Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nemor

nemor

Ond ychydig olion arwynebol sydd ar ôl o bobl Oes yr Haearn, a nemor un traddodiad o'u gweithgareddau heblaw eu bod hwythau fel eu disgynyddion yn gorfod byw ar gynnyrch gwlad.

Sylfeini, meddai, na welwyd nemor ehangu... nac adeiladu gwirioneddol arnynt hyd yr ugeinfed ganrif.

Er ei fod yn Fedyddiwr ac er bod achos gan y Bedyddwyr bron am y ffordd a'i dy, nid oedd yn cymryd nemor ran ynddo.

Ergyd y ddramodig, yng nghyd-destun Cwpanaid o De gyda Mr Bebb, yw nad oedd gan arweinwyr y Blaid Genedlaethol Gymreig, y pryd hwnnw, nemor ddim diddordeb yn y gwledydd Ewropeaidd lle na siaredid iaith ladinaidd, lle nad oedd yr Eglwys Gatholig yn unbennes eneidiau a lle nad yfid gwin yn helaeth.

Y drwg oedd nad oedd nemor ddim cyhoeddusrwydd i wir ystyr y datganiad hwnnw, ystyr a oedd yn rhan o weledigaeth lawer ehangach.

O hynny hyd at doriad dydd y bore wedyn, 'roedd trenau'n rhydd i basio trwy Lanelli heb ddioddef nemor mwy na sgrech sarhaus neu garreg trwy'r ffenestr.

Wrth gwrs, ac yn naturiol, yr oedd rhai Cymry a hoffai gredu nad oedd Dafydd nemor yn nyled neb, ac yr oedd eraill yn barotach i gredu ei fod yn ddyfnach ei ddyled i'w ragflaenwyr nag i neb estron.

Mae'n disgrifio'r ymweliadau hyn yn ei atgofion mewn geiriau sy'n ei ddangoS 'ar ei elfedeiddiaf', a defnyddio ymadrodd Tegla: Ym mis Mawrth yr oedd cuwch ar Foel Famau heb nemor wen haul: ond gwen oedd ar y moelydd a dyffryn Alun fis Mai.

A chaniata/ u na wyddom nemor ddim am y cymorth a roes dylem gofio y disgrifir ef fel un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

O'r un ucheldir y deuai Jac Glan y Gors, Taliesin a Llew Hiraethog, Tom Owen Hafod Elwy a llawer un aral y gellid ei enwi heb fynd nemor pellach na deuddeng milltir o gartref William Jones yn Hafod Esgob, Nebo.

Y mae'r cyfieithu yn anwastad iawn, ar dro yn gwneud dim ond atgynhyrchu Beibl Genefa, dro arall yn cadw fersiwn y Beibl Mawr heb ei newid nemor ddim; mewn rhai llyfrau yn aralleirio'n llac, mewn llyfrau eraill yn trosi'n dra llythrennol.

Er hynny, digon o waith fod y Gymdeithas wedi cyflawni'r ail ddiben y sonia OM Edwards amdano, sef 'cyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen, oblegid er bod rhai o'r aelodau, ac OM Edwards yn arbennig yn eu plith, wedi ceisio gwneud hynny, ni wnaeth y Dafydd fel cymdeithas nemor yn y cyfeiriad hwn, a hynny, mae'n debyg, oherwydd mai cymdeithas fechan y bwriadwyd iddi fod, ac mai cymdeithas fechan fu hi ar hyd y blynyddoedd cynnar, beth bynnag am y blynyddoedd diweddarach.

'Ond rhaid imi ddweud y peth sy'n ffaith: ni chafodd syniadau politicaidd Maurras nemor ddim effaith arnaf,' ebe Saunders Lewis yn ei Lythyr at Gruffydd.