Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

neis

neis

'Mae bob amser yn neis sgorio cais, ond 'sdim ots da fi pwy sy'n sgori'r ceisiau.

Darnau o orffennol, neis iawn ond cwbl anadferadwy, ydyw pethau felly erbyn hyn.

Beth bynnag, mae Blair yn gwybod y gall ef adfer ei boblogrwydd trwy foddir tabloids yn fuan iawn â lluniau neis, cwtsi-cwtsi-cw, ohono fo a Cherie ar Babi Blair newydd.

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Eto i gyd, doedd cael ei wrthod ddim yn beth neis, yn enwedig heb wybod pam.

"Daeth fy mhrofiad o wneud colur yn handi, achos oedd angen gwneud y llygaid yn drawiadol, felly oedd e'n neis gallu gwneud hynny." Tra'n gwneud Twm Sion Cati gyda Chwmni Whare Teg, fe ddaeth i gysylltiad â Catrin Fychan - Gina yn Pobol y Cwm.

'Bydd yn neis i'w chwarae nhw a gobeithio y bydd yna groeso iddyn nhw ar y Vetch.

Roedd yn hapus â'r pethau hyn ac fel yr oedd yn cerdded nôl i'w dž, ystyriodd ble y gallai eu dodi nhw a pha mor neis y bydden nhw'n edrych.

Trefnodd yr ystafell yn neis.

Mi fasa hynny'n neis iawn.'

Doedd y ffaith fod pobl yn mynychu capel ac yn gwisgo'n barchus ac yn siarad yn neis ddim yn meddwl nad oedden nhw ddim yn medru ymddwyn yr un mor sglyfaethus â'r pethau meddwon rheiny fyddai'n taflyd if yny hyd bob man ar eu ffordd adref o barti.

Dal yn 'bobol neis' hefyd.

Mae'n neis bod 'nôl ar y lefel ucha.

'Neis iawn,' atebodd yntau'n hurt gan feddwl ei bod yn cyfeirio at y gusan.

Doeddwn i ddim yn meddwl bod lloches yn lle neis iawn, ond roeddwn i'n gwbl anghywir.

'Mae'n neis gweld Cymry mâs yma a maen nhw'n sgrechian drosto i a mae lot wedi dod i ddilyn y tîm.

Er mor neis oedd y sowldiwr bach yna, roedden nhw wrth eu bodd ei bod yn canlyn Cymro.

Duw wyr o ble daw e, ond mae rhywbeth neis ar y ffordd - nid arian o angenrhaid, ond beth bynnag yw e, fe fyddi din falch ohono.

'Bydd yn neis i weld Waqar 'nôl yma eto - mae e'n gricedwr arbennig o dda,' meddai Robert Croft ar y Post Cyntaf y bore yma.

Pobl neis iawn.

'Leicien i weld e'n cael tamed bach mwy o le ond bydde'n neis cael rhywn fel John Leslie yn y canol gyda ni.

"Na neis dy fod wedi dod,' meddai.

'Roedd ochor mor neis iddo fe a fe gredodd sawl un y gallen nhw achub mantes arno fe oherwydd hynny.

'Gwneud cawl bach neis o bethau, 'ndo?' meddai'r hyfforddwr yn ymosodol.

Mae ei chyfansoddi yn wreiddiol ac yn bwerus: cyfoes, ie, ond eto'n hen-ffasiwn; neis.

Diffyg arbennig y mae'n gofidio amdano yn y cyswllt hwn yw fod yr ychydig sylw a roddwyd i lowyr yn unochrog ac yn anghyflawn ac yn neis-neis at ei gilydd.

'Roedd hynny'n neis iawn, yn rhyw fodd o gadw cysylltiadau efo gorffennol y lle.'