Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

neidiodd

neidiodd

Neidiodd o'i groen bron pan ehedodd aderyn yn swnllyd o'r goeden wrth y wal a chwarddodd yn uchel wrth ei weld ei hunan yn gymaint o fabi.

Neidiodd y cerddwyr o'r ffordd i ben y palmant wrth i'r gyrrwr gwelw frwydro i geisio cadw'r lori ar y ffordd.

Neidiodd i'r Daihatsu a gyrru i'r cae lle cafwyd byrst y bora hwnnw.

`Mae yn reit ddrwg gen i drosoch chi, Harri,' ebe Ernest; `brysiwch adre i newid eich dillad,' a neidiodd ef a'i gydymaith i'w cyfrwyau ac ymaith â hwy, gan adael Harri i droi tua'r Wernddu.

Neidiodd un o'i llygaid o'i phen yn wyrthiol pan geisiodd ei thad drefnu priodas iddi.

"Ddaw Emrys allan i chwarae?" oedd y cwestiwn a glywais yn llais Capten, a neidiodd fy nghalon gan lawenydd.

Daeth y ci defaid butra a welodd JR erioed i ben y bwlch - nid ei fod o wedi gweld llawer o gŵn defaid budr - ac i ddangos ei groeso neidiodd ar fonet y car.

'Be ti isio!' neidiodd Ifor gan rythu ar Malcym mewn cymysgadd o ddychryn a blindar.

Cyn i Alun Michael gael cyfle i ateb neidiodd Helen Mary Jones i'r adwy.

Creffais ar y dyn o 'mlaen yn mynd arni hi - safodd yn ei hymyl, herciodd y lifft a neidiodd y dyn ddwy lath i'r awyr - ac i fyny a fo!

Ni allwn weld pwy oedd ynddo, ond wedi iddo aros yn union oddi tanom, neidiodd Lewis Olifer allan yn heini, gan ddal y drws yn agored.

Ond neidiodd i fyny cyn gynted ag yr eisteddodd o.

Toc dyna'r dyn ieuanc yn rhoi gwawch uchel: 'Diolch, etc.' Ac ymhen ychydig neidiodd y ddynes ieuanc i fyny gan weiddi a churo ei dwylo a chicio'r sêt, nes daeth rhywrai i fynd â'r ddau aflonyddwr allan i ddod atynt eu hunain.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Neidiodd o'r gwely.

Neidiodd y llew ar ei draed wrth glywed y floedd, a brasgamodd tuag ato.

Neidiodd allan o'r gwely a rhuthro i mewn i lofft ei merch fach, Leah.

Sathrodd yr hyfforddwr yn sydyn ar yr ymholiad caredig hwn am, fy nghyflwr a throdd ffynhonnell ei arian ymaith oddi wrth y posibilrwydd y gallwn ddweud rhywbeth ynglŷn â pham na neidiodd y ceffyl.

Neidiodd y truan ar ei draed a llefodd.

Neidiodd Ernest, gan ddisgyn yn daclus i'r man lle dylasai, ac yn y funud yr oedd ei gydymaith wedi gwneud yr un peth, a disgynnodd y ddau o'u cyfrwyau i helpu Harri, druan, a oedd wedi ei syfrdanu, ac yn gweld pob man yn troi o'i gwmpas.

A phan gyhoeddwyd hynny, ac yntau'n eistedd rhwng dau swyddog carchar, neidiodd Silyn ar ei draed mewn gorfoledd a brysio ar draws at Rhian i'w chofleidio'n dynn.

Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.

Yn teimlo mymryn yn flin wrthi, neidiodd Rhys i lawr o'r siglen a mynd i weld beth oedd yn ei phoeni.

Neidiodd y rhyfelwyr ar ei chefn gan dorri ei chnawd â chledd a chyllell, gyrru eu gwaywffyn yn ddwfn iddi a hyrddio cerrig at ei phen.

Clymwyd y bocs wrth sedd yr injan a neidiodd Wil i mewn wedi ei sicrhau gan ei feistr y byddai'n cael ei gludo'n ddiogel y tu ol i'r injan.

A'r cyfarfod yn anterth ei wres, daeth cerbyd i'r fan, a neidiodd gŵr ohono a adwaenai pawb, a phed enwem ef, enwem ŵr y gŵyr Cymru gyfan amdano fel un o golofnau cadarnaf y mudiad hwn.

Neidiodd yn chwim allan o'r gwely a brysio o'i llofft at ffenest y gegin.

Neidiodd ar ei draed a dechrau cyfarth mor uchel ag y medrai.

'Llusgodd y tri fi i'r llofft." meddai, a neidiodd Rex ar y gwely a'm tynnu arno." Yr oedd Rageur a Royal eisiau aros hefo'r dyn ar y dillad hefyd.

Ond trwy ryw lwc, neidiodd y bêl i'w law yn sydyn, ac yn rhyfedd iawn teimlai cyn drymed â phlwm.

Mae hi fel trampolîn.' `Wyt ti'n meddwl y cawn ni afael ar drysor yma?' `Cellwair yr wyt ti wrth gwrs.' `Wel - dwyt ti byth yn gwybod - edrych ar y wardrob draw fan na - pwy a yr beth sydd ynddo.' `Yr unig ffordd i ddarganfod hynny yw mynd i edrych!' Gan waeddu a bloeddio neidiodd y giang dros y gwahanol rwystrau i'r fan lle safai hen wardrob yng nghanol pentwr o ddodrefn diraen fel llong ofod a adawyd ar ôl.

Pan neidiodd e roedd Archie MacFarlane yn wyth deg naw mlwydd oed, un deg pedair mlynedd yn hŷn na'r person hynaf i neidiodd mewn parasiwt o'i flaen.

Neidiodd Malcym fel mwnci o flaen y tractor.

Dringodd i deuddeng mil o droedfeddi ac unwaith eto neidiodd y ddau allan a syrthio saith mil o droedfeddi cyn agor eu parasiwtiau.

Neidiodd yr hyfforddwr gydag ef.

Yna, neidiodd i fyny a mynd trwy ddrws i stafell 'molchi fach gyda'r ddelaf a welodd dyn erioed a honno i neb ond y fo.

Yr oedd hynny'n ddigon, ond pan edliwiodd hwnnw iddo ei gysylltiad â'r Blaid Lafur a'i waith ynglŷn â'r Undeb methodd gan Wiliam ddal, a neidiodd i'w wddf.

Ar yr un pryd neidiodd i ben pentwr o gerrig a oedd gerllaw iddo.