I weld anfeidrol, ddwyfol Fod Yn gwisgo natur dyn...

Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.

Roedd y Siampên yn llifo am ddim drwyr nos ac fel arfer buaswn wedi bod yn fy seithfed nef - ond yn ller bybli sudd oren a gefais i gydol y noson.

Ond y nef a helpo'r milwyr a geisiai foddio eu chwant trwy gyfathrach â'r merched brodorol, ac o ganlyniad eu cael eu hunain mewn 'anhawster arbennig' ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Pâr i wirioneddau dy Air sanctaidd oleuo'n deall ac i wyrthiau dy ras ddyfnhau ein hargyhoeddiad nad oes enw arall wedi ei osod tan y nef trwy yr hwn y mae'n rhaid inni fod yn gadwedig ond enw Iesu.

Yn awr mae'n eiriol yn y nef, Erfyniwn am fyn'd ato ef; I'r wlad lle nad oes loes na chlwy', Ac na fydd rhaid ymadael mwy.

Mae'r cyfan yn cyfuno i roi patrwm rhesymol, enfawr, sy'n cwmpasu symudiadau gwrthrychau yn y ddaear a'r nef.

Yr un yw dynion nef a dynion byd wrth geisio ennill serch merch.

Fe'i bwriadwyd ar gyfer barddoniaeth, nid 'masnachaeth'; 'sidanwisg' ydoedd 'a roddwyd/Am feddyliau'r nef i ni'; mamiaith ydoedd a'i gwreiddiau'n ddwfn yn serch cartrefi Cymru:

Gadawsant gapel eu cymdogion am uchel nef yr Eglwys Anglicanaidd.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Efallai taw'r gwirionedd hwn sy'n gorwedd wrth hanfod llwyddiant Eglwys Glenwood i sefydlu pont mor effeithiol rhwng pethau'r nef a phethau Pentwyn.

Cicio wrtyh i chwi ei godro a chornio wrth i chwi ei gollwng - "Wel diolch i'r nef mai dyma'r tro olaf i mi dy ollwng di% meddwn i ryw fore.

ta beth, mae na bobl dda sydd ddim yn grefyddol o gwbl a dwi'n edmygu'r rheina yn fwy achos dydyn nhw ddim yn disgwyl rhyw wobr yn y nef.

Megis y daeth cennad ar ffurf alarch wen o'r nef, yn ehedeg o'r man lle y machludodd yr haul, i ddweud wrth Anatiomaros yng ngherdd T.

Ar yr aelwyd honno fe fydd ei dad yn tragwyddol gadw dyletswydd 'yn ei "un" iaith' ac ni ddaw'r un llanw i ddiffodd 'Tân y Nef' na dryllio'r allor:

Mae deng myrddiwn o rinweddau Dwyfol yn ei enw pur; Yn ei wedd mae rhagor tegwch Nag a welodd môr a thir; Mo'i gyffelyb, Erioed ni welodd nef y nef.

A minnau wedi disgwyl gweled y baedd yma hefyd yn ffornochio ac yn codi ei drwyn tua'r nef mewn ysgrech o fygythiad, a dangos cil- ddannedd fel cilbostiau adwyon wedi eu gwneud gan yr hen bobl.

Rhaid oedd i'r santes (a'r lleian) osgoi uniad rhywiol â phriodfab bydol er mwyn ennill uniad ysbrydol â'i phriodfab tragwyddol yn y nef (h.y.

O blegid ei phechodau hi a gyrhaeddasant hyd y nef, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi.

Dyma'r agoriad: Ni all terfysgoedd daear fyth gyffroi Distawrwydd nef...

Yn ddiau nid â'r gawod ddiwethaf y daeth y Blw-byrd hwn i lawr o'r nef.