Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

neilltu

neilltu

Sylwais ar Breiddyn a Lewis Olifer yn sefyll fymryn o'r neilltu i bawb arall; yr oedd Menna wedi cymryd gofal o Deilwen Puw.

A ddylen nhw fod yn barod i roi'r iaith o'r neilltu dros eu cred ynte a ddylen nhw fod yn mynnu cael addoli yn eu hiaith eu hunain?

Tyd imi gael cip.' Gwthiodd Elen ei brawd o'r neilltu ac ysgwydodd y llwyn yn synllyd.

Arweiniodd y llwybr ni ymlaen at ochr y tŷ gwydr ac agorodd y bwtler ddrws i mi a safodd o'r neilltu.

Cafodd yr unig bwll nofio yng Nghymru, o safon Olympaidd, ei chwalu o'r neilltu er mwyn gwneud lle i'r deml rygbi newydd y byddai Graham Henry yn Archoffeiriad ynddi.

Pan aeth y Cymry ati i ailddarganfod y Groegiaid, ymddengys iddynt adael hyn oll o'r neilltu gan amlaf, a cheisio gweld gwrthrychau eu hastudiaeth fel dynion meidrol, ac yn wir fel dynion tebyg i'r Cymry eu hunain ar lawer agwedd.

Chân nhw ddim ein sgubo ni o'r neilltu a dwyn ein holl eiddo ni.

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

Daethant yn foddion i boblogeiddio mater a fuasai cyn hynny'n beth digon esoterig, a defniddiodd Gruffydd hwy fel bocs sebon, gan fynnu hawl draddodiadol yr areithiwr bocs sebon i osod gwrthrychedd o'r neilltu.

A'r diwrnod gwaith ar ben, a'r gof, yn ŵr lluddedig, wedi rhoi o'r neilltu ei ffedog ledr, eto, 'roedd un gorchwyl yn ei aros, sef rhoi i lawr yn ei lyfr cownt fanylion am bopeth a wnaeth i'w gwsmeriaid yn ystod y dydd.

Caiff ddanfon tri dwsin o ASau i Westminster at y chwe chant namyn un a ddaw o weddill Prydain Fawr; ond hyd yn oed pan ymuna'r rhain â'i gilydd dros achos o bwys mawr i Gymru, gyda chenedl unol wrth eu cefn, cant eu gwthio o'r neilltu yn ddirmygus gan y mwyafrif Seisnig llethol os oes buddiannau Seisnig yn y fantol.

Felly, rhaid gosod y syniad diwinyddol am bobl Dduw o'r neilltu fel rhywbeth cwbl arbennig.

Mae'r hen syniad nad oes rhagdybiau gan y gwyddonydd pur bellach wedi ei fwrw o'r neilltu.

Gwrthdaro rhwng Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi wrth roi'r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru a'r Alban o'r neilltu.

Mae Lyn Jones hefyd yn ymwybodol o'r gystadleuaeth rhyngddo fe ac Allan Lewis - ond bydd e'n ceisio rhoi hynny i'r neilltu ddydd Sul.

Daeth Menna ymlaen atom a'n tywys at fwrdd crwn, dipyn o'r neilltu.

Ar ôl yr oedfa galwodd un o'r blaenoriaid fi o'r neilltu.

Byddai'r estyniad yn un llai na'r adeilad newydd ac fe fyddai cynllun Richard Rogers yn cael ei roi o'r neilltu.

Ar ôl dechrau'n addawol, fe'u sgubwyd o'r neilltu gan ddawn ac athrylith y gwyr o Fiji.

Wedyn, pan ddeuai pregethwr i'r eglwys honno, a phlesio'r dyn llyfr bach, byddai hwnnw'n galw arno o'r neilltu ar ddiwedd yr oedfa ac yn gofyn iddo ddod yno i bregethu'r flwyddyn ddilynol.

Symudodd un o'r llenni trymion rhyw fodfedd o'r neilltu er mwyn cael gweld yr ymwelydd yn cerdded oddi yno a'i gynffon rhwng ei goesau.

'A glychu dy big dy hun yr un pryd?' 'Twt, 'neith cropar o rwbath cynnas ddrwg yn y byd i ddyn nac anifal, yn enwedig pan fydd y gwynt yn union o Borth Neigwl, fel y mae o heddiw 'ma.' Wedi sgubo sylw yr hwsmon o'r neilltu fel hyn aeth Pyrs ymlaen â'r stori.

Roedd hi'n ddau o'r gloch y bore ar y ddau yn mynd i'w caban a chan nad oedd y gwelyau cyfyng yn addas iawn ar gyfer gweithgareddau carwriaethol, rhoes Merêd y syniad o geisio ailgynnau nwydau Dilys o'r neilltu am y tro.

Wrth ystyried y pethau hyn, cododd baich mawr ar fy nghalon dros y bobl hyn - baich a wthiodd y chwilfrydedd arwynebol, a'm hofnau naturiol o'r neilltu.

Ond os oedd Ibn i weld tyrrau eglwysi Paris bell doedd dim dewis ganddo o gwbwl ond gwrthod y plentyn a'i wthio o'r neilltu.

Gwthiodd Elen ei brawd o'r neilltu ac ysgwydodd y llwyn yn synllyd.

Cysylltwyd â'r Prif Swyddog Technegol ac 'roedd o'r farn bod cais o'r fath am gymorth grant yn disgyn mewn categori arbennig "Top Slice% lle rhoddid arian grant o'r neilltu a gwahodd ceisiadau gan ddatblygwyr.

JFelly o ganol Hydref ymlaen byddaf yn rhoi'r gêr plu o'r neilltu ac yn gafael yn y wialen "drotio%, y rîl rydd (centre pin) bocs o fflôts pwrpasol, bocs o bwysau (heb blwm ynddynt cofiwch)...

Arhosodd y trên o'r neilltu am beth amser a dyma anferth o drên y Groes Goch yn mynd heibio'n araf.

Mae anghenion ein pobl ifanc mwyaf bregus yn barhaol yn cael eu gwthio o'r neilltu, ar bob lefel, oherwydd nad ydym eisiau wynebu canlyniadau'r ffaith ein bod yn ddiamynedd.